Sut gall y Gwasanaethau Cymdeithasol helpu gyda'ch gofal a'ch cefnogaeth
Gwybodaeth am beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â Gwasanaethau Oedolion yn Abertawe.
Mae'r Awdurdod Lleol a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl i wella'u lles. Rydym am gynorthwyo pobl pan fônt yn pryderu am eu lles eu hunain neu les pobl eraill neu maent am rannu pryder.
Gwybodaeth, cyngor a chymorth
Pan fydd person yn cysylltu â ni am y tro cyntaf, bydd un o'n staff hyfforddedig yn gofyn nifer o gwestiynau i ganfod mwy am sefyllfa'r person hwnnw - neu sefyllfa'r person maent yn ffonio yn ei gylch - a pha fath o gefnogaeth fyddai fwyaf defnyddiol.
Ein man cychwyn yw rhoi digon o wybodaeth i bobl ddiwallu eu gofynion personol, a chreu eu cynlluniau gofal a chefnogaeth eu hunain. Ceir dolenni i sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth drwy ein holl we-dudalennau.
Gall anghenion gofal cymdeithasol llawer o bobl gael eu diwallu gan wasanaethau a gweithgareddau a ddarperir yn y cymuned leol. Ein nod yw dweud wrth bobl am yr help sydd ar gael yn lleol, yn eu cymunedau.
Gall ein Tîm Cydlynu Lleol roi gwybodaeth i chi am grwpiau neu sefydliadau yn Abertawe a fyddai'n gallu eich helpu chi.
Ein nod yw darparu gwybodaeth sy'n hawdd ei deall a chael mynediad iddi.
Asesiadau
Yn ogystal â sicrhau bod Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gael i ddinasyddion Abertawe i helpu i hyrwyddo'u lles, mae'n rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig asesiad os ydynt yn meddwl bod angen gofal a chefnogaeth ar rywun, neu gefnogaeth ar ofalwr.
Gall asesiad helpu i weld a oes gan berson anghenion gofal a chefnogaeth, a ganfod a yw'n gymwys am help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Efallai byddwn hefyd yn cynnal asesiad os ydym yn meddwl bod person mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
Lle byddwn yn darparu cefnogaeth neu wasanaethau, bydd hyn yn cael ei angen yn aml am amser byr yn unig, a bydd yn canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r hyder i chi ymdopi'n annibynnol heb ein cefnogaeth.