Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am y seremoni

Atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am seremonïau priodas a phartneriaeth sifil.

A all un ohonom fod yn 'ffasiynol o hwyr'?

Yn anffodus, na chewch. Fel a nodir uchod, mae'n rhaid i chi fod yn barod i ddechrau eich seremoni ar amser oherwydd byddwn yn cynnal seremonïau eraill ar ôl eich un chi, mwy na thebyg. Ni allwn fentro bod yn hwyr ar gyfer seremoni pâr arall. Os ydych yn hwyr ar gyfer eich seremoni chi, mae'n bosib y bydd yn rhaid ei chwtogi neu hyd yn oed ei chanslo, gan beri gofid i chi. Caniatewch ddigon o amser i baratoi a chyrraedd y lleoliad yn ddigyffro ac mewn pryd.

Faint o westeion y gallwn ni eu gwahodd?

Mae'n bwysig cadw at uchafswm gwesteion y lleoliad o'ch dewis, felly gwiriwch y manylion hyn cyn dechrau llunio'ch rhestr o westeion.  Rheoliadau tân sy'n pennu'r niferoedd hyn ac ni all staff y swyddfa gofrestru neu'r lleoliad ganiatáu i fwy o westeion gael mynediad i'r seremoni.

A oes angen i mi ddod ag unrhyw ddogfennaeth adnabod ar ddiwrnod fy seremoni?

Nac oes, gwnaethoch ddarparu tystiolaeth adnabod pan wnaethoch gyflwyno'ch hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil, felly nid oes angen dod ag unrhyw ddogfennau ar y dydd. Nid oes angen i ni weld dogfennaeth adnabod eich tystion chwaith.

A allwn gael mwy nag un dystysgrif priodas?

Gallwch, gallwch brynu mwy nag un dystysgrif. Maent yn £11.00 yr un ar yr amod y telir amdanynt ar ddiwrnod y seremoni. Mae'n ddefnyddiol i ni gael gwybod ymlaen llaw faint o dystysgrifau y bydd eu hangen arnoch. Dylech nodi hyn yn adran 'unrhyw wybodaeth arall' y rhestr wirio.

Oes angen i ni wneud trefniadau arbennig i blant yn ein seremoni?

Rydym yn deall y gall seremonïau ffurfiol fod yn ddiflas i blant ifanc. Os bydd eich plant yn y seremoni, efallai y byddwch am enwebu ffrind neu aelod o deulu dibynadwy er mwyn sicrhau eu bod yn hapus ac yn cael eu diddanu'n ystod y seremoni. Drwy wneud hynny, gallwch fwynhau'r seremoni heb boeni am eich plentyn. Ni ddylai'r gwesteion deimlo'n anghyfforddus wrth orfod sefyll yng nghefn yr ystafell os bydd eu plant mewn gofid yn ystod y seremoni.

Oes unrhyw beth sydd angen i mi ei osgoi wrth ysgrifennu fy addunedau fy hunan neu wrth ddewis cerddoriaeth a darlleniadau?

Mae'r gyfraith yn datgan na ddylai unrhyw gerddoriaeth, addunedau neu ddarlleniadau a ddefnyddir mewn seremoni sifil fod yn grefyddol. Ni fyddech yn gallu cynnwys unrhyw emynau na cherddoriaeth grefyddol. Mae hyn yn cynnwys darnau offerynnol. Yn yr un modd, ni fyddech yn gallu cynnwys unrhyw ddarlleniadau o'r Beibl nac unrhyw weithiau crefyddol eraill, nac unrhyw bennill ag iddi arwyddocâd crefyddol. Gofalwch wrth ddefnyddio unrhyw addunedau ychwanegol. Ni allwn gynnwys ymadroddion a fyddai'n cael eu defnyddio mewn seremoni grefyddol, e.e. i'th gadw a'th gynnal, o'r dydd hwn ymlaen... etc. Rhaid trafod unrhyw ychwanegiadau at y seremoni gyda'r cofrestrydd cyn diwrnod eich seremoni.

Pa mor hir bydd y seremoni'n para?

Bydd y cofrestryddion gyda chi oddeutu 30 munud cyn i'r seremoni ddechrau er mwyn cwblhau'r paratoadau rhagarweiniol cyfreithiol ac i sicrhau bod yr holl drefniadau mewn lle. Bydd y seremoni ei hun yn para rhwng 20 a 30 munud, oni bai eich bod wedi cynnwys unrhyw addasiadau.

Allwn ni symleiddio'r seremoni sifil?

Efallai y byddwch am symleiddio'r seremoni am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael dathliad arall dramor neu fendith grefyddol, neu eich bod yn nerfus ac yn anghyfforddus wrth siarad o flaen nifer mawr o westeion. Rydym yn hapus i ddarparu ar gyfer eich dymuniadau ar gyfer seremoni wedi'i symleiddio. Trafodwch unrhyw ofyniad neu bryderon sydd gennych â ni.

