Cyllid chwaraeon
Y prif gyllid sydd ar gael i glybiau a chymdeithasau ar hyn o bryd yw Cronfa Cymru Actif, sy'n cael ei rheoli'n genedlaethol gan Chwaraeon Cymru.
Mae'r Gronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau o £300 i £50,000 i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol i gefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn chwaraeon.
Mae Chwaraeon Cymru'n argymell bod clybiau a sefydliadau cymunedol yn cysylltu â thimau datblygu chwaraeon awdurdodau lleol i gael cyngor cyn cyflwyno ceisiadau, ac mae ein swyddogion ar gael i'ch cefnogi drwy'r broses.
Gall y tîm Chwaraeon ac Iechyd ddarparu arweiniad ynghylch datblygu prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i helpu i annog ein cymunedau i fod yn fwy actif, yn ogystal â helpu i gyflwyno ceisiadau.
Gellir dod o hyd i fanylion yma: https://www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif/
Cysylltu â ni...Chwaraeon ac Iechyd Abertawe
Rydym am i chi gymryd rhan...
Rydym yn gobeithio'ch gweld chi'n fuan yn un o'n gweithgareddau, ac os nad ydych chi eisoes yn gwneud, sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd),Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Instagram (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd) a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd ein rhestr bostio (Yn agor ffenestr newydd) i fod y cyntaf i glywed ein newyddion ac i gael rhagor o wybodaeth amdanom.