Cyllid a budd-daliadau i ofalwyr
Nid yw'n anghyffredin i ofalwyr gael anawsterau ariannol. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae nifer o fudd-daliadau y gallen nhw a'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw eu hawlio.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Carers UK wybodaeth ddefnyddiol (yn Saesneg) am gyllid a budd-daliadau ar eu gwefannau.
Gall Canolfan gofalwyr Abertawe roi cyngor ar fudd-daliadau i ofalwyr. Bydd angen i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw.
Mae sefydliadau eraill yn Abertawe sy'n rhoi cyngor ar fudd-daliadau'n cynnwys: Age Cymru Gorllewin Morgannwg, Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot a Yr Uned Cefnogi Tenantiaid.
Lwfans Gofalwyr
Os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i gael arian ychwanegol o Lwfans Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).
Efallai y byddwch â hawl i Lwfans Gofalwr os ydych chi, y person rydych yn gofalu amdano a'r math o ofal rydych yn ei ddarparu yn bodloni rhai meini prawf (gov.uk). (Yn agor ffenestr newydd)
Gallwch gael £81.90 yr wythnos os ydych yn gofalu am rywun eraill am o leiaf 35 awr yr wythnos ac maent yn cael budd-daliadau penodol.
- Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i, neu'n byw gyda'r person rydych yn gofalu amdano.
- Ni chewch fwy o dâl os ydych yn gofalu am fwy nag un person.
- Os yw rhywun arall hefyd yn gofalu am yr un person â chi, dim ond un ohonoch gaiff hawlio Lwfans Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).
Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar y budd-daliadau rydych chi a'r person rydych yn gofalu amdano yn eu cael. Mae rhaid i chi dalu treth arno os yw eich incwm dros y Lwfans Personol.
Gall gofalwyr bellach gyflwyno cais am Lwfans Gofalwyr, neu adrodd am newid mewn amgylchiadau ar-lein gan ddefnyddio Gwasanaeth Digidol y Lwfan Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).
Credyd Gofalwyr
Mae Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd) yn gredyd Yswiriant Gwladol sy'n helpu i lenwi'r gwagleoedd yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Gallwch gael Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd) os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.
Ni fydd eich incwm, cynilion neu fuddsoddiadau yn effeithio ar eich cymhwysedd am Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).
Os ydych yn gofalu am rywun yn eich aelwyd (heblaw am eich partner neu'ch plentyn dan 18 oed), gallai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad.