Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd Cyngor Abertawe 2025 - 2035

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn argymell bod yr holl awdurdodau yng Nghymru'n paratoi Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Mae'r cynllun hwn yn nodi cynlluniau'r cyngor ar gyfer rheoli ei asedau priffyrdd yn y dyfodol.

Cyfrifoldeb am y cynllun

Dangosir y sawl sy'n gyfrifol am gyflawni a diweddaru'r cynllun hwn isod:

Cyfrifoldeb am y cynllun
Swyddog y CyngorYn gyfrifol am y canlynol
Stuart Davies - Pennaeth GwasanaethCyflwyniad y cynllun
Robert Fenwick - Arweinydd GrŵpGoruchwylio'r prosiect
Chris Pike - Peiriannydd Prosiect Priffyrdd

Cyflawni'r cynllun
Diweddaru'r cynllun

Mike Sweeney / Chris PikeCynnal a chadw priffyrdd
Paul RetallickPontydd ac adeileddau
Jonathan HurleyGoleuadau cyhoeddus

 

Cynnwys

Rhagair
Cyflwyniad

  1. Trosolwg
    1.1 Rheoli Asedau Corfforaethol
    1.2 Rheoli Asedau Priffyrdd
    1.3 Egwyddorion Rheoli Asedau
    1.4 Cynllunio ar gyfer cylch oes
  2. Rheoli Priffyrdd ar gyfer 2025 - 2035
    2.1 Perthynas â chynlluniau a strategaethau proffyrdd eraill
    2.2 Dyma asedau priffyrdd y cyngor a gwmpesir gan y cynllun hwn:
    2.3 Twf Asedau
    2.4 Traffig
    2.5 Amodau amgylcheddol
    2.6 Cyllideb
    2.7 Rhaglenni gwaith cyhoeddedig
    2.8 Safonau
  3. Disgwyliadau cwsmeriaid a galwadau allanol
    3.1 Cysylltiadau ymgynghori â chwsmeriaid
  4. Safonau Gwasanaeth
    4.1 Archwiliadau diogelwch
    4.2 Diffygion diogelwch
    4.3 Atgyweiriadau ffyrdd nad ydynt yn ymwneud â diogelwch
    4.4 Atgyweiriadau ymatebol
    4.5 Blaenoriaethau
  5. Ased Priffyrdd - Ffyrdd Cerbydau
  6. Ased Priffyrdd - Troedffyrdd
  7. Ased Priffyrdd - Goleuadau Stryd
  8. Ased Priffyrdd - Adeileddau
  9. Ased Priffyrdd - Goleuadau Stryd
  10. Strategaethau buddsoddi mewn asedau
  11. Risgiau i'r cynllun
    Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella
  12. Crynodeb

Atodiad 1 - Crynodeb o'r Ddogfen Gysylltiedig
Llawlyfr Cynnal Ffyrdd
Blaenraglen waith
Adroddiad Statws Opsiynau Blynyddol
Datganiad Polisi Rheoli Asedau
Adroddiad Gwerthuso Asedau
Datganiadau Dangosyddion Perfformiad
Cynllun Gweithredu ar gyfer Gaeaf
Cynllun Rheoli Data
Cynllun/Polisi Gwasanaeth y Gaeaf
Polisi Archwiliadau Diogelwch
Polisi Gwrthsefyll Sgidio ar y Briffordd
Polisi Asesu Priffyrdd
Trwyddedu Priffyrdd
Nodyn cyfarwyddyd am ffyrdd heb eu mabwysiadu
Polisi Palmentydd i Bobl

Rhagair

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn argymell bod yr holl awdurdodau yng Nghymru'n paratoi Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Mae'r cynllun hwn yn nodi cynlluniau'r cyngor ar gyfer rheoli ei asedau priffyrdd yn y dyfodol.

Mae'r cynllun yn disgrifio'r ymagwedd at reoli asedau priffyrdd y cyngor ar gyfer y cyfnod 2025 to 2035 a sut bydd y rhwydwaith yn cael ei reoli i sicrhau y dilynir blaenoriaethau corfforaethol, gan ystyried cyllid a chyflwr presennol yr asedau, anghenion gwahanol rhanddeiliaid, blaenoriaethau lleol a'r buddion y maent yn eu darparu dros y tymor canolig i hir o ran canlyniadau diffiniedig. Mae'r cynllun yn cydnabod barn defnyddwyr ffyrdd a phreswylwyr.

Fe'i cynhyrchwyd yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac arfer da argymelledig a ddatblygwyd drwy Brosiect Rheoli Asedau Ffyrdd/Priffyrdd "Cymru Gyfan" - Prosiect Rheoli Asedau Priffyrdd Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru.

Cydnabyddir gan lawer y gall defnyddio arferion rheoli asedau modern alluogi gwell gwerth am arian.  Lle bo adnoddau'n gyfyngedig, mae'n hanfodol bod y cyngor yn croesawu'r dulliau hyn ac yn ymdrechu i sicrhau bod pob ceiniog sy'n cael ei wario'n cael ei fuddsoddi mor ddoeth â phosib. Mae'r cynllun hwn yn rhan bwysig o ymrwymiad y cyngor i ddefnyddio dulliau rheoli asedau da ar gyfer ei rwydwaith priffyrdd.

Mae gan y cyngor rwydwaith ffyrdd sy'n heneiddio, ac mae ôl-groniad mawr o waith i'w wneud. Mae'r galw cynyddol ar adnoddau'n golygu nad yw erioed wedi bod yn fwy hanfodol rhoi dulliau rheoli asedau effeithiol ar waith. Mae'n deillio o broses gynllunio a dadansoddi anghenion tymor byr a thymor hwy.

Y rhwydwaith priffyrdd lleol yw ased mwyaf, amlycaf a mwyaf gwerthfawr Abertawe sy'n eiddo i'r cyhoedd, a byddai gosod rhwydwaith newydd yn costio mwy na £2,000,000,000.  Defnyddir y rhwydwaith 24 awr y dydd 365 niwrnod y flwyddyn gan breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr ac mae'n hanfodol i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y sir.

Mae gan yr Awdurdod Priffyrdd ddyletswydd statudol i gynnal y briffordd yn ddiogel, ac mae cynllun rheoli asedau'n helpu i gyfiawnhau gwariant ac amddiffyn dewisiadau'r cyngor o ran cynnal a chadw.

Ni fwriedir i'r ddogfen hon fod yn ddogfen sefydlog. Caiff ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd ac fe'i hategir gan nifer o bolisïau, nodiadau cyfarwyddyd a chynlluniau eraill.

Y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod o'r Cabinet am Yr Amgylchedd ac Isadeiledd
Stuart Davies, Pennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant

Cyflwyniad

Fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae'n ddyletswydd ar Gyngor Abertawe weithredu fel ceidwad yr ased priffyrdd i sicrhau ei fod yn addas i'r diben ac yn cael ei gynnal yn unol â hyn.

Drwy'r holl ddogfen hon, mae'r term "Priffordd" yn cyfeirio at y briffordd fabwysiedig, sef yr holl asedau o fewn ffin y briffordd sydd wedi'u mabwysiadu'n swyddogol gan y cyngor ac y cânt eu cynnal a chadw ar draul y cyhoedd. Nid yw asedau nad ydynt wedi'u mabwysiadu neu sydd mewn strydoedd preifat, ac na chânt eu cynnal ar draul y cyhoedd, wedi'u cynnwys.

Mae'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd hwn yn egluro sut caiff polisïau, prosesau a nodiadau cyfarwyddyd eu rhoi ynghyd i greu cynllun cyffredinol. Mae'n ddogfen tra phwysig. Mae'r ddogfen hon yn canolbwyntio'n bennaf ar asedau'r ffordd gerbydau a throedffyrdd gan mai'r rhain yw swmp gwerth yr ased, fodd bynnag bydd meysydd eraill fel goleuadau, colofnau, pontydd, draenio a chelfi stryd (arwyddion) etc. yn cael eu hystyried hefyd.

Gydag amser, bydd priffyrdd sydd mewn cyflwr da ar hyn o bryd yn dirywio. Er mwyn delio â dirywiad ased Abertawe, mae'n rhaid i'r Cyngor Sir fuddsoddi'n barhaus mewn cynnal a chadw.

Mewn cyfnod pan fo cyllidebau ac adnoddau'n lleihau, mae Cyngor Abertawe, fel pob awdurdod arall yng Nghymru, yn wynebu heriau sylweddol wrth benderfynu sut i reoli ei asedau'n effeithiol. Mae'n annhebygol y bydd y cyngor mewn sefyllfa lle bydd ganddo ddigon o arian i gynnal pob ffordd y mae angen gwaith arni, ac mae angen defnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau i gael y canlyniadau gorau o ran buddsoddiad ar gyfer ei randdeiliaid.

Mae angen ymagwedd rheoli asedau ar gyfer arfer gorau. Dyma'r diffiniad: 'Ymagwedd systematig at ddiwallu angen strategol ar gyfer rheoli a chynnal asedau isadeiledd priffyrdd drwy gynllunio tymor hir a dyrannu adnoddau yn y ffordd orau er mwyn rheoli risgiau a diwallu gofynion perfformiad yr awdurdod yn y ffordd fwyaf effeithlon a chynaliadwy.'

Drwy fabwysiadu egwyddorion sylfaenol Rheoli Asedau byddwn yn gallu nodi ble i ddyrannu'r adnoddau cyfyngedig er mwyn rheoli, cadw a gwella'r rhwydwaith.

1. Trosolwg

Datblygodd y gofyniad am Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys:-

  • Cyflwyno Cyfrifon Llywodraeth Gyfan ar draws y sector cyhoeddus gan y Llywodraeth. Mae'n ofynnol bod yr holl awdurdodau priffyrdd yn gosod gwerth ar eu hasedau priffyrdd ar gyfer y dull Cyllidebu a Chyfrifyddu Adnoddau. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i asesu gwerth gosod rhwydwaith newydd a hefyd i asesu'r lleihad mewn gwerth fel y gellir cofnodi'r gwerth cyfredol mewn cyfrifon.
  • Cyflwyno'r Côd Materion Ariannol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw manwl i arfarnu opsiynau, cynllunio ar gyfer rheoli asedau a chynllunio strategol wrth benderfynu ar fuddsoddiadau cyfalaf.
  • Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dweud eu bod yn awyddus iawn i weld cynlluniau rheoli asedau gan ei bod wedi mynd ati i gynnwys gofynion penodol yn y cyfarwyddiadau ar gyfer Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn yr amodau ar gyfer grantiau cynnal ychwanegol.

1.1 Rheoli Asedau Corfforaethol

Nodir ymagwedd gorfforaethol y cyngor at reoli asedau yn y dogfennau canlynol:

  • Cynllun Rheoli Asedau'r Gwasanaethau Eiddo 2021-25
  • Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2025-2035
  • Cynllun Rheoli Asedau Tai 2024

1.2 Rheoli Asedau Priffyrdd

Lluniodd Dinas a Sir Abertawe grynodeb cyffredinol o'i Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn 2006 a dilynwyd hyn gan y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd cyntaf ffurfiol a gyhoeddwyd yn 2010 i gwmpasu'r cyfnod 2010 i 2015. Mae Adroddiadau Opsiynau Statws Blynyddol wedi'u llunio'n flynyddol i adolygu'r cynllun. Mae'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd newydd hwn yn nodi cynlluniau'r cyngor ar gyfer asedau priffyrdd y cyngor mewn modd clir a thryloyw,  ar gyfer y cyfnod 2025 - 2035.

Datblygwyd y cynllun yn unol ag arferion rheoli asedau argymelledig SCOTS (cymdeithas prif swyddogion trafnidiaeth yr Alban) a Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru. Er nad yw'r canllawiau arfer gorau hyn yn ddyletswyddau statudol, maent yn cynrychioli'r arfer da arferol.

Diben y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yw:

  • Ffurfioli strategaethau i reoli'r ased priffyrdd
  • Ffurfioli strategaethau buddsoddi mewn grwpiau asedau priffyrdd 
  • Diffinio safonau gwasanaeth

Defnyddir y targedau a'r strategaethau yn y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd i ddatblygu'r Flaenraglen Waith Priffyrdd, un o'r prif ddogfennau ategol.

Yn hanesyddol, defnyddiwyd yr ymagwedd 'y gwaethaf yn gyntaf', gan ymateb i bwysau a phryderon y cyhoedd. Nid oedd gan yr ymagwedd tymor byr hon ar gyfer cynnal a chadw adeileddol ddim, neu fawr ddim mesurau ataliol. Roedd yr ymagwedd yn canolbwyntio ar asedau y nodwyd eu bod yn y cyflwr gwaethaf i ddatblygu rhaglenni gwaith flwyddyn ar ôl blwyddyn. Deellir hyn yn hawdd gan y rheini nad oes ganddynt ddealltwriaeth o'r materion tymor hir, ac sy'n meddwl ei bod hi'n ddyletswydd ar y cyngor i'w atgyweirio yn ei gyfanrwydd a pheidio ag ystyried dulliau gwahanol. Mae mesurau ataliol yn hanfodol i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael gan fod y triniaethau hyn yn tueddu i fod yn rhatach ac yn fwy buddiol, ac maent yn caniatáu ar gyfer trin ardaloedd ehangach gan gael effaith gadarnhaol ar gyflwr tymor hir y rhwydwaith yn ei gyfanrwydd. Mae cydbwyso'r amgyffrediad o atgyweirio asedau sydd mewn 'gwell' cyflwr na chadw'r priffyrdd ar lefel ddiogelwch sylfaenol yn anodd.

Yn 2005 cyflwynodd Abertawe raglen bum mlynedd, a dilynwyd hyn gan raglenni tebyg yn 2010, 2015 a 2020. Roedd y rhaglenni hyn yn cynnwys mesurau ataliol.  Mae hyn wedi caniatáu i ni gynyddu oes y rhwydwaith, manteisio i'r eithaf ar wariant a lleihau canran y ffyrdd, troedffyrdd ac asedau eraill y mae angen eu hatgyweirio. Bydd y flaenraglen waith sy'n ddisgwyliedig yn 2025 yn para tair blynedd, gan ganiatáu ar gyfer ymagwedd fwy ymatebol. Mae'r flaenraglen waith hon yn caniatáu ar gyfer blaengynllunio gwaith i osgoi gwrthdaro, grwpio gwaith arbenigol ac eglurder bwriad ac mae'n rhoi cyfle i werthuso ar draws y rhwydwaith gan roi ystyriaeth i bopeth.

1.3 Egwyddorion Rheoli Asedau

Mae'r Awdurdod a'r Llywodraeth yn cydnabod y gellir gwneud arbedion tymor hir drwy ddefnyddio technegau rheoli asedau. Drwy wneud mwy o waith cynlluniedig tymor hir yn hytrach nag atgyweiriadau cynnal a chadw tymor byr, mae'n bosib cyflawni'r canlynol:

  • Gostyngiad tymor hir mewn costau cynnal a chadw ymatebol nad ydynt yn gynaliadwy yn y tymor hir
  • Proses benderfynu gliriach gyda'n gwaith arfaethedig, i ddarparu amlygrwydd ac eglurder
  • Rheoli risgiau mewn perthynas â'n hasedau hanfodol yn well
  • Lleihau hawliadau damweiniau trydydd parti
  • Gwell boddhad cwsmeriaid
  • Cyfranogaeth rhanddeiliaid/cleientiaid
  • Gwella amserau teithiau a lleihau oediadau
  • Dealltwriaeth gliriach o alwadau yn y dyfodol

Mae'r strategaeth rheoli asedau gorau oll yn cynnwys rhaglen hirdymor o waith cynnal a chadw gyda chyfuniad o gynlluniau ailwynebu yn ogystal â defnyddio triniaethau ataliol ar yr amser gorau posib cyn bod y ffordd wedi dirywio'n ormodol. Gall y triniaethau ataliol hyn olygu y gellir lleihau'r costau oes i gynnal y ffordd o'i gymharu â'u hailwynebu'n unig pan fo'r arwyneb wedi methu.

Mae mesurau ataliol yn caniatáu gostyngiad mewn costau cyfalaf gan eu bod yn llai ymwthiol, mae angen llai o ddeunydd arnynt ac mae hyd prosiectau'n llai gan fod y ffyrdd yn cael eu trin cyn iddynt fethu, gan felly leihau costau cynnal a chadw ac atgyweirio ymatebol a gostyngiad tebyg mewn hawliadau trydydd parti.

