Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth trethi busnesau bach

Mae busnesau bach a chanddynt werthoedd ardrethol isel yn gymwys i gael gostyngiadau ar eu hardrethi busnes.

Bydd mwyafrif y mangreoedd busnes meddianedig â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn derbyn rhyddhad 100% a bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn canran o ryddhad a ddangosir isod:

Canran y rhyddhad yn seiliedig ar werth ardrethol

Gwerth ardrethol

% y rhyddhad

0 - 6000

  100

7000

  83.4

8000

  66.6

9000

  50

10,000

  33.3

11,000

  16.6

12,000

  Nil

Mae busnesau sy'n gweithredu fel darparwyr gofal plant ac yn meddiannu eiddo gyda gwerth ardrethol o £100,000 neu lai yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100%.

Mae busnesau sy'n gweithredu fel swyddfeydd post ac yn meddiannu eiddo gyda gwerth ardrethol o £9,000 neu lai yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100% ac mae'r rheiny sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad o 50%.

Busnesau lluosog

Pan fo trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig leol (rhestr leol), a'r eiddo hynny ond yn destun yr amodau gwerth ardrethol, bydd y trethdalwr yn derbyn rhyddhad ar gyfer dau eiddo o'r fath yn unig.

Dan Erthygl 4 y rheoliadau, pan fo trethdalwr yn atebol am ardrethi busnes mwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig leol ardal cyngor, sy'n destun yr amodau gwerth ardrethol, mae'n rhaid i'r trethdalwr roi gwybod am yr eiddo i'r cyngor cyn gynted â phosibl.

Cyfrifoldeb y trethdalwr yw rhoi gwybod i'r Cyngor ei fod yn derbyn mwy na dau Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach mewn perthynas ag eiddo y mae'n atebol am dalu ardrethi busnes ar eu cyfer. I adrodd am newid mewn amgylchiadau, cysylltwch â ni .

Close Dewis iaith