Trwyddedau gamblo
Rydym yn gyfrifol am ddyrannu trwyddedau gamblo masnachol. Mae mangreoedd cynnwys casinos, neuaddau bingo, swyddfeydd betio ac arcedau difyrion.
Rydym hefyd yn dyrannu trwyddedau betio ar gyfer peiriannau gemau mewn tafarndai a mangreoedd trwyddedig eraill sy'n gwerthu alcohol.
Mae ein Polisi Gamblo'n nodi'r egwyddorion y byddwn yn eu rhoi ar waith wrth arfer ein swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf. Adolygir y Polisi Gamblo bob tair blynedd.
Rhaid i'r holl geisiadau am drwyddedau gamblo fodloni'r tri amcan trwyddedu. Mae'r rhain yno i helpu i sicrhau bod y drwydded yn diogelu'r cyhoedd. Dyma'r tri amcan
- Atal gamblo rhag achosi troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu.
- Sicrhau bod gamblo'n digwydd mewn modd teg ac agored.
- Diogelu plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo.