Cynllun gwerthu seddi gwag ar fysus contract cludiant ysgol
1. Mae'r cynllun yn ymwneud â seddi gwag ar fysus contract o'r Cartref i'r Ysgol yn unig sy'n codi pan fo nifer y disgyblion sy'n gymwys am gludiant am ddim yn llai na nifer y lleoedd ar y bws y mae'r contractwr wedi ymrwymo i'w ddarparu mewn tendr y mae Dinas a Sir Abertawe wedi'i dderbyn.
2. Fel y penderfynwyd gan Aelodau'r Cyngor, bydd seddi gwag ar gael yn gyntaf i ddisgyblion sy'n byw o fewn ardal dalgylch yr ysgol ar sail y pellter cynllun o'r ysgol (h.y. fel hêd y fran). Ond pan caiff seddi gwag eu cynnig i ddisgyblion y "tu allan i'r dalgylch" ar sail pellter cynllun o ddechrau llwybr y bws. Bydd lleoedd dros ben sy'n weddill yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i'r felin yn ystod y flwyddyn.
3. Ni fydd bysus contract yn cael eu dargyfeirio na'u hehangu i ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n cymryd seddi gwag, ac ni fydd cerbydau mwy o faint yn cael eu defnyddio chwaith.
4. Bydd seddi gwag ar gael yn ôl digresiwn Cyngor a Dinas Abertawe yn unig hyd at uchafswm llwyth ymarferol y cerbyd. Er budd cysur a lles y disgyblion, efallai y bydd uchafswm llwyth ymarferol y cerbyd yn llai na swm a ganiateir o dan y gyfraith. At ddibenion pennu nifer y seddi gwag sydd ar gael, rhagdybir y bydd pob disgybl yn bresennol.
5. Er mwyn cael sedd wag ar fysus contract cludiant ysgol rhaid i ddisgybl feddu ar docyn docyn a brynwyd gan Ddinas a Sir Abertawe a'i ddangos i'r gyrrwr pan ofynnir iddo wneud hynny. Gellir cael tocyn o'r Tîm Cludiant Ysgol a gellir ei lenwi ar-lein yn:
6. Ni chaiff seddi gwag eu gwerthu i blant oedran meithrin.
7. Ymdrinnir â cheisiadau yn y drefn y cânt eu derbyn gan y Tîm Cludiant Ysgol.
8. Rhoddir ad-daliadau dim ond pan fo plant naill ai'n:
a) newid cyfeiriad a stopio teithio, neu'n
b) newid cyfeiriad ac yn dod yn gymwys am gludiant am ddim neu'n
c) cael eu disodli gan ddisgyblion ychwanegol sy'n gymwys am gludiant am ddim, ac mae'r tocyn dilys yn cael ei ddychwelyd i'r Tîm Cludiant Ysgol.
9. Cyfrifir ad-daliadau o'r dyddiad caiff y tocyn ei dderbyn yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd.
10. Ni fydd prynu sedd wag am y flwyddyn gyfan yn gwarantu y bydd ar gael am y cyfnod hwnnw. Os bydd nifer y disgyblion sy'n gymwys am gludiant yn cynyddu i'r fath raddau y byddai mwy o ddisgyblion na nifer y lleoedd sydd ar gael ar y bws, byddai'n rhaid disodli disgyblion sy'n cymryd seddi gwag.
11. Gellir prynu tocyn newydd os yw'r tocyn gwreiddiol wedi'i golli neu ei ddifrodi am bris o £5.00. Gellir gwneud cais am docyn newydd ar-lein drwy lenwi'r Rhoi tocyn bws ysgol newydd.
12. Adolygir y ffïoedd am seddi gwag yn flynyddol.