Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwynion am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn anelu i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl sy'n byw yn Ninas a Sir Abertawe. Gall fod, fodd bynnag, adegau pan fydd pethau'n mynd o chwith ac efallai y bydd defnyddiwr gwasanaeth, neu rywun sy'n ddigon pryderus am eu lles, eisiau cwyno.

Mae'r gyfraith yn dweud fod gennych chi'r hawl i fynegi eich barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ynghylch ein gwasanaethau - da neu ddrwg.   Trwy ddweud wrthym am y pethau yr ydych yn anhapus yn eu cylch neu beth aeth yn dda, rydych yn ein helpu ni i wella'r ffordd rydym yn darparu'n gwasanaethau.

Yn gyntaf dylech ddweud wrth aelod o staff sy'n darparu cymorth yr hyn rydych chi'n teimlo sydd o'i le a gadewch iddynt gael y cyfle i wella pethau i chi.

Os nad yw hwn yn adfer y broblem i'ch bodloni gallwch gysylltu â'n Swyddog Cwynion i wneud cwyn, neu os oes angen help arnoch i wneud hyn.

Gallwch wneud cwyn dros y ffôn, yn ysgrifenedig (llythyr neu e-bost) neu trwy lenwi ffurflen ar-lein.

Darllenwch Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth am sut mae'r broses gwynion yn gweithio a phwy arall sy'n gallu helpu os oes cwyn gennych. 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Tachwedd 2021