Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais digartrefedd a'r broses benderfynu

Mae rhai ffactorau a all effeithio ar yr help y gallwn ei gynnig i chi.

Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni'r meini prawf, gallwch gysylltu â ni am help a chyngor o hyd.

Angen blaenoriaethol

Os ydych yn ddigartref, yn gymwys ac ag angen blaenoriaethol yna mae'n rhaid i ni sicrhau eich bod yn cael cynnig llety dros dro addas hyd nes y bydd ein dyletswydd i'ch helpu yn dod i ben.

Efallai y bydd gennych angen blaenoriaethol am help os:

  • rydych yn fenyw feichiog neu rydych yn byw gyda menyw feichiog, neu y byddai disgwyl yn rhesymol i chi fyw gyda menyw feichiog
  • mae gennych blentyn dibynnol yn byw gyda chi neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gyda chi
  • rydych yn agored i niwed oherwydd rhyw reswm arbennig (fel henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol)
  • rydych yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref o ganlyniad i argyfwng fel llifogydd, tân neu drychineb arall
  • rydych yn ddigartref o ganlyniad i ddioddef cam-drin domestig
  • rydych wedi cyrraedd 18 oed ond rydych dan 21 oed ac mewn perygl penodol o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu rydych yn gadael gofal
  • rydych wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd ac wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny
  • rydych wedi'ch asesu fel rhywun sydd â chysylltiad lleol ag Abertawe ac yn agored i niwed oherwydd eich bod wedi gwasanaethu dedfryd o garchar neu wedi cael eich remandio i lety cadw ieuenctid

Os nad oes yr un o'r uchod yn berthnasol i'ch sefyllfa, cysylltwch ag Opsiynau Tai o hyd gan y gall y tîm roi cyngor o hyd ar eich opsiynau tai.

Cysylltiad lleol

Bydd eich Gweithiwr Achos Digartrefedd yn penderfynu yn ystod eich asesiad a oes gennych gysylltiad lleol ag Abertawe. Os nad oes gennych gysylltiad lleol ag Abertawe, efallai y cewch eich cyfeirio'n ôl i'ch ardal 'gartref'.

Fodd bynnag, os nad oes gennych gysylltiad lleol yn unman, ac rydych yn gofyn i ni am help, efallai y byddwn yn ystyried darparu cymorth/cymryd cyfrifoldeb.

Mae gennych gysylltiad lleol os:

  • rydych wedi bod yn byw yn Abertawe am 3 blynedd allan o'r 5 mlynedd diwethaf
  • rydych wedi bod yn byw yn Abertawe am 6 mis allan o'r 12 mis diwethaf
  • mae gennych gyflogaeth sefydlog yn Abertawe
  • mae gennych berthnasau agos sydd wedi byw yn Abertawe am y 5 mlynedd diwethaf

Digartref yn fwriadol

Efallai y byddwch yn cael eich ystyried yn ddigartref yn fwriadol os byddwch yn gadael neu'n cael eich gorfodi i adael llety y gallai bod disgwyl yn rhesymol i chi barhau i aros ynddo, ond y gwnaethoch ei adael o ganlyniad i rywbeth y gwnaethoch neu na wnaethoch ei wneud. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • rydych wedi rhoi'r gorau i'ch llety yn wirfoddol, naill ai yn y DU neu dramor, a byddai wedi cael ei ystyried yn rhesymol i chi barhau i fyw yno
  • rydych wedi cael eich troi allan am ôl-ddyledion rhent neu forgais, mewn amgylchiadau lle nad oes rheswm da dros beidio â thalu
  • rydych wedi cael eich troi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel aflonyddu neu ddelio cyffuriau
  • rydych wedi dewis gwerthu'ch tŷ heb reswm da
  • rydych wedi dewis rhoi'r gorau i gyflogaeth, a oedd yn cynnwys llety, am ddim rheswm da

Os canfyddir eich bod yn gymwys ac ag angen blaenoriaethol, ond yn ddigartref yn fwriadol, efallai y gallwn ddarparu llety dros dro i roi cyfle rhesymol i chi sicrhau llety i chi'ch hun, a rhoi cyngor i chi os oes angen.

Gwneud penderfyniadau

Yn dilyn eich asesiad bydd eich Gweithiwr Achos Digartrefedd yn penderfynu a oes arnom unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol i chi a byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig - os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad hwn gallwch ofyn am adolygiad.

Mae manylion sy'n esbonio pwy i gysylltu â nhw i ofyn am adolygiad yn y llythyr penderfyniad y darperir i chi. Dylid gwneud eich cais am adolygiad o fewn 21 diwrnod i chi dderbyn y penderfyniad. Dylid gwneud y cais yn ysgrifenedig a rhaid i chi nodi'n glir y rhesymau dros ofyn am adolygiad. Efallai y bydd Shelter, Canolfan Cyngor ar Bopeth, neu gyfreithiwr o'ch dewis yn gallu eich cynorthwyo. Cynhelir yr adolygiad gan berson sy'n annibynnol ar y penderfyniad gwreiddiol a bydd yr adolygiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gennych. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 8 wythnos i ddyddiad eich cais.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ebrill 2024