Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am sefydliadau marchogaeth

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am sefydliadau marchogaeth.

Rhoddir trwyddedau sefydliadau marchogaeth yn unol â Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964.

Mae 3 trwydded ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024) gyda 7 neu fwy o geffylau.

2023: rhoddwyd 3 trwydded
2022:  rhoddwyd 4 trwydded
2021:  rhoddwyd 2 drwydded

Pa mor aml y mae angen iddynt adnewyddu eu trwydded?

Rhaid adolygu eu trwyddedau'n flynyddol.

Beth sy'n digwydd os oes gan aelod o'r cyhoedd bryder am sefydliad marchogaeth trwyddedig?

Os ydych yn pryderu am arferion sefydliad marchogaeth trwyddedig neu'r amodau y cedwir y ceffylau ynddynt, cysylltwch â'r isadran Trwyddedu Anifeiliaid yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk, gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.

Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth: Sefydliadau marchogaeth

Close Dewis iaith