Gwerthu i'r cyngor: canllaw i gyflenwyr
Prif ddiben y ddogfen hon yw darparu cyngor a gwybodaeth am brosesau caffael y cyngor i gyflenwyr presennol a phosib, a helpu cyflenwyr i gynyddu eu cyfleoedd o gyflwyno cais am gyfleoedd tendro'r cyngor ac i ddod i wybod amdanynt.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i gyflenwyr cyfredol a phosibl am brosesau caffael y cyngor. Bydd hyn yn helpu cyflenwyr i gynyddu eu siawns o wneud cais am gyfleoedd tendro'r cyngor a chael gwybod amdanynt.
Bydd yn helpu cyflenwyr a chontractwyr sy'n dymuno cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith i Gyngor Abertawe i:
- helpu cyflenwyr i ddeall sut mae'r cyngor yn caffael nwyddau a gwasanaethau
- nodi'r mathau o nwyddau a gwasanaethau i'w caffael
- nodi lle rydym yn hysbysebu ac yn gosod hysbysiadau
- amlinellu'r prosesau y mae'n rhaid i'r cyngor eu dilyn wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.
Gan fod y cyngor yn prynu nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio arian cyhoeddus, mae gofyniad llym i gyflawni gwerth gorau. Ar yr un pryd mae'n rhaid i ni sicrhau bod yna ddidwylledd a thegwch ymhlith cyflenwyr sy'n dymuno gwerthu i ni.
Er mwyn cyflawni'r rhain, rhaid i bob contract a ddyfernir gydymffurfio â'r rheolau a nodir yng nghyfansoddiad y cyngor (Rheolau Gweithdrefn Contract). Rhaid iddynt hefyd fodloni darpariaethau statudol allweddol eraill a chyfarwyddebau caffael cyhoeddus yr UE (er enghraifft Deddf Caffael 2023).
Mae angen i gontract ar gyfer darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru fodloni telerau cynllun iaith Gymraeg y cyngor. Bydd unrhyw ofynion iaith Gymraeg yn cael eu nodi'n glir yn yr hysbysiadau contract a'r dogfennau tendro neu ddyfynbris.