Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Lle i gael cyngor ar weithredoedd twyllodrus

Mae nifer o sefydliadau yn darparu cyngor ar weithredoedd twyllodrus.

Action Fraud

Canolfan hysbysu twyll y DU ar gyfer gweithredoedd twyllodrus neu seibirdroseddu. Yn ogystal â rhoi gwybod am dwyll gallwch hefyd dderbyn cyngor a'r newyddion diweddaraf am weithredoedd twyllodrus diweddar.

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.

Take Five

Ymgyrch genedlaethol sy'n cynnig cyngor syml a di-duedd i helpu pobl i amddiffyn eu hunain rhag twyll ariannol y gellir ei hatal.

Think Jessica

Maent yn darparu digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddioddefwyr gweithredoedd twyllodrus diamddiffyn. Maent hefyd yn ymgyrchu am fwy o gefnogaeth ar gyfer dioddefwyr gweithredoedd twyllodrus.

Which?

Mae arweiniad ar-lein ar y gweithredoedd twyllodrus diweddaraf, sut i adnabod gweithredoedd twyllodrus, beth i'w wneud os ydych wedi dioddef gweithred dwyllodrus a sut i roi gwybod am weithred dwyllodrus.
Close Dewis iaith