1.4 Cynllunio ar gyfer cylch oes

Cefnogir y gwaith o reoli asedau gan ddefnyddio ac ymgorffori cynllunio ar gyfer cylch oes sy'n ein galluogi i fonitro cyflwr yr asedau fel y gellir ymyrryd yn gynnar.

Mae gwybodaeth fanwl am faint, diogelwch, cyflwr a gwerth yr ased priffyrdd yn caniatáu i ni ystyried y costau oes gyfan rhagfynegol wrth gynllunio gwariant cyfalaf a refeniw a phennu anghenion cyllidebol yn y tymor byr, canolig a hir.

Mae cynllunio ar gyfer cylch oes yn ein galluogi i ddatblygu rhaglenni gwaith sy'n gwneud y defnydd gorau o gyllid cyfyngedig wrth gyflawni amcanion tymor hir, lliniaru'r risg o fethu drwy ddyrannu arian i ble bydd yn fwyaf buddiol. Mae hyn yn newid cyfeiriad o'r ymagwedd "y gwaethaf yn gyntaf" hen ffasiwn, ac yn ei gwneud yn haws targedu rhaglenni gwaith penodol i'r rhannau hynny o'r isadeiledd lle ceir y risg tymor hir fwyaf a lle gall triniaeth amserol olygu'r ateb cost effeithiol mwyaf buddiol.

Er mwyn cynllunio ar gyfer cylch oes yn effeithiol, mae angen cael gwybodaeth am sawl peth:

  1. Yr hierarchaeth cynnal a chadw (pwysigrwydd y ffordd)
  2. Canlyniadau arolygon rheolaidd a chyflwr yr asedau
  3. Opsiynau ar gyfer triniaeth
  4. Costau triniaethau
  5. Oes triniaethau
  6. Cyfyngiadau'r gyllideb

Mae gan Abertawe ganran uchel o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn rhwydwaith datblygedig. Y broblem gynhenid gyda'r math hwn o briffordd yw dod o hyd i oed yr ased, y gwneuthuriad a'r manylion perthnasol. Er enghraifft, mae Mumbles Road yn haen safon uchel a chymharol denau o asffalt a roliwyd yn boeth dros haen sylfaen o gerrig mân a slag. Dyma lle y gall data perfformiad cynllun hanesyddol, sydd wedi'i gynnal dros flynyddoedd lawer, gael ei ddefnyddio i gynnal asesiadau ar berfformiad disgwyliedig triniaethau a deunyddiau gwahanol ynghyd ag arferion traddodiadol presennol a datblygiadau wrth ystyried meini prawf rheoli asedau.

Nodir amcanion y cynlluniau cylch oes ar gyfer ein prif asedau isod:

  • Nodi buddsoddiad tymor hir ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd.
  • Datblygu strategaeth cynnal a chadw briodol ar gyfer y tymor hir a byr.
  • Rhagweld perfformiad asedau'r isadeiledd priffyrdd yn y dyfodol ar gyfer lefelau buddsoddi gwahanol.
  • Rhagweld perfformiad yn y dyfodol gan ddefnyddio strategaethau cynnal a chadw gwahanol.
  • Penderfynu ar lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni'r perfformiad gofynnol.
  • Penderfynu ar y perfformiad a gyflawnir yn seiliedig ar y buddsoddiad a ddarperir.
  • Cefnogi'r broses benderfynu.
  • Dangos effaith y sefyllfaoedd ariannu gwahanol.
  • Lleihau costau dros y cylch oes wrth gynnal y perfformiad sy'n ofynnol.

Mae dangos y patrymau gwariant gwahanol yn ffactor allweddol wrth ddiogelu cyflwr y rhwydwaith gydag adnoddau cyfyngedig.

2. Rheoli Priffyrdd ar gyfer 2025 i 2035

Bydd y safonau, y targedau a'r tybiaethau gwariant a gynhwysir yn y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd hwn yn cael eu monitro'n barhaus a llunnir adroddiad statws blynyddol a fydd yn cael ei gyflwyno i uwch-reolwyr ac aelodau ynghyd ag unrhyw newidiadau argymelledig i'r cynllun.

