Cwestiynau cyffredin am letya anifeiliaid yn y cartref
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am letya anifeiliaid yn y cartref.
Rhoddir trwyddedau lletya anifeiliaid yn y cartref lle cedwir nifer bach o gŵn o fewn amgylchedd y cartref yn unig, yn unol â Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963.
Mae 55 trwydded ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024):
- 26 ar gyfer llai na 6
- 29 ar gyfer mwy na 6
2023: rhoddwyd 61 trwydded
2022: rhoddwyd 55 trwydded
2021: rhoddwyd 50 trwydded
Pa mor aml y mae angen iddyn nhw adnewyddu eu trwydded?
Mae angen adnewyddu'r trwyddedau'n flynyddol.
Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder am letywr anifeiliaid yn y cartref trwyddedig?
Os ydych yn pryderu am arferion lletywr anifeiliaid yn y cartref trwyddedig neu'r amodau y cedwir y cŵn ynddynt, cysylltwch â'r isadran Trwyddedu Anifeiliaid yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk, gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.
Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.
Rhagor o wybodaeth: Lletya anifeiliaid