Gofalwyr ddi-dal
Mae gofalwr di-dal yn rhywun o unrhyw oedran sy'n darparu cefnogaeth ddi-dal i deulu neu ffrindiau na fyddai'n gallu ymdopi heb yr help hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n dost, yn eiddil, yn anabl neu â phroblemau iechyd meddwl neu sy'n camddefnyddio sylweddau. Ni ddylid drysu'r term gofalwr di-dal â gweithiwr gofal, neu gynorthwy-ydd gofal, sy'n cael tâl am ofalu am rywun.
Ffrindiau neu berthnasau sy'n gweithredu fel gofalwyr di-dal sy'n darparu'r rhan fwyaf o help mae ei angen ar bobl mewn cymdeithas. Plant a phobl ifanc yw nifer sylweddol o'r rhain. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn dewis bod yn ofalwyr ddi-dal, ac nid yw llawer hyd yn oed yn cydnabod eu hunain yn ofalwyr ddi-dal, gan weld y gefnogaeth maen nhw'n ei darparu fel yr hyn y byddai gŵr / merch / mab / chwaer / brawd yn ei wneud i rywun maen nhw'n meddwl llawer amdano.
Mae gofalwyr di-dal yn aml yn gwneud gwaith anodd a llethol. Gall y gofynion corfforol ac emosiynol sy'n rhan o ofalu am rywun arwain at straen, ynysu a salwch (meddwl neu gorfforol) hyd yn oed. Fel gofalwr di-dal, mae'n rhaid i chi gydnabod eich anghenion eich hunan am help a chefnogaeth ac mae gennych hawl i ddisgwyl i eraill, megis gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, barchu'r hawl hon a'ch cyfeirio i gefnogaeth sy'n briodol ar gyfer eich sefyllfa unigol.
Bwriad y tudalennau gwe hyn i ofalwyr yw eich cyfeirio i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol i'ch sefyllfa gofalu, ond nid ydynt yn cymryd lle cyngor arbenigol y gall fod ei angen ar ofalwyr ddi-dal unigol.