Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am fand eang

Cwestiynau cyffredin am fand eang a signal ffonau symudol.

Beth yw band eang ffeibr?

Mae Band Eang Ffibr yn defnyddio cebl Ffeibr Optig i gysylltu eich cartref ag adeilad y gyfnewidfa. Mae tri math Fand eang:

  1. Band eang copr (band eang dros y llinell ffôn) sydd wedi bod yn asgwrn cefn i strwythur y rhyngrwyd ers sawl degawd. Mae'r dechnoleg hon yn defnyddio ceblau copr yn eich cartref (cyflymder llwytho ar gyfartaledd o 10-11 megabit yr eiliad)
  2. Mae ffibr i'r cabinet yn defnyddio ceblau ffibr optegol o'r gyfnewidfa i'r cabinet ac yna cebl copr i'ch cartref (cyflymder uchaf o 80mbps - yn dibynnu ar y pellter o'r cabinet)
  3. Ffibr o'r gyfnewidfa yn uniongyrchol i'ch cartref. (1,000 mbps / 1GB)

Sut alla i wirio fy nghyflymder band eang?

Gwirio cyflymder eich band eang (Which) (Yn agor ffenestr newydd)

Beth yw manteision rhwydwaith band eang ffibr llawn?

  • Yn fwy dibynadwy, yn llai agored i ymyriadau
  • Gall mwy o ddyfeisiau gael mynediad i'r band eang ar yr un pryd a chael cyflymderau cyson
  • Cyflymder lanlwytho cyflymach i bobl sy'n gweithio gartref, yn uwchlwytho ffeiliau mwy a chwarae gemau
  • Cysylltiad dibynadwy ar gyfer galwadau fideo a rhannu ffeiliau mawr
  • Ffrydio rhaglenni byw a gwasanaethau adloniant eraill
  • Meithrin profiadau i fyfyrwyr ac athrawon fel y gallant gael mynediad i adnoddau dysgu ar-lein a phyrth
  • Ychwanegu gwerth at eich eiddo
  • Gwych i fusnesau gan fod ceblau ffibr yn gallu gwrthsefyll tywydd gwael yn well, yn gwrthsefyll ymyrraeth electromagnetig ac nid yw pellter yn effeithio ar led band
  • Mae prisiau band eang ffibr llawn bron yr un pris â band eang cyflym iawn ond gyda chyflymder ac ansawdd gwarantedig
  • Mae costau gosod yn amrywio o eiddo i eiddo ond yn y rhan fwyaf o amgylchiadau maent am ddim
  • Mae rhai Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn cynnig bargeinion gostyngol i gwsmeriaid incwm isel sy'n bodloni eu meini prawf cymhwysedd

Pam nad ydw i wedi cael band eang ffeibr eto?

Mae band eang ffeibr yn rhaglen beirianyddol anodd gan ei bod yn disodli'r seilwaith band eang copr presennol. Efallai y byddant yn defnyddio seilwaith presennol o fewn yr adeilad ond er mwyn cael ffeibr i redeg yn uniongyrchol i mewn i gartrefi a busnesau, gall olygu llawer iawn o waith peirianneg sifil mewn lleoliadau anodd neu anghysbell weithiau.

Ble a phryd fydd band eang ffeibr ar gael?

Mae ffeibr yn cael ei gyflwyno i filoedd ar draws y sir drwy gyflwyniadau masnachol neu gynlluniau a ariennir gan y Llywodraeth megis y Cynllun Talebau Gigabit (Yn agor ffenestr newydd) a ​​​​​​​Phrosiect Gigabit (Yn agor ffenestr newydd).

Cyflenwyr band eang

Gallaf weld cabinet y tu allan, pam na alla i gael fy nghysylltu?

Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr, os nad pob un, wedi symud i osod ffibr i'r eiddo yn hytrach na ffibr i'r cabinet.

Mae'n bosibl y gallwch archebu gwasanaeth yn barod, teipiwch eich cod post i'r Gwiriwr Argaeledd Band Eang i wirio: Argaeledd band eang (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd). Neu cysylltwch â chyflenwr i drafod eich opsiynau gyda nhw. 

Rhoddodd cyflenwr ffibr ar y polion flynyddoedd yn ôl, ond mae wedi cael ei adael yno, pam na allant ddod i'w gysylltu?

Yn yr amgylchiadau hyn, dylech gysylltu â'r cyflenwr i gael rhagor o wybodaeth. Mae'n bosibl y gallwch archebu gwasanaeth yn barod, teipiwch eich cod post i'r Gwiriwr Argaeledd Band Eang i wirio: Argaeledd band eang (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd)

Nid oes unrhyw arian cyhoeddus wedi'i ddefnyddio i dalu am ffeibr rhannol sy'n cael ei adnabod yn gyffredin fel asedau segur; mae Llywodraeth Cymru dim ond yn talu am asedau sydd wedi'u galluogi i ddarparu cysylltiad band eang cyflym iawn i gartref neu fusnes.

Ni allaf gael ffibr / band eang cyflym iawn. Beth yw fy opsiynau?

Mae yna atebion eraill sydd ar gael ar unwaith a all ddarparu band eang yn eich cartref. Nid oes angen darparu pob band eang trwy geblau, gall amrywio o 4G, diwifr neu loeren.

Mae llwybryddion 4G wedi profi'n effeithlon mewn lleoliadau anghysbell lle mae signal awyr agored cryf. Gall gosod antena neu ddysgl sy'n pwyntio yng ngolwg mast 4G roi mwy o gyflymder.

Mae cyllid ar gael i helpu i ariannu cost gosod datrysiad amgen drwy Gynllun Allwedd Band Eang Cymru (Yn agor ffenestr newydd). Gall y Cynllun gynnig hyd at £800 yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd.

Pam mae fy mand eang yn byffro?

Mae byffro yn cael ei achosi gan nifer o ffactorau fel:

  • cyflymder cysylltiad isel
  • defnyddwyr eraill ar y rhyngrwyd
  • amrywiadau yn y rhwydwaith o ochr y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd
  • y Wi-Fi yn gorfod mynd trwy waliau neu rwystrau eraill
  • gwallau ar y llinell

Mae gan wefan Ofcom rai awgrymiadau defnyddiol i gadw cysylltiad: Cadw’r cysylltiad â'ch gwasanaethau band eang a ffôn (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd)

Rwy'n byw ar aelwyd incwm isel ond mae angen band eang, sut gallaf leihau costau?

Mae rhai Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn cynnig bargeinion gostyngol ar gyfer rhai cwsmeriaid incwm isel o'r enw Tariffau Cymdeithasol: Tariffau cymdeithasol: Pecynnau band eang a ffôn rhatach (Ofcom) (Yn agor ffenestr newydd)

A gaf i drafod hyn gyda fy Aelod o'r Senedd neu Aelod Seneddol? 

Gall eich cynrychiolydd Senedd lleol helpu i godi'r mater gyda phartïon perthnasol ond nid yw'r polisi Telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru. Gall eich Aelod Seneddol godi'r mater gyda Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y polisi telathrebu.

Beth gall y Cyngor ei wneud?

Gallwn helpu drwy ddarparu gwybodaeth a chymorth i breswylwyr ynghylch yr opsiynau sydd ar gael. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, gweithredwyr telathrebu ac Ofcom.

Beth yw darpariaeth symudol?

Cyfeirir ato'n aml fel 'Signal' ac mae darpariaeth symudol yn cyfeirio at gryfder y signal yn yr ardal y mae eich ffôn symudol yn ei ddefnyddio i wneud galwadau ffôn, anfon negeseuon neu ddefnyddio'r rhyngrwyd.