Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am dai amlfeddiannaeth

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am dai amlfeddiannaeth.

Sawl HMO trwyddedig sydd yn Abertawe?

Gweler y nifer o dai amlfeddiannaeth trwyddedig yn Abertawe a'u cyfeiriadau yn www.abertawe.gov.uk/cofrestrhmo.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am y gofrestr neu agweddau eraill ar drwyddedu HMO, ffoniwch y Tîm HMO ebostiwch hph@abertawe.gov.uk.

Beth yw'r gwir gyfanswm o refeniw treth y cyngor a gollir o'r eiddo hynny sy'n cael eu heithrio rhag talu treth y cyngor?

Caiff rhai tai amlfeddiannaeth at ddibenion treth y cyngor, megis y rhai a feddiennir gan fyfyrwyr, eu heithrio rhag treth y cyngor. Nid yw'r cyngor yn colli incwm o eiddo sy'n cael eu heithrio'n gyfreithiol rhag treth y cyngor. Mae cyfrifiad sylfaen treth y cyngor sy'n pennu sawl eiddo a fydd yn cael ei gynnwys wrth godi'r trethi cyngor gofynnol yn hepgor eiddo ag eithriad.

Faint o ad-daliad ydych chi'n ei dderbyn gan Llywodraeth Cymru neu lywodraeth San Steffan ar gyfer y cannoedd o eiddo nad ydynt yn cyfrannu at yr un gwasanaethau y mae perchnogion tai yn talu amdanynt?

Mae Llywodraeth Cymru'n pennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a roddir i'r cyngor ac mae hyn yn ystyried nifer yr eiddo yn yr ardal sy'n cael eu heithrio rhag Treth y Cyngor. Byddai unrhyw newid i swm treth y cyngor sy'n daladwy gan berchnogion Tai HMO sydd wedi'u heithrio yn galw am newid mewn deddfwriaeth sylfaenol. Ni nodir swm y Grant Cynnal Refeniw sy'n perthyn i dai HMO sy'n cael eu heithrio yn y grant felly ni chedwir y data hwn gennym ni.

Sut gallaf wneud cais am gopi o'r gofrestr?

Gallwch chwilio'n cofrestr o HMOs trwyddedig am eiddo penodol neu weld yr hyn sy'n drwyddedig mewn stryd ar ein gwe-dudalen.

Cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB) Cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB)

Os hoffech wenud cais am gopi o'r gofrestr lawn neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y gofrestr neu agweddau eraill ar drwyddedu HMO, e-bostiwch evh@abertawe.gov.uk. Sylwer nad oes angen cyflwyno Cais Rhyddid Gwybodaeth am yr wybodaeth hon.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mai 2024