Ynghylch Cyfrifiad 2021
Diwrnod y Cyfrifiad oedd dydd Sul 21 Mawrth.
Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad yn unigryw, ac nid oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall yn gallu darparu cynifer o fanylion amdanom ni a'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.
Mewn un ffordd neu'r llall, mae gwybodaeth o'r Cyfrifiad yn cyffwrdd â bywydau pob un person sy'n byw yn y DU. Mae'n helpu'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol, gan gynnwys ysgolion newydd, meddygfeydd a thrafnidiaeth er enghraifft.
Mae'r Cyfrifiad wedi'i gynnal ar un diwrnod penodol bob 10 mlynedd ers 1801, gan golli ond un a hynny ym 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Yng Nghymru a Lloegr, cynhelir y cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Yn ardaloedd eraill y DU, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol.
Ar ddechrau mis Mawrth 2021, anfonodd y SYG lythyrau at bob aelwyd yng Nghymru a Lloegr yn ei gwahodd i gymryd rhan mewn Cyfrifiad, ac yn egluro sut i gael mynediad at gymorth. Roedd holiadur y Cyfrifiad yn ceisio gwybodaeth am oedran, rhyw, cenedligrwydd, cefndir ethnig, iechyd, iaith, gwaith, addysg a nodweddion poblogaeth ac aelwydydd allweddol eraill. Defnyddiwyd yr ystadegau a gynhyrchwyd i roi darlun o gymdeithas yn 2021, newid dros amser ac amrywiadau lleol.
Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor Abertawe'n dibynnu ar wybodaeth o'r Cyfrifiad i nodi anghenion lleol a chynllunio ar gyfer cyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys cynllunio, gofal cymdeithasol, addysg a thrafnidiaeth. Yn ogystal, mae arian y llywodraeth ar gyfer y gwasanaethau hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â nodweddion a nifer y bobl yn Abertawe a gofnodir gan y cyfrifiad. Mae'r data hefyd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan academyddion, busnesau, sefydliadau gwirfoddol a'r cyhoedd.
Mae'r canlyniadau Cyfrifiad cyntaf ar gyfer Abertawe ar gael yma: Canlyniadau Cyfrifiad 2021 Abertawe.
Am ragor o wybodaeth gefndir am y Cyfrifiad, ewch i wefan y Cyfrifiad (SYG) (Yn agor ffenestr newydd). Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth genedlaethol am y Cyfrifiad, y paratoadau ar gyfer 2021, yr amserlen cyhoeddi Cyfrifiad, dod o hyd i ddata yn ôl pwnc, diffiniadau, data hanesyddol a chael mynediad at gefnogaeth gan y SYG.