Cyflogaeth plant - y weithdrefn ymgeisio
Cyn cyflogi plentyn, mae'n rhaid i'r cyflogwr anfan hysbysiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio ffuflen gais am drwydded gyflogaeth.
- Rhan 1 - mae'r cyflogwr yn llenwi, yn llofnodi ac yn dyddio'r ffurflen cais ar gyfer cyflogi plant (Word doc) [41KB].
- Rhan 2 - mae'r rhiant / gofalwr yn gwirio bod yr wybodaeth yn gywir, yn llofnodi ac yn dyddio'r ffurflen.
- Mae'r ffurflen wedi'i llenwi'n cael ei dychwelyd i child.employment@abertawe.gov.uk.
- Ar ôl derbyn y ffurflen wedi'i chwblhau, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i fodloni ei hun bod y gyflogaeth yn gyfreithlon, ac ni fydd iechyd na lles y plentyn mewn perygl.
- Fel rhan o'r broses ymgeisio, rhaid ei fod yn amlwg na fydd unrhyw waith rhan-amser arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar addysg y plentyn. Felly, rydym yn cynnal gwiriad presenoldeb safonol ar gyfer pob ymgeisydd. Sylwer y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu ag ysgol y plentyn os yw ei bresenoldeb dan 90%. Gwneir hyn er mwyn penderfynu a oes modd i'r awdurdod trwyddedu, y rhiant, a'r ysgol ddod i gytundeb ynghylch a ddylid rhoi hawlen neu beidio, er lles gorau'r plentyn.
- Hefyd, rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y plentyn yn ddigon iach i wneud y gwaith y bydd yn cael ei gyflogi i'w wneud.
- Yna caiff hawlen ei hanfon at y cyflogwr gan gynnwys llun adnabod o'r plentyn. Caiff hawlen ei hanfon at y plentyn hefyd.
- Mae'n rhaid bod y plentyn yn gallu dangos yr hawlen adnabod yn ystod ei gyflogaeth, i'w archwilio.
- Bydd yr hawlen yn nodi manylion o'r ffurflen cais am gyflogaeth. Gellir cyflogi'r plentyn yn unol â'r manylion hyn yn unig - os bydd angen newid y manylion hyn, e-bostiwch child.employment@abertawe.gov.uk i'w diwygio.
- Efallai y byddwn yn archwilio'r gweithle ac yn siarad â'r cyflogwr.
- Gall yr awdurdod lleol ddiddymu hawlen gyflogaeth plentyn ar unrhyw adeg os yw'n credu bod y plentyn yn cael ei gyflogi'n anghyfreithlong neu fod ei iechyd, ei les neu ei allu i fanteisio'n llawn ar ei addysg wedi dioddef neu'n debygol o ddioddef o ganlyniad i weithio.
Mae'r gyfraith yn dweud
Cyflogaeth a waherddir ar gyfer pob plentyn o oedran ysgol gorfodol:
Ni all plentyn o unrhyw oed gael ei gyflogi:
- Ar unrhyw ddiwrnod y mae'n absennol o'r ysgol oherwydd salwch.
- Mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad a roddir gan blant yn unig.
- I werthu neu ddosbarthu alcohol, heblaw am alcohol mewn cynwysyddion wedi'u selio.
- I ddosbarthu llaeth.
- I ddosbarthu olewau tanwydd.
- Mewn cegin fasnachol.
- I gasglu neu ddidoli sbwriel.
- Mewn unrhyw waith sy'n fwy na thri metr uwchben lefel y ddaear, neu, yn achos gwaith mewnol, fwy na thri metr uwchben lefel y llawr.
- Mewn cyflogaeth sy'n ymwneud â dod i gysylltiad niweidiol â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol.
- I gasglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws.
- Gwaith sy'n cynnwys bod yn agored i ddeunydd oedolion neu mewn sefyllfaoedd sydd, oherwydd y rheswm hwn, yn anaddas i blant.
- Mewn gwerthiannau dros y ffôn.