2.1 Perthynas â chynlluniau a strategaethau priffyrdd eraill

Mae'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn ddogfen hollgynhwysol a gyfeirir gan y dogfennau a restrir isod.

  • Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
    • Llawlyfr Cynnal a Chadw Ffyrdd
      • Cynllun Gwasanaeth y Gaeaf
      • Polisi Archwiliadau Diogelwch
      • Polisi Gwrthsefyll Sgidio ar y Briffordd
      • Polisi Asesu Priffyrdd
    • Blaenraglen Waith
    • Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol
    • Datganiad Polisi Rheoli Asedau
    • Adroddiad Gwerthuso Asedau
    • Datganiadau Dangosyddion Perfformiad
    • Cynllun Rheoli Data
    • Nodiadau Cyfarwyddyd Priffyrdd
      • Trwyddedu Priffyrdd
      • Nodyn cyfarwyddyd am ffyrdd heb eu mabwysiadu
      • Polisi Palmentydd i Bobl
    • Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella

Atodir crynodeb o bob dogfen yn Atodiad A.

2.2 Dyma asedau priffyrdd y cyngor a gwmpesir gan y cynllun hwn:

  • 1,112km o ffyrdd cerbydau
  • 221 o bontydd a chwlferi
  • 1500km o droedffyrdd
  • 448 o waliau cynnal (nifer tybiedig)
  • 26,023 o golofnau goleuo strydoedd
  • Celfi stryd
  • 3231 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo
  • Tua 40,000 o gylïau draenio a mwy na 300km o bibellau draenio
  • 129 o groesfannau i gerddwyr gyda goleuadau

Data

Mae'r cynllun hwn yn seiliedig ar y rhestr ddata bresennol sydd ar gael ar gyfer asedau priffyrdd h.y. ffyrdd cerbydau, troedffyrdd, adeileddau, goleuadau stryd, goleuadau traffig a chelfi stryd.  Ar gyfer rhai asedau priffyrdd bach, ni chedwir rhestr ddata ar hyn o bryd h.y. bolardiau, fodd bynnag, mae ymgais wedi'i gwneud i ymgorffori'r asedau hyn yn y cynllun hwn gan ddefnyddio amcangyfrifon lleol ac arolygon enghreifftiol.  I sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar well gwybodaeth, mae Cynllun Gwella Data wedi'i lunio i gefnogi'r cynllun hwn.

2.3 Twf Asedau

Mae'r briffordd yn cynyddu mewn maint ar gyfradd o oddeutu 1-3km y flwyddyn. Mae'r asedau ychwanegol hyn yn creu angen am gynnal a chadw, rheolaeth a chyllid cysylltiedig yn y dyfodol wrth iddynt heneiddio. Yn ogystal â hyn, rhwng 2020 a 2025 yn fras  mae (i'w gadarnhau) o lwybrau teithio llesol wedi'u hychwanegu at y rhwydwaith heb unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw.

Gyda'r holl ffyrdd newydd, er bod gwaith cynnal a chadw ffisegol yn isel am yr ychydig flynyddoedd cyntaf, mae galw di-oed am adnoddau gan fod angen archwilio ffyrdd newydd a gwneud gwaith cynnal a chadw arferol arnynt ac mewn perthynas â goleuo, mae cynnydd amlwg mewn costau ynni.

Mae rhai o'r ychwanegiadau at y rhwydwaith yn ffyrdd hanesyddol sy'n cael eu mabwysiadu drwy ddyletswydd a gall y rhain fod mewn cyflwr gwael, y mae angen eu cynnal a chadw ar unwaith ac yn y tymor byr. Mae hyn yn arbennig o wir o ran asedau a fabwysiedir i'r briffordd o adrannau eraill y cyngor.

Nid yw'r cynnydd mewn asedau eraill, er enghraifft celfi stryd, yn cael ei gofnodi. Cynhelir yr asedau hyn ar sail amnewid anghylchol a gosodir celfi stryd newydd dim ond os yw'r hen rai wedi methu.  Yn y meysydd hyn, mae'r cynnydd fel arfer yn unol â'r cynnydd mewn ffyrdd cerbydau ac o ran asedau eraill, mae'r effeithiau'n ddibwys.

