Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflogaeth plant - y weithdrefn ymgeisio

Cyn cyflogi plentyn, mae'n rhaid i'r cyflogwr anfan hysbysiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio ffuflen gais am drwydded gyflogaeth.

 

  1. Rhan 1 - mae'r cyflogwr yn llenwi, yn llofnodi ac yn dyddio'r  ffurflen cais ar gyfer cyflogi plant (Word doc) [41KB].
  2. Rhan 2 - mae'r rhiant / gofalwr yn gwirio bod yr wybodaeth yn gywir, yn llofnodi ac yn dyddio'r ffurflen.
  3. Mae'r ffurflen wedi'i llenwi'n cael ei dychwelyd i child.employment@abertawe.gov.uk.
  4. Ar ôl derbyn y ffurflen wedi'i chwblhau, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i fodloni ei hun bod y gyflogaeth yn gyfreithlon, ac ni fydd iechyd na lles y plentyn mewn perygl.
  5. Fel rhan o'r broses ymgeisio, rhaid ei fod yn amlwg na fydd unrhyw waith rhan-amser arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar addysg y plentyn. Felly, rydym yn cynnal gwiriad presenoldeb safonol ar gyfer pob ymgeisydd. Sylwer y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu ag ysgol y plentyn os yw ei bresenoldeb dan 90%. Gwneir hyn er mwyn penderfynu a oes modd i'r awdurdod trwyddedu, y rhiant, a'r ysgol ddod i gytundeb ynghylch a ddylid rhoi hawlen neu beidio, er lles gorau'r plentyn.
  6. Hefyd, rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y plentyn yn ddigon iach i wneud y gwaith y bydd yn cael ei gyflogi i'w wneud.
  7. Yna caiff hawlen ei hanfon at y cyflogwr gan gynnwys llun adnabod o'r plentyn. Caiff hawlen ei hanfon at y plentyn hefyd.
  8. Mae'n rhaid bod y plentyn yn gallu dangos yr hawlen adnabod yn ystod ei gyflogaeth, i'w archwilio.
  9. Bydd yr hawlen yn nodi manylion o'r ffurflen cais am gyflogaeth. Gellir cyflogi'r plentyn yn unol â'r manylion hyn yn unig - os bydd angen newid y manylion hyn, e-bostiwch child.employment@abertawe.gov.uk i'w diwygio.
  10. Efallai y byddwn yn archwilio'r gweithle ac yn siarad â'r cyflogwr.
  11. Gall yr awdurdod lleol ddiddymu hawlen gyflogaeth plentyn ar unrhyw adeg os yw'n credu bod y plentyn yn cael ei gyflogi'n anghyfreithlong neu fod ei iechyd, ei les neu ei allu i fanteisio'n llawn ar ei addysg wedi dioddef neu'n debygol o ddioddef o ganlyniad i weithio.

 


Mae'r gyfraith yn dweud

Cyflogaeth a waherddir ar gyfer pob plentyn o oedran ysgol gorfodol:

Ni all plentyn o unrhyw oed gael ei gyflogi:

  • Ar unrhyw ddiwrnod y mae'n absennol o'r ysgol oherwydd salwch.
  • Mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad a roddir gan blant yn unig.
  • I werthu neu ddosbarthu alcohol, heblaw am alcohol mewn cynwysyddion wedi'u selio.
  • I ddosbarthu llaeth.
  • I ddosbarthu olewau tanwydd.
  • Mewn cegin fasnachol.
  • I gasglu neu ddidoli sbwriel.
  • Mewn unrhyw waith sy'n fwy na thri metr uwchben lefel y ddaear, neu, yn achos gwaith mewnol, fwy na thri metr uwchben lefel y llawr.
  • Mewn cyflogaeth sy'n ymwneud â dod i gysylltiad niweidiol â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol.
  • I gasglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws.
  • Gwaith sy'n cynnwys bod yn agored i ddeunydd oedolion neu mewn sefyllfaoedd sydd, oherwydd y rheswm hwn, yn anaddas i blant.
  • Mewn gwerthiannau dros y ffôn.
  • Mewn unrhyw ladd-dy neu y rhan honno o siop cigydd neu adeilad arall sy'n gysylltiedig â lladd da byw, cigyddiaeth neu baratoi carcasau neu gig i'w gwerthu.
  • Fel gwasanaethydd neu gynorthwydd ar gae ffair neu arcêd ddifyrion neu mewn unrhyw fangre arall a ddefnyddir at ddiben adloniant drwy beiriannau awtomatig, gemau siawns neu sgil neu ddyfeisiau tebyg.
  • I ofalu'n bersonol am breswylwyr unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio.

