Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Abertawe

Yn 2005, crëwyd dogfen gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Abertawe o'r enw "Hybu Amgylchedd Naturiol Abertawe: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol."

Roedd y ddogfen yn rhoi fframwaith strategol a chyfres o gynlluniau gweithredu rhywogaethau a chynefinoedd manwl sy'n edrych ar sut gallai unigolion a sefydliadau weithio gyda'i gilydd i atal bioamrywiaeth rhag cael ei cholli yn Abertawe.

Mae'r cynllun gweithredu'n cael ei adolygu a'i ddiweddaru ar hyn o bryd gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Abertawe. Mae'n edrych ar gamau gweithredu a'u diweddaru a chynnwys rhywogaethau a chynefinoedd newydd a nodwyd o bwysigrwydd mawr yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.