Cyngor ar dendro
Awgrymiadau i'ch helpu os ydych chi'n cyflwyno tendr am gontract gyda Chyngor Abertawe
I'w wneud
Darllen y dogfennau'n ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cyflawni'r contract cyn cwblhau'r dogfennau tendr.
Gwirio'r amser a'r dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno tendrau. Ni chaiff estyniadau eu rhoi, rhowch ddigon o amser.
Gofyn am eglurhad os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth yn y dogfennau tendr. Anfonwch gwestiynau eglurhaol drwy'r system negeseua yn eDendroCymru neu GwerthwchiGymru.
Atebwch yr holl gwestiynau'n glir a darparwch yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Costio'r tendr mor gywir â phosib.
Gofyn am adborth.
I beidio â gwneud
Gadael y gwaith o gwblhau eich cyflwyniad i'r funud olaf, rhowch ddigon o amser. Ni dderbynnir cyflwyniadau hwyr.
Cynnwys llenyddiaeth a llyfrynnau diangen nad oes gofyn amdanynt.
Tybio ein bod yn gwybod amdanoch eisoes gan y caiff tendrau eu gwerthuso ar yr hyn a gyflwynwyd yn unig.
Gadael i'r dogfennau tendro wneud i chi beidio â gofyn am gefnogaeth gan Fusnes Cymru.
Cyflwyno prisiau anghynaladwy na ellir eu sicrhau drwy gydol y contract.
Anghofio cyflwyno'r holl ddogfennau y gofynnir amdanynt yn y dogfennau tendr.