Pwy dylem eu dewis fel tystion?

Rhaid i chi ddewis dau dyst ond gallent fod yn aelodau'r teulu neu'n ffrindiau. Fel arfer byddwn yn gofyn iddynt fod dros 18 oed. Mae'n rhaid iddynt fod yn yr ystafell yn ystod y seremoni gyfan ac mae'n rhaid eu bod yn deall yr addunedau a natur a diben y seremoni maent wedi bod yn dystion iddi. Byddant yn llofnodi'r gofrestr briodi gyfreithiol i gadarnhau eu bod wedi tystio addunedau eich priodas.

Sut byddwn yn llofnodi'r gofrestr?

Bydd gofyn i chi a'ch tystion lofnodi eich llofnod arferol ar y gofrestr. Os ydych yn newid eich enw, byddwch yn llofnodi â'r enw yr oeddech yn ei ddefnyddio cyn eich priodas. Cyn i chi lofnodi, bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi wirio'r cofnod yn ofalus. Mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni os oes unrhyw beth o'i le oherwydd mae'n hawdd ei gywiro ar yr adeg honno. Os ydych chi'n dod o hyd i gamgymeriad ar ôl llofnodi'r gofrestr bydd angen i chi wneud cais i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol am gywiriad ffurfiol a bydd rhaid talu £90 am hyn.

Oes caniatâd i bobl dynnu lluniau neu fideos o'r seremoni?

Ystyriwch effaith gormod o bobl yn tynnu lluniau yn ystod eich seremoni. Gall ffotograffydd swyddogol dynnu lluniau o'r briodferch wrth iddi gyrraedd y seremoni ac wrth i chi gyfnewid eich modrwyau, er enghraifft. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn iddo ef/hi beidio â thynnu unrhyw luniau sy'n tarfu ar y seremoni wrth i chi gyfnewid eich addunedau cyfreithiol fel nad yw hyn yn torri oddi wrth y foment. Bydd eich ffotograffydd a'ch gwesteion yn cael y cyfle i dynnu lluniau cyn i chi lofnodi'r gofrestr swyddogol ac wrth i chi ymadael. Mae croeso i chi osod camera fideo er mwyn recordio'ch diwrnod arbennig.

A allwn ni ddod ag anifail anwes i'r seremoni?

Ni chaniateir i chi ddod ag unrhyw anifail i'r seremoni ei hun os ydych yn priodi yn y Ganolfan Ddinesig er, wrth gwrs, y caniateir cŵn cymorth megis cŵn tywys neu gŵn clywed. Os byddwch yn priodi mewn lleoliad cymeradwy, bydd angen i chi drafod eich dymuniadau â nhw'n uniongyrchol.

Beth os bydd angen i ni ganslo'r seremoni?

Os nad ydych yn bwriadu bwrw ymlaen â'ch seremoni, dylech ffonio'r Swyddfa Gofrestru i roi gwybod i ni ond ni allwn ganslo seremoni heb gadarnhad ysgrifenedig. Os yw eich seremoni i'w chynnal yn un o'r lleoliadau trwyddedig, mae'n rhaid i chi hysbysu'r lleoliad a'r gwasanaeth cofrestru ar wahân. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych am ganslo cyn gynted â phosib fel y gallwn wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'n dyddiadur.

A allwn ni gael seremoni ar y traeth neu ar dir y lleoliad o'n dewis?

Mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i seremoni briodas neu bartneriaeth sifil gael ei chynnal mewn adeilad sydd wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw. Oherwydd hynny, nid yw'n bosib cynnal seremoni ar y traeth neu mewn pabell fawr, er enghraifft, ar hyn o bryd.

Hoffwn gynnwys bendith grefyddol. Ydy hyn yn bosibl?

Mae lleoliadau trwyddedig wedi'u trwyddedu i gynnal seremonïau priodasau sifil a phartneriaethau sifil yn unig. Gall fod yn bosib cael bendith yn y lleoliad ond mae'n rhaid i hyn gael ei chynnal ar ôl i'r seremoni sifil gael ei chwblhau. Hefyd, mae'n rhaid bod bwlch clir rhwng y ddwy seremoni. Trafodwch hyn â'r cofrestryddion cyn gwneud unrhyw drefniadau.

Ydw i'n gallu newid fy enw ar fy mhasbort cyn y seremoni?

Gallwch wneud cais i newid eich enw ar eich pasbort hyd at dri mis cyn dyddiad y seremoni drwy gyflwyno cais i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort a chwblhau'r ffurflen angenrheidiol. Mae'n rhaid i'r cofrestrydd lofnodi rhan o'r ffurflen hefyd. Sicrhewch mai'r un enw sydd ar eich tocynnau hedfan/teithio a'ch pasbort os ydych yn teithio dramor ar ôl eich seremoni.

Close Dewis iaith