Priodasau a phartneriaethau sifil
Mae gan Abertawe'r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth sifil. O olygfeydd godidog dros Fae Abertawe i harddwch eithriadol Penrhyn Gŵyr, rydych yn siŵr o ddod o hyd i'ch lleoliad delfrydol.
Lle bynnag y byddwch yn dewis cynnal eich seremoni gallwn helpu i wneud eich diwrnod yn wirioneddol arbennig.
Os oes gennych ymholiad am eich priodas neu'ch partneriaeth sifil, peidiwch â ffonio'r Swyddfa Gofrestru. E-bostiwch eich ymholiad i cofrestryddion@abertawe.gov.uk.
Cynhelir seremonïau yn y Ganolfan Ddinesig. Os trefnwyd i'ch seremoni gael ei chynnal yn y Swyddfa Gofrestru, bydd angen i chi ddod â dau dyst yn unig. Os cynhelir eich seremoni yn Ystafelloedd Seremoni Bae Abertawe, gallwch ddod ag uchafswm o 55 o westeion (gan gynnwys plant).
Mae'n ofynnol i leoliadau cymeradwy fel gwestai a lleoliadau lletygarwch gau ac eithrio mewn rhai amgylchiadau - trafodwch hyn â'ch lleoliad.
Dylai cyplau sydd i fod i briodi mewn man addoli barhau i gysylltu â'r eglwys/capel i weld a all eu seremoni fynd rhagddi.
Os oes gennych ymholiad am eich priodas neu bartneriaeth sifil, anfonwch e-bost i cofrestryddion@abertawe.gov.uk. Ni allwn dderbyn ymholiadau am seremonïau dros y ffôn.
Mae'n rhaid i chi gynnwys dyddiad a lleoliad eich seremoni yn y llinell destun neu ni fyddwn yn gallu ymdrin â'ch ymholiad. Byddwn naill ai'n eich e-bostio neu'n eich ffonio ac yn ymdrin â'r e-byst yn y drefn y cânt eu derbyn. Ar hyn o bryd rydym yn rhoi blaenoriaeth i gyplau y mae eu seremonïau i fod i gael eu cynnal yn fuan.
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.