Cwestiynau cyffredin am lywodraethwyr ysgol
Rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni.
Pryd y cynhelir cyfarfodydd y corff llwyodraethu?
Ydych chi'n cael eich talu i fod yn llywodraethwr?
Beth sy'n digwydd mewn cyfarfod y corff llywodraethu?
Beth yw'r ymrwymiadau o ran amser gyda dod yn llywodraethwr?
Pa bwyllgorau sydd ar gael?
Sut y pennir aelodaeth y pwyllgor?
Oes angen i chi fod yn rhiant i fod yn llywodraethwr?
Beth yw'r broses ymgeisio?
Oes hyfforddiant ar gael?
Oes cyrff llywodraethu gwahanol mewn ysgolion ffydd?
Am faint o flynyddoedd ydych chi'n cael eich penodi'n llywodraethwr?
A oes gennych hawl i amser i ffwrdd o'r gwaith?
Oes rhaid bod gennych gefndir mewn addysg?
Pa sgiliau sy'n ddefnyddiol?
Faint o bobl sydd ar gorff llywodraethu?
A oes unrhyw oppsiynau gofal plant pan fyddaf yn mynd i gyfarfod?
Mae gen i anabledd, a alla i ddod yn llywodraethwr o hyd?
Pryd y cynhelir cyfarfodydd y corff llywodraethu?
Mae'n dibynnu ar yr ysgol, fodd bynnag cynhelir y cyfarfodydd fel arfer ar ôl i'r diwrnod ysgol ddod i ben, gan ddechrau unrhyw amser rhwng 3.30pm a 6pm ond mae rhai ysgolion yn cynnal cyfarfodydd yn ystod y diwrnod ysgol.
Ydych chi'n cael eich talu i fod yn llywodraethwr?Nac ydych, mae hon yn rôl y byddwch yn ei hystyried yn werth chweil mewn nifer o ffyrdd.
Beth sy'n digwydd mewn cyfarfod y corff llwyodraeth?
Caiff cyfarfodydd eu cadeirio gan Gadeirydd y Llywodraethwyr yn dilyn agenda, gyda'r holl lywodraethwr yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau heriol ynghylch cynnal yr ysgol. Bydd clerc y llywodraethwyr yn cymryd cofnodion yn y cyfarfod, gan gofnodi penderfyniadau allweddol.
Beth yw'r ymrwymiadau o ran amser gyda dod yn llywodraethwr?
Mae'n rhaid i'r corff llywodraethu gyfarfod o leiaf unwaith y tymor. Mae cyfarfodydd, ar gyfartaledd, yn para 1.5 i 2 awr. Efallai y gofynnir i chi fod yn bresennol mewn o leiaf un cyfarfod. Bydd pa mor aml y cynhelir y rhain yn amrywio, ond nid yw'n anarferol i rai pwyllgorau gwrdd bob hanner tymor.
Pa bwyllgorau sydd ar gael?
Pwyllgorau statudol (yn cynnull pan fo angen yn unig):
Disgyblu a diswyddo staff
Apeliadau disgyblu a diswyddo staff
Disgyblu a gwahardd disgyblion
Derbyniadau (ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn unig)
Mae enghreifftiau o bwyllgorau anstatudol fel a ganlyn:
Cyllid
Iechyd a diogelwch
Cwricwlwm
Cyflog a phersonél
Sut y pennir aelodaeth y pwyllgor?
Cytunir ar aelodaeth y pwyllgor yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol a gynhelir, fel arfer, yn nhymor yr hydref.
Oes angen i chi fod yn rhiant i fod yn llywodraethwr?
Nac oes, y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn barod i weithio fel rhan o dîm i gefnogi, herio, a gofyn cwestiynau i helpu ein hysgolion i wella fel y gall plant ffynnu.
Beth yw'r broses ymgeisio?
Mae hyn yn dibynnu'n llwyr ar y categori llywodraethwr:
Rhiant - Caiff rhieni-lywodraethwyr eu hethol fel cynrychiolwyr diddordebau rhieni disgyblion sy'n mynychu'r ysgol ar hyn o bryd. Gall rhieni-lywodraethwr fynegi barn bersonol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu, er disgwylir i'r farn honno adlewyrchu diddordebau rhieni yn yr ysgol.
Awdurdod lleol - penodir y rhain gan Gyngor Abertawe drwy Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr awdurdod lleol sy'n cynnwys y Cyfarwyddwr Addysg ag Aelod y Cabinet dros Addysg.
Cymunedol - Gwahoddir y llywodraethwyr hyn gan lywodraethwyr eraill i ymuno â'r corff llywodraethu a chânt eu penodi gan y corff llywodraethu. Mae aelodau cymunedol yn dod â'u profiad eu hunain.
Athrawon - etholir y rhain gan staff addysgu yn eu hysgol.
Staff - etholir y rhain gan aelodau staff un eu hysgol.
Cymunedol ychwanegol - enwebir y rhain gan y cyngor cymuned yn yr ardal.
Sylfaen (ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol) - enwebir y rhain gan yr esgobaeth.
Oes hyfforddiant ar gael?
Oes, mae rhaglen hyfforddiant llywodraethwyr helaeth ar gael gan yr awdurdod lleol.
Oes cyrff llywodraethu gwahanol mewn ysgolion ffydd?Mae gan ysgolion ffydd lywodraethwyr "sylfaenol" yn lle llywodraethwyr cymunedol a benodir gan yr esgobaeth.
Am faint o flynyddoedd ydych chi'n cael eich penodi'n llywodraethwr?Fe'ch penodir am gyfnod o bedair blynedd ond gallwch wneud cais i gael eich ailbenodi ar ôl i'ch cyfnod ddod i ben os ydych yn dymuno. Gallwch dynnu'n ôl ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn.
A oes gennych hawl i amser i ffwrdd o'r gwaith?
Mae nifer o gyflogwyr yn annog eu staff i ddod yn llywodraethwyr ysgolion. Maent yn sylweddoli bod y sgiliau a ddatblygir trwy fod yn llywodraethwr ysgol yn drosglwyddadwy i'r gweithle.
Mae cyfraith cyflogaeth yn rhoi'r hawl i bobl gael amser rhesymol, di-dâl i ffwrdd o'r gwaith ac mae rhai cyflogwyr yn rhoi absenoldeb â thâl ar gyfer dyletswyddau llywodraethwyr ysgol.
Oes rhaid bod genych gefndir mewn addysg?Nac oes, nid oes angen gwybodaeth gyfredol arnoch am y system addysg bresennol ac nid oes rhaid i chi fod wedi cael eich addysgu yn y DU ond mae'r canlynol yn bwysig:
- Ymrwymiad i gyflawni hyfforddiant gorfodol newydd i lywodraethwyr a hyfforddiant atodol arall y gellir ei nodi er mwyn diweddaru gwybodaeth a sgiliau, a fydd yn gwella effeithiolrwydd unigolyn fel llywodraethwr.
- Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu yn rheolaidd ynghyd ag unrhyw bwyllgorau y cewch eich penodi iddynt.
- Awydd i godi safonau addysg yn yr ysgol.
- Parodrwydd i rannu sgiliau ac arbenigedd yng nghyd-destun y corff llywodraethu.
Pa sgiliau sy'n ddefnyddiol?
Dyma rai o'r sgiliau sy'n fuddiol i rôl y llywodraethwr:
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad generig:
- Llywodraethu ysgol
- Cynllunio strategol
- Hunanwerthuso a / neu asesiad effaith
- Dadansoddi data
- Profiad o recriwtio staff
- Rheoli perfformiad (staff / sefydliad)
- Cysylltiadau cymunedol
- Cadeirio / arweinyddiaeth
- Hyfforddi / mentora
- Trafod a chyfryngu
- Trafod cwynion, achwyniadau, apeliadau
- Asesiad risg
Gwybodaeth leol:
- Gwybodaeth am yr ysgol
- Gwybodaeth am y gymuned leol
- Gwybodaeth am ffynoellau gwybodaeth / data perthnasol
Gwybodaeth neu brofiad arbenigol:
- Rheolaeth ariannol / cyfrifeg
- Rheoli ystadau (adeiladau a safleoedd)
- Arbenigedd adnoddau dynol
- Caffael / prynu
- Cyfreithiol
- Systemau TGCh a / neu reoli gwybodaeth
- Profiad o gysylltiadau cyhoeddus a marchnata / masnachol
- Addysgu ac addysgeg
- Anghenion dysgu ychwanegol ac anabledd
- Gwasanaethau neu weithgareddau plant a phobl ifanc
- Gwasanaethau iechyd
- Diogelu
- Ysgolion cynradd
- Ysgolion Uwchradd
- Rheoli prosiectau
- Iechyd a diogelwch
- Sicrhau ansawdd
Mae rhaglen hyfforddiant helaeth ar gael felly rhoddir y cyfle i chi hefyd ddatblygu unrhyw sgiliau sy'n angenrheidiol i'ch cefnogi yn y rôl os oes angen.
Faint o bobl sydd ar gorff llywodraethu?
Ysgolion uwchradd | Ysgolion cynradd |
---|---|
Pennaeth | Pennaeth |
Rhiant 6 / 5 | Rhaint 4 / 3 |
Athro 2 | Athro 2 / 1 |
Awdurdod lleol 5 / 4 | Awdurdod lleol 4 / 3 |
Cymuned 5 / 4 | Cymuned 4 / 3 |
Sylfaen 5 / 4 (ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol) | Sylfaen 5 / 4 (ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol) |
Cymunedol ychwanegol 1 | Cymunedol ychwanegol 1 |
Disgybl cysylltiedig 2 / 1 |
A oes unrhyw opsiynau gofal plant pan fyddaf yn mynd i gyfarfod?
Mae'n well cysylltu â'r ysgol i drafod hyn ymhellach.
Mae gen i anabledd, a alla i ddod yn llywodraethwr o hyd?Gallwch, rydym yn croesawu pobl o bob cefndir gan gynnwys pobl anabl. Awgrymwn eich bod yn siarad â'r ysgol yn uniongyrchol i drafod eich gofynion a sut y gellir bodloni'r rhain orau.