Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi'r sgôr yn gynnar

Ar ôl arolygiad, bydd y sgôr yn cael ei lanlwytho gan yr awdurdod lleol er mwyn ei chyhoeddi ar wefan www.food.gov.uk/sgoriau. Ar gyfer busnesau gall perchennog neu reolwr y busnes ofyn i gael cyhoeddi'r sgôr cyn diwedd y cyfnod apelio.

Bydd sgôr o '5 - da iawn' yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn cael ei lanlwytho gan eich awdurdod lleol. Caiff sgoriau o 0-4 eu cyhoeddi 3-5 wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad er mwyn caniatáu amser i gyflwyno apêl.

Byddwn yn adolygu'r cais ac fel arfer byddwn yn cyhoeddi'r sgôr yn gynnar. Os oes unrhyw broblemau neu ymholiadau, fel angen cadarnhau eich safle yn y busnes, byddwn yn cysylltu â chi.