Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflogaeth plant

Os yw eich plentyn am gael gwaith rhan-amser cyflogedig tra'i fod yn dal yn yr ysgol mae sawl rheol yn berthnasol.

Mae rheolau a rheoliadau llym yn berthnasol i gyflogi plant, sy'n amddiffyn plant rhag unrhyw niwed neu rhag cael eu hecsbloetio. Mae'r gofynion cyfreithiol hyn yn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael eu cofrestru'n gywir, ac nid ydynt yn ymgymryd â gwaith a allai niweidio'u hiechyd, eu rhoi nhw mewn perygl corfforol neu gael effaith niweidiol ar eu haddysg.

Yr awdurdod lleol yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am oruchwylio plant a chanddynt swydd ran-amser ac erlyn unrhyw gyflogwr sy'n torri'r gyfraith.

Mae'n rhaid bod plentyn wedi dathlu ei ben-blwydd yn 13 oed cyn y gall wneud cais am drwydded waith. Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) dan oedran ysgol gorfodol.

Y dyddiad swyddogol ar gyfer gadael yr ysgol yw dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol y mae'r disgybl yn 16 oed. Cyn y dyddiad hwn, gall pobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed wneud cais am drwydded waith ar gyfer gwaith rhanamser. Rhaid cwblhau ffurflen gais wedi'i llofnodi gan y rheini a'r cyflogwr.

Cyfrifoldebau'r cyflogwr

Mae'n rhaid i bob plentyn o oedran ysgol a chanddo swydd ran-amser sy'n gweithio ar gyfer cyflogwr, p'un a yw'n cael ei dalu neu'n gwneud gwaith gwirfoddol, gofrestru gyda'r awdurdod lleol a chael trwydded waith. Y cyflogwr sy'n gyfrifol am wneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi'r plentyn.

Os ydych chi, fel cyflogwr, eisiau cyflogi plant i weithio ar eich cyfer mae'n rhaid i chi ystyried y rheolau a'r rheoliadau sy'n rheoli faint o oriau y gall y plentyn weithio, pa fath o waith y gall y plentyn ei wneud a'r math o fangre y bydd y plentyn yn gweithio ynddi.

Mae'n rhaid i'r cyflogwr lenwi ffurflen cais ar gyfer cyflogi plant, y mae'n rhaid i'r cyflogwr a rhiant / gwarcheidwad y plentyn ei llofnodi. Mae'r cais hwn yn rhoi manylion y plentyn, yr oriau gwaith, y gweithle a'r math o waith y bydd y plentyn yn ei wneud.

Mae'n rhaid i'r cyflogwr gynnal Asesiad Risg Person Ifanc penodol o unrhyw beryglon mewn perthynas â chyflogi'r plentyn, ynghyd â meddu ar yr yswiriant priodol, a rhiad iddo ddweud wrth y rhiant / gwarcheidwad am ganlyniad yr asesiad.

 

Am wybodaeth bellach a ffurflen gais gallwch glicio ar y dogfennau ar ochr-dde y dudalen hon neu fel arall gallwch gysylltu a'r child.employment@abertawe.gov.uk.

Cyflogaeth plant - y weithdrefn ymgeisio

Cyn cyflogi plentyn, mae'n rhaid i'r cyflogwr anfan hysbysiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio ffuflen gais am drwydded gyflogaeth.

Ffurflen Gais Cyflogi Plant (Word)

Ffurflen Gais Cyflogi Plant.

Cyflogaeth plant - asesiad risg (PDF)

Cyflogaeth plant - asesiad risg.

Cyflogaeth plant rownd bapur newydd (PDF)

Cyflogaeth plant rownd bapur newydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024