Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am sefydliadau lletya anifeiliaid

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am sefydliadau lletya anifeiliaid.

Rhoddir trwyddedau sefydliadau lletya anifeiliaid yn unol â Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963.

Mae 15 trwydded ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024)

2023: rhoddwyd 18 trwydded
2022: rhoddwyd 16 trwydded
2021: rhoddwyd 16 trwydded

Pa mor aml y mae angen iddyn nhw adnewyddu eu trwydded?

Mae angen adnewyddu'r trwyddedau'n flynyddol.

Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder am sefydliadau lletya anifeiliaid trwyddedig? 

Os ydych yn pryderu am arferion sefydliadau lletya anifeiliaid trwyddedig neu'r amodau y cedwir yr anifeiliaid ynddynt, cysylltwch â'r isadran Trwyddedu Anifeiliaid yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk, gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.

Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth: Lletya anifeiliaid