Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyngor ar fudd-dal os ydych yn hunangyflogedig

Gwybodaeth ddefnyddiol am sut bydd bod yn hunangyflogedig yn effeithio ar eich hawl am fudd-dal tai neu ostyngiad treth y cyngor.

Ydw i'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig?

NI FYDDWCH fel arfer yn cael eich ystyried yn hunangyflogedig os ydych yn gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig. 

Os gallwch ateb yn gadarnhaol i'r holl gwestiynau canlynol, bydd fel arfer yn golygu eich bod yn hunangyflogedig.

  • allwch chi gyflogi rhywun i weithio drosoch chi neu gyda chi?
  • ydych chi'n cyflogi cynorthwywyr ar draul eich hun?
  • ydych chi'n peryglu eich arian eich hunan yn y busnes?
  • ydych chi'n cytuno i wneud swydd am bris sefydlog ni waeth pa mor hir fydd y gwaith yn ei gymryd?
  • allwch chi ddewis pa waith i'w dderbyn a sut a phryd fyddwch yn gwneud y gwaith?
  • oes rhaid i chi gywiro gwaith anfoddhaol yn eich amser eich hun ar draul eich hun?
  • ydych chi'n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 2 a/neu ddosbarth 4?

Os nad ydych wedi ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod, neu'r rhan fwyaf ohonynt, gall hun olygu eich bod yn weithiwr ac nid yn hunangyflogedig.  Arweiniad yn unig yw'r cwestiynau uchod, felly os ydych yn ansicr o hyd, bydd rhaid i chi gysylltu â ni am fwy o gyngor. 

Os ydw i'n hunangyflogedig, a allaf Hawlio Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor?

Os oes rhaid i chi dalu rhent am eich eiddo a/neu os ydych yn gyfrifol am dalu bil Treth y Cyngor gallwch gyflwyno cais am Fudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor. Gallwch gyflwyno cais ar-lein i hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor (a/neu Fudd-dal Tai).

Os na allwch gyflwyno'r ffurflen gais ar unwaith, gallwch ddweud wrthym eich bod yn bwriadu hawlio o hyd trwy gwblhau ein ffurflen ar-lein.

Os bydd angen i chi gyflwyno dogfennaeth wreiddiol i gefnogi hawliad newydd neu bresennol neu os oes gennych ymholiad cymhleth yr hoffech ei drafod wyneb yn wyneb, bydd ein Canolfan Gyswllt ar agor o 28 Ebrill 2021 ar sail apwyntiad yn unig. Gallwch wneud cais am apwyntiad yn www.abertawe.gov.uk/apwyntiadcanolfangyswllt 

Os ydw i newydd sefydlu busnes newydd, sut gallaf ddangos prawf o'm henillion hunangyflogedig?

Os ydych newydd sefydlu'r busnes byddwn yn gofyn i chi gwblhau ffurflen hunangyflogedig gydag amcangyfrif o'ch enillion a gwariant ar gyfer 3 mis cyntaf y busnes. Yn ystod y cyfnod 3 mis hwn, mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnod manwl o'ch incwm a gwariant gan y byddwn yn cysylltu â chi ar ôl 3 mis er mwyn gofyn i chi am y ffigurau go iawn. 

Mae gwefan Gov.uk yn rhoi cyngor i bobl hunangyflogedig ar ba gofnodion y mae angen iddynt eu cadw (Yn agor ffenestr newydd).

Pa dystiolaeth y mae angen i'r cyngor ei gweld fel prawf o'm henillion hunangyflogedi?

Bydd angen i chi roi tystiolaeth o'ch enillion hunangyflogedig bob amser. Gallwch gyflwyno eich ffurflen hunangyflogedig ar-lein (Yn agor ffenestr newydd).

Os gallwch ddarparu cyfrifon parod i ni (wedi'u harchwilio neu fel arall) ni fydd rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r ffurflen hunangyflogedig, gan y bydd llawer o'r wybodaeth fydd ei hangen arnom ar eich cyfrifon. Mae'r ffurflen hunangyflogedig hon yn esbonio pa adrannau fydd angen i chi eu cwblhau.

Os nad oes gennych gyfrifon Parod(wedi'u harchwilio neu fel arall) bydd ein ffurflen yn gofyn i chi ddarparu cofnod cywir o incwm a gwariant eich busnes er mwyn i ni allu cyfrifo Elw Net y busnes.  Eich cyfrifoldeb chi yn cwblhau'r ffurflen a darparu'r wybodaeth hon. Ni allwn ei wneud drosoch gan y byddai hyn yn golygu bod rhaid i ni gyfrifo faint o elw neu golled y mae eich busnes wedi'i wneud.  

Os oes gennych fwy nag un busnes bydd angen i chi ddarparu ffurflenni hunangyflogedig a chyfrifon parod(os oes rhai gennych) ar wahân. 

Pa dreuliau busnes ydych chi'n eu hystyried wrth gyfrifo fy enillion hunangyflogedig?

Mae rhai treuliau busnes yn cael eu tynnu o'ch elw gros ar gyfer dibenion budd-dal, ac eraill ddim. Rydym yn caniatáu treuliau sy'n angenrheidiol ar gyfer dibenion y busnes yn unig.   

Enghreifftiau o dreuliau y gellir eu tynnu:

  • trafnidiaeth
  • dillad gwarchod
  • postio
  • ffïoedd cyfreithiol a chyfrifeg
  • tanysgrifiadau proffesiynol
  • rhent
  • hysbysebu
  • costau llogi a phrydlesu
  • ffôn
  • yswiriant
  • staff
  • tanwydd
  • stoc a chyflenwadau
  • atgyweiriadau
  • prawf o ddyledion gwael
  • glanhau
  • costau cerbydau
  • costau banc
  • sefydlog

DS: mae'r treuliau y bydd CThEM yn caniatáu ar gyfer cyfrifo eich Treth Incwm yn wahanol i'r rheini a allai gael eu caniatáu er mwyn cyfrifo eich Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor.

Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn llythyr swyddfa dreth fel prawf o dreuliau. Gallwn, fodd bynnag, dderbyn copi o'r papurau gwaith y byddech wedi'u cwblhau er mwyn llenwi'ch ffurflen dreth (mae'r wybodaeth yn y papurau gwaith yn debyg iawn i'n ffurflen hunangyflogedig gan ei bod yn nodi dadansoddiad o'ch treuliau er mwyn i ni allu gweld os ydynt yn ganiataol ai peidio).

Mae fy enillion hunangyflogedig wedi newid (wedi cynyddu neu leihau) yn sylweddol, a fyddwch yn ailgyfrifo fy incwm

Unwaith y byddwn wedi cyfrifo eich enillion hunangyflogedig, yr unig bryd y gallwn eu hailgyfrifo yw os oes:

  • gwall yn y cyfrifo NEU
  • mae'n amser adolygu eich hawl NEU
  • mae newid yn amgylchiadau'r busnes.

Fel arfer, rhywbeth sy'n glwm wrth ddyddiad penodol yw newid yn amgylchiadau'r busnes, megis:

  • rydych yn ennill/colli busnes - gall gynnwys colli/ennill contract(au) penodol
  • rydych yn newid o hunangyflogaeth rhan amser i amser llawn neu i'r gwrthwyneb
  • mae lleoliad eich busnes yn newid
  • mae anaf gennych a ni allwch weithio.

Mae angen i chi ddweud wrthym am newid yn amgylchiadau'r busnes o fewn mis calendr i'r dyddiad y digwyddodd. Er mwyn ailgyfrifo eich hawl yn seiliedig ar y newid, bydd angen datganiad neu lythyr gennych sy'n cynnwys manylion yr hyn sydd wedi newid a phryd y newidiodd, er enghraifft:

"Rwyf wedi bod yn hunangyflogedig ers mis Medi 2020, enillais 2 gontract newydd ym mis Mehefin 2021 felly rwy'n darparu fy enillion hunangyflogedig o fis Mehefin 2021"  

Bydd rhaid darparu ffurflen hunangyflogedig newydd a chyfrifon parod, os oes rhai gennych, er mwyn cefnogi'r datganiad neu lythyr.

Beth yw cyfrifon parod (wedi'u harchwilio neu fel arall)?

  • cyfres o gyfrifon sy'n cael eu paratoi gan gyfrifydd
  • cyfrifon a baratowyd gan berchennog y busnes yn dangos holl fanylion eu hincwm a gwariant
  • dyddiadur o'r hyn y mae perchennog y busnes wedi'i dalu a'r treuliau ar gyfer pob wythnos neu fis, gyda chrynodeb o'r cyfanswm ar gyfer y cyfnod cyfan.

Ni allwn dderbyn llythyr swyddfa dreth fel prawf o'ch enillion gan y gall y treuliau caniataol y gallai CThEM eu derbyn ar gyfer cyfrifo'r Dreth Incwm fod yn wahanol i'r rhai y gallwn eu derbyn.

Fodd bynnag, gallwn dderbyn argraffiad o'r papurau gwaith y byddech chi, perchennog y busnes, yn eu cwblhau er mwyn llenwi'r ffurflen dreth. Y rheswm am hyn yw gan fod yr wybodaeth yn y papurau gwaith yn debyg iawn i'n ffurflen hunangyflogedig sy'n rhoi dadansoddiad llawn o dreuliau.

Sut byddech chi'n adolygu fy enillion er mwyn sicrhau eich bod yn ystyried y swm cywir?

Bydd pryd y byddwn yn adolygu eich enillion yn dibynnu ar natur eich busnes a pha mor hir rydych wedi bod yn masnachu ond, yn gyffredinol, bydd y canlynol yn digwydd.

  • byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol o'ch enillion hunangyflogedig pan fyddwch yn dechrau eich busnes.
  • byddwn yn adolygu'r ffigurau incwm a gwariant dri mis yn ddiweddarach i sicrhau ei fod yn gywir.
  • dewisir dyddiad ar gyfer yr adolygiad nesaf. Yn aml, gall hwn fod ryw flwyddyn ar ôl dechrau masnachu, tua'r un adeg ag y bydd blwyddyn ariannol y busnes yn dod i ben. Fodd bynnag, lle y bo'n briodol, dewisir dyddiad gwahanol.

Mae'r tabl isod yn crynhoi'r dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno ar bob cam.

Tystiolaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni ar bob cam
1. Newydd ddechrau'r busnes
  • cwblhewch ffurflen hunangyflogedig.
  • os ydych wedi bod yn masnachu am lai na 3 mis, bydd amcangyfrif o incwm a gwariant yn iawn
  • pennir dyddiad adolygu ar gyfer 3 mis yn ddiweddarach
2. Adolygiad ar ôl 3 mis (byddwn yn anfon ffurflen adolygu atoch yn awtomatig)
  • cwblhewch ffurflen hunangyflogedig
  • cyflwynwch gyfrifon parod neu fanylion am incwm a gwariant gwirioneddol ar gyfer y 3 mis diwethaf
3. Adolygiad nesaf (byddwn yn anfon ffurflen adolygu atoch yn awtomatig)
  • cwblhewch ffurflen hunangyflogedig
  • cyflwynwch gyfrifon parod neu fanylion am incwm a gwariant gwirioneddol

 

Close Dewis iaith