Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am drwyddedau sŵ

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedau sŵ.

Rhoddir trwyddedau sw yn unol â Deddf Trwyddedu Sŵau 1981

Mae 2 drwydded ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024)

2023: rhoddwyd 2 drwydded
2022:  rhoddwyd 2 drwydded
2021:  rhoddwyd 2 drwydded

Pa mor aml y mae angen iddynt adnewyddu eu trwydded?

Bydd y drwydded wreiddiol (h.y. y drwydded gyntaf a roddwyd i'r sw) yn para am bedair blynedd. Bydd unrhyw drwydded olynol yn para am chwe blynedd.

Pa fangre sy'n meddu ar drwydded sŵ ar hyn o bryd?

Plantasia a'r Hyddgre Ceirw Cymreig yn Fferm Poundffald.

Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder am sw trwyddedig?

Os ydych yn pryderu am arferion sw trwyddedig neu'r amodau y cedwir yr anifeiliaid ynddynt, cysylltwch â'r isadran Trwyddedu Anifeiliaid yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk, gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.

Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth: Sŵau

Close Dewis iaith