- Mewn unrhyw ladd-dy neu y rhan honno o siop cigydd neu adeilad arall sy'n gysylltiedig â lladd da byw, cigyddiaeth neu baratoi carcasau neu gig i'w gwerthu.
- Fel gwasanaethydd neu gynorthwydd ar gae ffair neu arcêd ddifyrion neu mewn unrhyw fangre arall a ddefnyddir at ddiben adloniant drwy beiriannau awtomatig, gemau siawns neu sgil neu ddyfeisiau tebyg.
- I ofalu'n bersonol am breswylwyr unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio.
Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 14+ oed:
Gellir cyflogi plentyn 14+ oed i ymgymryd â gwaith ysgafn yn unig.
Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 13 oed:
Ni chaniateir cyflogi plentyn 13 oed oni bai am i wneud 'gwaith ysgafn' yn un neu ddau o'r categorïau canlynol:
- Amaethyddol neu arddwriaethol.
- Dosbarthu papurau newyddion, dyddiaduron a deunyddiau eraill wedi'u hargraffu.
- Gwaith siop, gan gynnwys llenwi sil-ffoedd.
- Siopau trin gwallt.
- Gwaith swyddfa.
- Mewn caffi neu fwyty.
- Mewn stablau a llety cŵn / cathdy.
- Glanhau car â llaw mewn lleoliad preswyl preifat.
- Gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy'n cynnig llety.
Oriau cyflogaeth a caniateir
Gellir ond cyflogi rhwng 7.00am a 7.00pm.
Pob oedran
Dydd Llun i ddydd Sadwrn - heb fod cyn 7.00am neu ar ôl 7.00pm.
Dydd Sul - 2 awr yn unig - heb fod cyn 7.00am neu ar ôl 11.00am.
Diwrnodau ysgol - 1 awr cyn yr ysgol ac 1 awr ar ôl ysgol neu 2 awr ar ôl ysgol.
13-15 oed
Dydd Sadwrn a gwyliau ysgol eraill - 5 awr ar y mwyaf bob dydd.
Heb fod yn fwy na 25 awr yr wythnos.
15+ oed
Dydd Sadwrn a gwyliau ysgol eraill - 8 awr ar y mwyaf bob dydd.
Heb fod yn fwy na 35 awr yr wythnos.
Ni fydd unrhyw blentyn yn cael ei gyflogi am fwy na 4 awr heb seibiant o leiaf 1 awr at ddibenion ymlacio a hamdden.
Mae'n rhaid i bob plentyn gael o leiaf pythefnos o wyliau'n olynol bob blwyddyn.
12 awr o waith ar y mwyaf yn ystod unrhyw wythnos yn ystod y tymor ysgol.
Diffiniadau
Ystyr Cyflogaeth yw cymorth mewn unrhyw fasnach neu swydd sy'n cael ei gwneud er elw, ni waeth a yw taliad yn cael ei dderbyn am y cymorth hwnnw.
Ystyr Gwaith Ysgafn yw gwaith nad yw'n debygol o beryglu iechyd, diogelwch neu ddatblygiad addysgol y plentyn.
Ystyr 'plentyn' at ddiben yr is-ddeddfau yw person o oedran ysgol gorfodol.
Oedran gadael ysgol gorfodol - dim ond un dyddiad gadael yr ysgol sydd ar gael, sef dydd Gwener olaf mis Mehefin, sef dyddiad olaf eu blwyddyn TGAU (blwyddyn 11). Mae hyn yn berthnasol i blant sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 16 yn ystod y cyfnod hwnnw. Dyma'r unig ddyddiad sy'n nodi nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol mwyach.
Asesiadau risg - mae gan y cyflogwr ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad risg priodol sy'n rhoi ystyriaeth i oedran y plentyn, yr amgylchedd gwaith, profiad, a gallu'r plentyn (Deddf Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999).
Efallai bydd yr awdurdod yn gofyn i'r plentyn gael archwiliad meddygol cyn iddo gymeradwyo hawlen cyflogi plentyn.