Cyngor a chefnogaeth bellach ar dai
Sefydliadau eraill a all helpu gyda materion tai.
ADAPT
Mae ADAPT yn cynorthwyo pobl anabl i ddod o hyd i lety sydd wedi'i addasu'n briodol.
Caredig
Mae Caredig yn darparu ystod eang o wasanaethau tai ar gyfer pobl sengl, teuluoedd, pobl hŷn a phobl y mae angen cymorth arnynt i gynnal eu tenantiaeth.
Crisis
Elusen genedlaethol ar gyfer pobl ddigartref.
Cymdeithas Dai Coastal
Cwmni nid er elw yw Coastal Housing sy'n datblygu tai ac eiddo masnachol i'w rhentu a'u gwerthu.
Cymdeithas Dai Pobl
Cymdeithas tai nid er elw sy'n cynnig atebion a chefnogaeth mewn perthynas â thai.
Cymdeithas Dai United Welsh
Sefydliad nid er elw sy'n darparu cartrefi a gwasanaethau cysylltiedig yn ne Cymru.
Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf
Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn darparu datrysiadau llety i bobl ag anableddau, cyn-filwyr a phobl ag anghenion cymhleth ychwanegol ar draws Cymru a Swydd Amwythig.
Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin
Nod Gofal a Thrwsio yw lleddfu anghenion pobl yn yr ardal sydd dan anfantais oherwydd iechyd, salwch neu anabledd, drwy ddarparu cefnogaeth, cymorth, cyfleusterau, amwynderau a gwasanaethau i bobl o'r fath mewn perthynas â'u tai.
Goleudy
Elusen tai sy'n helpu i atal digartrefedd, darparu tai a chreu cyfleoedd. Mae hefyd yn darparu oergell gymunedol ym Marina Abertawe.
Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid BAYS+
Mae gwasanaeth BAYS+ a'r Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc 16 i 21 oed sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref gyda chyngor cyffredinol, tai, gwahaniaethu a budd-daliadau.
Gweithredu dros Blant
Darparu cefnogaeth sy'n ymwneud â thai yn y cartref i rieni ifanc a rhieni sy'n disgwyl plant, 16-25 oed a'u plant.
Hafan Cymru
Cymdeithas Tai elusennol sy'n darparu llety a chefnogaeth i fenywod, dynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Housing Justice Cymru - Citadel
Prosiect atal digartrefedd yw Citadel, sy'n defnyddio gwirfoddolwyr i gefnogi pobl sydd mewn perygl o brofi digartrefedd i ddod o hyd i denantiaethau a/neu eu cadw.
Llamau
Llamau yw'r brif elusen digartrefedd yng Nghymru, sy'n cefnogi'r bobl ifanc a'r menywod mwyaf diamddiffyn.
Missionaries of Charity
Hostel mynediad uniongyrchol (dynion sengl 25+ oed yn unig).
Platfform
Platfform yw'r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol. Maen nhw'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu heriau iechyd meddwl, a chyda chymunedau sydd eisiau creu gwell synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw'n byw ynddynt.
Shelter Cymru
Mae Shelter Cymru yn darparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim ar dai a dyled.
Y Wallich
Elusen Gymreig sy'n helpu pobl ddigartref yw y Wallich.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 29 Gorffenaf 2021