Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol

Mae perchnogion cartrefi gwag yn Abertawe yn gymwys i wneud cais am grant gwerth hyd at £25,000 i wneud y cartrefi'n ddiogel i fyw ynddynt a gwella'u heffeithlonrwydd ynni.

Cyflwyno cais am grant cartrefi gwag

  • Ydych chi'n berchen ar eiddo sy'n wag ar hyn o bryd?
  • Oes angen cymorth arnoch i'w wneud yn ddiogel cyn i chi symud i mewn?
  • Ydych chi'n ystyried prynu eiddo gwag i fyw ynddo, ond bod angen cymorth arnoch cyn i chi allu ei ailddefnyddio?

Os ydych, a bod yr eiddo yn wag ers dros 2 mis, gallech fod yn gymwys am grant o hyd at £25,000 i'ch helpu i ailddefnyddio eich eiddo a'i wneud yn fwy effeithlon o ran ynni.

Meini prawf cymhwysedd

  • Rhaid bod y cartef gwag wedi'i leoli yn aral un o'r Awdurdodau Lleol sydd yn rhan o'r cynllun, cliciwch yma i weld os yw'r grant ar gael yn eich Awdurdod Lleol chi (Yn agor ffenestr newydd). Mae Cyngor Abertawe'n awdurdod sy'n rhan o hyn. Mae meini prawf ychwanegol os yw'r eiddo yn ward Gŵyr.
  • Mae rhaid i'r cartref fod wedi'i gofrestru gydag Adran treth y Cyngor yr awdurdod fel eiddo gwag (heb ei feddiannu) ar hyn o bryd, a rhaid ei fod wedi bod yn wag o leiaf 12 mis adeg cyflwyno'r cais.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchen, neu ar fin bod yn berchen, a yr eiddo. Rhaid iddyn nhw fwriadu byw yn yr eiddo gwag a'i ystryied yn ei unig a prif gartef, a hynny am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad mae'r gwaith sydd wedi'i dalu gan y grant yn cael ei ardystio (cynod amod y grant).

Sut i gyflwyno cais

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gartrefi gwag ar wefan Rhondda Cynon Taf (Yn agor ffenestr newydd)

Am ragor o wybodaeth am y grant a sut i wneud cais ffoniwch 01443 494712 neu e-bostiwch EmptyHomesGrant@rctcbc.gov.uk

Close Dewis iaith