Cwestiynau cyffredin am gytiau traeth Langland
Cwestiynau cyffredin am gytiau traeth Bae Langland.
Sut ydw i'n casglu fy allweddi?
Mae trwydded cwt yn dechrau ac yn gorffen ar ddiwrnod olaf y cyfnod fel y nodir isod:
- 30 Mawrth 2025 - 27 Mawrth 2026 (12 mis) - £2204
- 30 Mawrth 2025 - 31 Ionawr 2026 (10 mis) - £1889
- 30 Mawrth 2025 - 28 Mehefin 2025 (3 mis) - £651
- 1 Gorffennaf 2025 - 28 Medi 2025 (3 mis) - £651
- 1 Hydref 2025 - 31 Ionawr 2026 (4 mis) - £446
- 1 Hydref 2025 - 27 Mawrth 2026 (6 mis) - £651
Ar fore eich cyfnod gosod byddwch yn derbyn e-bost gyda chôd ar gyfer clo cyfunrhif i gael mynediad i'ch cwt traeth. Mae'r côd yn arbennig ar gyfer eich cwt chi ac ni ellir ei ddefnyddio i gael mynediad i unrhyw gwt arall. Peidiwch â newid y côd na thynnu'r clo. Os bydd gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad i'ch cwt traeth gallwch gysylltu â chyngor Abertawe ar; 07970 322797 / 07900 702794 neu e-bostiwch Gosod.Parciau@abertawe.gov.uk
Ar ddiwedd eich cyfnod gosod sicrhewch fod eich cwt yn wag a bod y clo cyfunrhif wedi'i osod ar y drws.
Sut ydw i'n gwneud cais am gwt?
Mae ceisiadau ar gael ar-lein ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r broses ymgeisio yn cau ddechrau mis Chwefror a chaiff enwau eu tynnu o het wrth ddyrannu cytiau, i sicrhau tegwch. Byddwn yn anfon e-bost atoch i ddweud wrthych a ydych wedi bod yn llwyddiannus a bydd gennych 10 niwrnod i wneud eich taliad a sicrhau eich archeb.
Pa mor hygyrch yw'r cytiau?
Mae gan gytiau 1-10 lethr laswelltog o'u blaenau, ond gellir eu cyrraedd ar lwybr sy'n rhedeg i ochr rhif 10. Mae mannau parcio i'r anabl y tu ôl i'r bloc cytiau. Gellir mynd i mewn i gytiau 11-20 trwy ddefnyddio'r grisiau. Y cytiau o 80 yn ôl sydd agosaf at y toiledau cyhoeddus.
Ydy'r cytiau'n cynnwys trydan a dŵr?
Nid oes gan y cytiau drydan na phrif gyflenwad dŵr.
A allaf ddewis y cwt rwy'n ei gael?
Wrth ddyrannu cytiau, caiff enwau eu tynnu ar hap i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ofynion arbennig y mae angen i ni eu hystyried, gellir crybwyll hyn.
A allaf ddefnyddio barbeciwiau o flaen fy nghwt?
Rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio barbeciwiau o flaen y cytiau. Dylai'r llwybr cerdded o flaen y cwt gael ei gadw'n glir bob amser er mwyn sicrhau bod yr hawl tramwy yn cael ei chynnal.
A ganiateir cŵn ar y traeth?
Mae gan Fae Langland gyfyngiad tymhorol ar ganiatáu cŵn. Mae hyn yn golygu na chaniateir i gŵn ddefnyddio'r traeth rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.
A allaf wneud unrhyw newidiadau yn y cwt e.e. gosod silffoedd?
Ni chaniateir unrhyw newidiadau parhaol i'r cytiau. Rhaid tynnu unrhyw ddodrefn sydd y tu mewn i'r cwt hefyd ar ddiwedd eich trwydded.
Sut ydw i'n adrodd am ddifrod?
Rhaid adrodd am unrhyw ddifrod i adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe ar 07970 322797 / 07900 702794 neu ebost parks.lettings@swansea.gov.uk.
Pa gyfleusterau sydd gerllaw?
Mae gan y traeth nifer o gaffis a bwytai sy'n gwerthu lluniaeth, ynghyd â chyfleuster toiled a chawod ar ochr ddwyreiniol y traeth ger cwt rhif 80.
A allaf ddefnyddio fy nghwt traeth i arddangos posteri neu i hysbysebu?
Ni chaniateir unrhyw hysbysebu ar y cytiau ac yn allanol rhaid i bob cwt aros yr un peth â phan wnaethoch chi ei dderbyn.