Toglo gwelededd dewislen symudol

Pwy allwn ni ei helpu a'i gynghori am ddigartrefedd?

Gall pawb gael cyngor ar dai gennym ni.

Byddwn yn gofyn am eich sefyllfa i gael gwybod pa gymorth y gallwn ei roi i chi. Mae anghenion pob unigolyn yn wahanol a bydd yr ymholiadau a'r cymorth a ddarparwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Gallech fod yn ddigartref am y rhesymau canlynol:

  • rydych yn cysgu allan neu nad oes gennych 'do uwch eich pen'
  • rydych mewn perygl o drais neu gamdriniaeth lle rydych yn byw, gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu, neu rywun yn agos i ble rydych yn byw
  • ni allwch fforddio aros lle rydych yn byw
  • rydych yn byw mewn llety dros dro iawn
  • rydych yn aros gyda ffrindiau neu'n mynd o soffa i soffa
  • rydych wedi cael eich troi allan yn anghyfreithlon
  • rydych mewn llety sydd mewn cyflwr gwael iawn neu sy'n beryglus
  • nid oes gennych unman i roi eich cwch preswyl neu garafán

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2022