Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad am apeliadau gwaharddiad - cyngor i ddisgyblion ysgolion uwchradd

Cyngor i ddisgyblion ysgolion uwchradd.

Beth yw apel gwaharddiad?

Pryd bydd fy apel yn cael ei chlywed?

A all rhwun ddod gyda mi i'r cyfarfodydd?

Beth fydd yn digwydd yn yr apel?

Sut fydd y panel yn penderfynu os ddylwn i gael fy ngwahardd?

Beth sy'n digwydd os yw'r panel yn penderfynu y dylwn i ddychwelyd i'r ysgol?

Beth sy'n digwydd os yw'r panel yn penderfynu na ddylwn i ddychwelyd i'r ysgol?

A fyddai'n derbyn penderfyniad y panel ar y dydd?

 

 

Beth yw apel gwaharddiad?

Os bydd Pwyllgor Disgyblu Disgyblion Corff Llywodraethu yn cynnal gwaharddiad parhaol byddwch yn derbyn llythyron gan yr ysgol a'r Prif Swyddog Addysg yn esbonio eich hawl i apelio a'r dyddiad terfynol y gallwch gyflwyno eich apel.

Gall ddisgyblion ysgolion uwchradd wneud apel drostynt eu hunain a chant yr wybodaeth i wneud hyn (gweler dogfen ar wahan).

Mae gennych chi'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y pennaeth a'r corff llywodraethu. Bydd eich apel yn cael ei chlywed gan grwp o bobl annibynnol sydd heb unrhyw gysylltiad a'r ysgol.

Dylech apelio'n unig os hoffech ddychwelyd i'r ysgol y gwaharddwyd chi ohoni'n barhaol. (Peneli Apel sy'n penderfynu a allwch ddychwelyd i'r ysgol yn unig. Nid ydynt yn clirio eich enw).

Mae penderfyniad y Panel Apel yn derfynol.

Pryd bydd fy apel yn cael ei chlywed?

Bydd dyddiad yr apel yn cael ei drefnu gan Adran Gyfreithiol y cyngor o fewn 15 niwrnod ysgol ar ol derbyn eich apel a byddant yn ysgrifennu atoch i drafod dyddiad yr apel. Cynhelir apeliadau fel arfer yn y Ganolfan Ddinesig. Os oes gennych unrhyw broblem mynychu ar y diwrnod hwnnw, rhowch wybod i'r Adran Gyfreithiol ar unwaith drwy ffonio 01792 636584.

Os oes angen cyfieithydd arnoch neu mae gennych anabledd ac mae angen cymorth arnoch, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01792 636584.

A all rhywun ddod gyda mi i'r cyfarfodydd?

Bydd eich rhiant / gofalwr fel arfer yn mynychu gyda chi.

Gallwch ddod a rhywun gyda chi e.e. ffrind, eich gweithiwr cymdeithasol neu ofalwr. Gall ffrind siarad ar eich rhan os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad dros eich hunan.

Beth fydd yn digwydd yn yr apel?

  1. Bydd Clerc y Panel yn esbonio'r gweithdrenau i chi cyn i chi fynd i mewn i'r ystafell.
  2. Bydd aelodau'r Panel yn cyflwyno eu hunain a bydd Cadeirydd y Panel neu'r Clerc yn amlinellu trefn y siarad cyn i'r gwrandawiad ddechrau.
  3. Bydd 3 neu 5 aelod ar y panel.
  4. Bydd pennaeth yr ysgol a swyddog o'r Adran Addysg yn bresennol. Bydd y pennaeth yn esbonio pam y gwnaeth y penderfyniad i'ch gwahardd. Bydd gennych y cyfle i ofyn cwestiynau.
  5. Byddwch yna yn cael eich gwahodd i annerch y Panel a chyflwyno eich rhesymau dros wneud cais i ailymuno a'r ysgol.
  6. Gweithdrefn ffurfiol yw hon i sicrhau fod gan bawb y cyfle i roi eu barn ac i ofyn cwestiynau i'r bobl eraill sy'n bresennol. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i'ch helpu i gyflwyno'ch achos a gwneud i chi deimlo'n gartrefol.

Sut fydd y Panel yn penderfynu os ddylwun i gael fy ngwahardd?

Mae'n rhaid i'r Panel wrando'n ofalus ar bawb a phenderfynu a wnaeth yr hyn yr honnir a wnaethoch ddigwydd.

Os ydynt yn credu y gwnaethoch yr hyn a ddywedodd y pennaeth, yna mae'n rhaid i'r Panel benderfynu ai gwaharddiad parhaol oedd y gosb briodol.

Beth sy'n digwydd os yw'r Panel yn penderfynu y dylwn i ddychwelyd i'r ysgol?

Mae'n rhaid i'r ysgol eich aildderbyn.

Beth sy'n digwydd os yw'r Panel yn penderfynu na ddylwn i ddychwelyd i'r ysgol?

  • Byddwch yn parhau i dderbyn addysg gartref nes i benderfyniad gael ei wneud am ddyfodol eich addysg.
  • Gallwch gael eich cyfeirio at Banel Addysg mewn Lleoliad Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yr Awdurdod Lleol lle yr argymhellir darpariaeth addysg ar gyfer y dyfodol.
  • Byddwch yn cael gwybod am yr argymelliadau hyn gan swyddog yn yr Adran Gyfreithiol a gofynnir am eich barn.
  • Mae penderfyniad a Panel yn derfynol a does dim hawl pellach i apelio.

A fyddai'n derbyn penderfyniad y Panel ar y dydd?

Bydd y panel yn gwneud penderfyniad ar y dydd. Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig ond bydd Clerc y Panel fel arfer yn ceisio rhoi gwybod i chi ar yr un dydd, dros y ffon i ddechrau, a chadarnhau hyn yn ysgrifenedig o fewn 2 ddiwrnod ysgol.

Close Dewis iaith