Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad o fwriad i gyhoeddi polisi diwygiedig yr awdurdod lleol mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005

Yn unol ag Adran 349 o'r Ddeddf, hysbysir drwy hyn y bydd Polisi'r Awdurdod yn cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr 2024, cyn dod i rym ar 31 Ionawr 2025.

Mae'r polisi i'w weld isod.

Polisi Gamblo 2025-2028 (Word doc, 757 KB)

Bydd hefyd ar gael i'w archwilio yn yr Is-adran Drwyddedu, Gwasanaethau Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Cyfarwyddiaeth Lleoedd, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN.

Datganiad o Bolisi Gamblo

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005.

Mae'r datganiad yn ymdrin â sut rydym yn bwriadu hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ar gyfer y Ddeddf Gamblo yn ogystal â'r hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl gan fangreoedd trwyddedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y Datganiad neu Ddeddf Gamblo 2005, cysylltwch â'r Is-adran Drwyddedu ar (01792) 635600 neu e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk

Newidiadau i'r polisi

Cymeradwywyd Datganiad o Bolisi Gamblo 2025-28 diwygiedig yr awdurdod lleol yng nghyfarfod y cyngor ar 05 Rhagfyr 2024 a bydd yn dod i rym ar 31 Ionawr 2025.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Rhagfyr 2024