Cwestiynau cyffredin am fridio cŵn
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am fridio cŵn.
Rydym yn rhoi trwyddedau'n unol â Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.
Mae 14 o drwyddedau ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024):
- 4: 1-5 o eist bridio yn y cartref
- 2: 6-10 o eist bridio yn y cartref
- 8: Cytiau allanol
2023: rhoddwyd 17 o drwyddedau
2022: rhoddwyd 22 o drwyddedau
2021: rhoddwyd 24 o drwyddedau
Pa amodau sy'n gofyn bod bridiwr yn gorfod cael trwydded bridio o fewn eich awdurdod lleol (e.e. os yw'n bridio dros nifer penodol o dorllwythi)?
Rydym ni'n defnyddio Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 - Bridio cŵn: dehongliad 5.-(1) Mae person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o'r Ddeddf os yw'n cadw 3 neu ragor o eist bridio mewn mangre, ac:
- yn bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
- yn hysbysebu ar werth o'r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;
- yn cyfenwi o'r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis; neu
- yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o'r fangre honno.
Pa mor aml y mae angen iddyn nhw adnewyddu eu trwydded?
Mae angen adnewyddu'r trwyddedau'n flynyddol.
Ydych chi wedi diddymu unrhyw drwyddedau bridiwr?
2024: Dim
2023: Dim
2022: Dim
2021: Dim
2020: Dim
Faint o geisiadau am drwyddedu sefydliad bridio cŵn gafodd eu gwrthod bob blwyddyn o 2010 tan 2024?
Dim.
Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder am fridiwr cŵn trwyddedig?
Os ydych yn pryderu am arferion bridiwr cŵn trwyddedig neu'r amodau y cedwir y ci ynddynt, cysylltwch evh.licensing@swansea.gov.uk gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.
Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.
Rhagor o wybodaeth: Bridwyr cŵn