Cyfrifiad 2021: canlyniadau cyntaf
Cyhoeddwyd canlyniadau'r cyfrifiad cyntaf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 28 Mehefin 2022.
Nododd Cyfrifiad 2021 mai poblogaeth breswyl arferol Abertawe oedd 238,500; tua 500 neu 0.2 y cant yn llai na chyfanswm Cyfrifiad 2011.
Mae nodyn briffio cryno sy'n manylu ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021 cyntaf Abertawe ar gael: Cyfrifiad 2021 Canlyniadau Cyntaf (PDF, 1003 KB)
Mae nodyn briffio atodol hefyd ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth o'r canlyniadau cyntaf ar aelwydydd; dwysedd poblogaeth; elfennau'r amcangyfrifon; cyfraddau ymateb; ymatebion ar-lein; a dolenni i adroddiadau cychwynnol y SYG. Cyfrifiad 2021 canlyniadau cyntaf atodol (PDF, 846 KB)
Mae gwybodaeth gefndir am Gyfrifiad 2021, gan gynnwys dolenni i wefan Cyfrifiad SYG, ar gael yma.
Ers hynny, mae'r SYG wedi cyhoeddi data Crynodeb Pwnc hefyd o Gyfrifiad 2021 ar ystod o nodweddion poblogaeth ac aelwydydd.
Ni chyhoeddwyd ystadegau ar gyfer ardaloedd bach (islaw lefel awdurdod lleol) ac ar nodweddion poblogaeth penodol pan ryddhawyd Cyfrifiad 2021 gyntaf. Fodd bynnag, mae ystadegau ar gyfer ardaloedd bach gan gynnwys wardiau a daearyddiaethau ystadegol bellach ar gael yn awr ac mae data ar gyfer ardaloedd yn Abertawe wedi'u cynnwys yn y tudalennau canlynol:
- Poblogaeth fesul oedran (wedi'i ddiweddaru hyd at ganol 2022)
- Dwysedd poblogaeth (wedi'i ddiweddaru hyd at ganol 2022)
- Aelwydydd (gyda phreswylwyr) Preswylwyr arferol sy'n byw mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol; Maint cyfartalog aelwyd
- Proffiliau Wardiau Abertawe - Cyfrifiad 2021: nodweddion poblogaeth: gwlad geni, grŵp ethnig, gallu i siarad Cymraeg, iechyd cyffredinol, anabledd, cymwysterau); maint a chyfansoddiad yr aelwyd; math o lety; daliadaeth tai; statws gweithgarwch economaidd.
Caiff rhagor o wybodaeth a dadansoddiadau data o Gyfrifiad 2021 eu hychwanegu at y tudalennau hyn cyn gynted â phosib.
Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch ystadegau poblogaeth Abertawe, cysylltwch â ni.