Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymdeithasau tai

Landlordiaid cymdeithasol sy'n debyg i'r Cyngor yw cymdeithasau tai ac maent yn cynnig tai tymor hir ac am gost gymharol isel mewn sawl ardal ledled Abertawe.

Mae gan gymdeithasau tai ffyrdd gwahanol o benderfynu pwy fydd yn cael eu cartrefi a phwy sy'n cael eu rhoi ar eu cofrestri anghenion tai. Cysylltwch â phob cymdeithas tai unigol yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth.

Mae cymdeithasau tai hefyd yn rheoli cynlluniau tai a gynhelir ac arbenigol, felly dylech drafod eich anghenion personol ag ymgynghorydd.

Beacon Cymru (Coastal Housing gynt)

Cwmni nid er elw yw Beacon Cymru sy'n datblygu tai ac eiddo masnachol i'w rhentu a'u gwerthu.

Caredig

Mae Caredig yn darparu ystod eang o wasanaethau tai ar gyfer pobl sengl, teuluoedd, pobl hŷn a phobl y mae angen cymorth arnynt i gynnal eu tenantiaeth.

Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn darparu datrysiadau llety i bobl ag anableddau, cyn-filwyr a phobl ag anghenion cymhleth ychwanegol ar draws Cymru a Swydd Amwythig.

Cymdeithas Dai Pobl

Cymdeithas tai nid er elw sy'n cynnig atebion a chefnogaeth mewn perthynas â thai.

Cymdeithas Dai United Welsh

Sefydliad nid er elw sy'n darparu cartrefi a gwasanaethau cysylltiedig yn ne Cymru.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Gorffenaf 2024