Pwy allwn ni ei helpu a'i gynghori am ddigartrefedd?
Gall pawb gael cyngor ar dai gennym ni.
Byddwn yn gofyn am eich sefyllfa i gael gwybod pa gymorth y gallwn ei roi i chi. Mae anghenion pob unigolyn yn wahanol a bydd yr ymholiadau a'r cymorth a ddarparwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gallech fod yn ddigartref am y rhesymau canlynol:
- rydych yn cysgu allan neu nad oes gennych 'do uwch eich pen'
- rydych mewn perygl o drais neu gamdriniaeth lle rydych yn byw, gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu, neu rywun yn agos i ble rydych yn byw
- ni allwch fforddio aros lle rydych yn byw
- rydych yn byw mewn llety dros dro iawn
- rydych yn aros gyda ffrindiau neu'n mynd o soffa i soffa
- rydych wedi cael eich troi allan yn anghyfreithlon
- rydych mewn llety sydd mewn cyflwr gwael iawn neu sy'n beryglus
- nid oes gennych unman i roi eich cwch preswyl neu garafán
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2022