Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyllid a budd-daliadau i ofalwyr

Nid yw'n anghyffredin i ofalwyr gael anawsterau ariannol. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae nifer o fudd-daliadau y gallen nhw a'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw eu hawlio.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Carers UK wybodaeth ddefnyddiol (yn Saesneg) am gyllid a budd-daliadau ar eu gwefannau.

Gall Canolfan gofalwyr Abertawe roi cyngor ar fudd-daliadau i ofalwyr.  Bydd angen i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw.

Mae sefydliadau eraill yn Abertawe sy'n rhoi cyngor ar fudd-daliadau'n cynnwys, Age Cymru Gorllewin MorgannwgCyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot a Y Groes Goch Brydeinig.

Lwfans Gofalwyr

Gellir talu Lwfans Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd) i rywun sy'n gofalu am rywun sy'n cael budd-dal anabledd a darperir y gofal am 35 awr neu fwy yr wythnos.  Gall Lwfans Gofalwyr gael effaith ar fudd-daliadau sy'n destun prawf modd, felly os yw'r gofalwr a/neu'r sawl yn ei ofal yn cael budd-dal sy'n destun prawf modd, argymhellir, cyn cyflwyno hawl, eich bod yn cael cyngor i sicrhau na fyddai'r sawl rydych yn gofalu amdano ar ei golled.

Gall gofalwyr bellach gyflwyno cais am Lwfans Gofalwyr, neu adrodd am newid mewn amgylchiadau ar-lein gan ddefnyddio Gwasanaeth Digidol y Lwfan Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).

Dyma rai manteision defnyddio'r Gwasanaeth Digidol er mwyn hawlio:

  • Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos
  • Mae llai o gwestiynau na'r fersiwn papur
  • Does dim angen cyfrinair na llofnod
  • Nid oes angen argraffu nac arbed y ffurflen
  • Unwaith y bydd wedi'i gyflwyno, mae'r cais yn cyrraedd yr Uned Gofalwyr yn syth gan alluogi ceisiadau i gael eu prosesu'n gynt
  • Mae rhifau llinellau cymorth a thestunau cymorth ar gael os oes angen egluro'r cwestiynau
  • Mae fersiwn Gymraeg ar gael hefyd

Credyd Gofalwyr

Credyd Yswiriant Gwladol yw Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd). Ni chewch daliad, ond mae'n helpu i adeiladu'ch hawl i bensiwn y wladwriaeth.  Cewch ei hawlio os ydych yn gofalu am am un person neu fwy am o leiaf 20 awr yr wythnos.

 

Os ydych yn gofalu am rywun yn eich aelwyd (heblaw am eich partner neu'ch plentyn dan 18 oed), gallai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad.

Carers Trust

Elusen fawr ar gyfer gofalwyr yw Carers Trust sy'n gweithio gyda gofalwyr er lles gofalwyr.

Carers UK

Gall Carers UK roi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.

Y Groes Goch Brydeinig

Rydym yn helpu unrhyw un, mewn unrhyw le yn y DU ac o gwmpas y byd, i gael cefnogaeth os bydd argyfwng.

Gostyngiad i ofalwr

Os ydych yn gofalu am rywun yn eich aelwyd (heblaw am eich partner neu'ch plentyn dan 18 oed), gallai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad.
Close Dewis iaith