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 14+ oed:

Gellir cyflogi plentyn 14+ oed i ymgymryd â gwaith ysgafn yn unig.

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 13 oed:

Ni chaniateir cyflogi plentyn 13 oed oni bai am i wneud 'gwaith ysgafn' yn un neu ddau o'r categorïau canlynol:

  • Amaethyddol neu arddwriaethol.
  • Dosbarthu papurau newyddion, dyddiaduron a deunyddiau eraill wedi'u hargraffu.
  • Gwaith siop, gan gynnwys llenwi sil-ffoedd.
  • Siopau trin gwallt.
  • Gwaith swyddfa.
  • Mewn caffi neu fwyty.
  • Mewn stablau a llety cŵn / cathdy.
  • Glanhau car â llaw mewn lleoliad preswyl preifat.
  • Gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy'n cynnig llety.

Oriau cyflogaeth a caniateir

Gellir ond cyflogi rhwng 7.00am a 7.00pm.

Pob oedran

Dydd Llun i ddydd Sadwrn - heb fod cyn 7.00am neu ar ôl 7.00pm.

Dydd Sul - 2 awr yn unig - heb fod cyn 7.00am neu ar ôl 11.00am.

Diwrnodau ysgol - 1 awr cyn yr ysgol ac 1 awr ar ôl ysgol neu 2 awr ar ôl ysgol.

13-15 oed

Dydd Sadwrn a gwyliau ysgol eraill - 5 awr ar y mwyaf bob dydd.

Heb fod yn fwy na 25 awr yr wythnos.

15+ oed

Dydd Sadwrn a gwyliau ysgol eraill - 8 awr ar y mwyaf bob dydd.

Heb fod yn fwy na 35 awr yr wythnos.

Ni fydd unrhyw blentyn yn cael ei gyflogi am fwy na 4 awr heb seibiant o leiaf 1 awr at ddibenion ymlacio a hamdden.

Mae'n rhaid i bob plentyn gael o leiaf pythefnos o wyliau'n olynol bob blwyddyn.

12 awr o waith ar y mwyaf yn ystod unrhyw wythnos yn ystod y tymor ysgol.


Diffiniadau

Ystyr Cyflogaeth yw cymorth mewn unrhyw fasnach neu swydd sy'n cael ei gwneud er elw, ni waeth a yw taliad yn cael ei dderbyn am y cymorth hwnnw.

Ystyr Gwaith Ysgafn yw gwaith nad yw'n debygol o beryglu iechyd, diogelwch neu ddatblygiad addysgol y plentyn.

Ystyr 'plentyn' at ddiben yr is-ddeddfau yw person o oedran ysgol gorfodol.

Oedran gadael ysgol gorfodol - dim ond un dyddiad gadael yr ysgol sydd ar gael, sef dydd Gwener olaf mis Mehefin, sef dyddiad olaf eu blwyddyn TGAU (blwyddyn 11). Mae hyn yn berthnasol i blant sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 16 yn ystod y cyfnod hwnnw. Dyma'r unig ddyddiad sy'n nodi nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol mwyach.

Asesiadau risg - mae gan y cyflogwr ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad risg priodol sy'n rhoi ystyriaeth i oedran y plentyn, yr amgylchedd gwaith, profiad, a gallu'r plentyn (Deddf Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999).

Efallai bydd yr awdurdod yn gofyn i'r plentyn gael archwiliad meddygol cyn iddo gymeradwyo hawlen cyflogi plentyn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024