Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais cynllunio

Sut i gyflwyno cais cynllunio.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Ffurflenni papur

Lawrlwythwch ffurflenni cynllunio y gellir eu hargraffu (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Gellir hefyd cael ffurflenni cais a nodiadau arweiniol gan y tîm rheoli cynllunio. Bydd angen manylion y cynllun arfaethedig arnom i sicrhau bod y pecyn cais priodol yn cael ei anfon atoch. Bydd y pecyn cais yn cynnwys y ffurflenni cais priodol, ynghyd â nodiadau arweiniol i hysbysu'r ymgeisydd am yr wybodaeth y mae ei hangen gyda'r cais a nifer y copïau y mae angen eu cyflwyno.

Ffïoedd

Canllaw i'r ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio yng Nghymru (PDF) [413KB]

Datblygiadau sylweddol / prosiectau arbennig

O ran cynlluniau mwy, a mwy cymhleth, argymhellir yn gryf (ac mae hyn yn arfer gyffredin) y cynhelir trafodaethau am y datblygiadau â'r Tîm Ceisiadau Cynllunio cyn cyflwyno cais. Mae trafodaethau mewn perthynas â'r cynlluniau hyn yn debygol o barhau ar ôl cyflwyno'r cais nes y ceir penderfyniad ynghylch y cais. Yn aml mae angen gwybodaeth gefnogi helaeth ar y ceisiadau hyn, a fydd fel arfer yn cynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol. Fel arfer gyda datblygiadau mawr bydd angen cyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad fel rhan o'r cais cynllunio.

Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA)

Rhaid bod datganiad amgylcheddol gyda chynigion sy'n debygol o arwain at effeithiau amgylcheddol sylweddol. Mae hyn yn ystyried effeithiau amgylcheddol posib y cynigion a'r posibilrwydd o'u haddasu neu eu lliniaru. Dylid ystyried yr angen am AEA cyn cyflwyno cais. Yr enw am y broses ffurfiol y mae'r awdurdod cynllunio'n ei dilyn wrth benderfynu a oes angen AEA yw 'barn sgrinio'.

Os bydd angen AEA, cynhelir ail broses sef 'ymarfer cwmpasu' i bennu union gynnwys y Datganiad Amgylcheddol sy'n dilyn (dyma'r ddogfen a gynhyrchir wedi'r broses AEA). Mae'r AEA yn ddull pwysig o asesu effaith amgylcheddol debygol datblygiad newydd. Mae paratoi Datganiad Amgylcheddol yn sicrhau bod effeithiau datblygiad yn cael eu deall yn llawn a'u hystyried cyn i'r datblygiad gael caniatâd i fynd yn ei flaen.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2024