Maes twf pellach yw nodweddion diogelwch ffyrdd sy'n cynnwys arwynebau â llawer o ffrithiant a nodweddion arafu traffig. Mae'r rhain wedi cynyddu'n aruthrol mewn nifer yn y blynyddoedd diweddar ond ni chofnodir union niferoedd y stoc ar y rhestr. Mae gan y math hwn o ased effaith ychwanegol gan ei fod yn tueddu i arwain at ddirywiad yn y briffordd gyfagos gyda'i hoes yn cael ei chwtogi hyd at 50%, gan ddibynnu ar y math o briffordd a geir. Os yw'r duedd i osod nodweddion arafu traffig yn parhau yna bydd angen ystyried costau cynnal a chadw ychwanegol.

2.4 Traffig

Nid oedd y rhan fwyaf o ffyrdd y cyngor wedi'u dylunio i ymdopi â lefelau traffig presennol neu gerbydau masnachol modern. Mae'r ffaith bod cerbydau masnachol mawr/cerbydau dosbarthu i'r cartref a bysus yn defnyddio ffyrdd lleol yn gynyddol hefyd yn effeithio ar y rhwydwaith. Mae hyn yn creu angen cynyddol am fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw. Mae'r newid i gerbydau trydan hefyd yn bryder oherwydd pwysau uwch, cyflymderau cyflymu a brecio a'r difrod oherwydd grymoedd tyniant.

Ers 2013 mae hi wedi bod yn ofynnol i'r cyngor gyflwyno uchelgeisiau Deddf Teithio Llesol Cymru. Mae'n mynnu bod awdurdodau lleol yn gwella cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr yn barhaus a pharatoi mapiau sy'n nodi llwybrau presennol a llwybrau posib ar gyfer y dyfodol ar eu cyfer.  Mae angen i gynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) i ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr ar y cam dylunio. Gall fod angen mwy o waith cynnal a chadw ar lwybrau beicio yn arbennig, ac mae angen rheoli hyn yn ofalus.

2.5 Amodau amgylcheddol

Mae pwysau'n cael ei roi ar yr ased o ganlyniad i amodau amgylcheddol gan gynnwys:

  • Gaeafau garw: mae gaeafau garw diweddar wedi achosi cryn ddifrod i arwynebau ffyrdd oherwydd effeithiau rhewi/dadlaith yn enwedig mewn ardaloedd â thymereddau ymylol fel Abertawe  Mae hyn yn ymwneud â thymereddau'n hytrach na chwymp eira, gan fod y cyhoedd yn tueddu i feddwl mai gaeaf garw yw gaeaf lle ceir cwymp eira ac iâ gweladwy. Fodd bynnag o ran yr effeithiau ar y briffordd, mae cyfnodau o dywydd oer/gwlyb yn cael effaith fwy andwyol. Ar gyfartaledd, amcangyfrifir bod nifer y nosweithiau â thymereddau arwyneb y ffordd islaw sero wedi cynyddu 50% dros y 10 mlynedd diwethaf.

  • Llifogydd: ardaloedd sy'n achosi llifogydd difrifol ac anawsterau sy'n peri difrod i eiddo a'r rhwydwaith ffyrdd. Mae mater dwysedd glawiad wedi'i godi fel risg sylweddol oherwydd gall y dwysedd cynyddol orlwytho'r gwasanaethau sy'n gweithredu'n gywir gan arwain at lifogydd. Byddai'r buddsoddiad y byddai ei angen i gynyddu maint y rhwydwaith hanesyddol yn ddegau o filiynau o bunnoedd. Mae Abertawe wedi'i henwi fel dinas wlypaf Prydain ac felly, bydd yr effeithiau dwyseddau newidiol yn fwy eithafol na'r rheini mewn ardaloedd lle ceir glawiad is. 
    Mae rhai ardaloedd yn dueddol i gael llifogydd a all beri difrod i'r ffordd, y droedffordd a'r tir cyfagos. Pan geir llifogydd, defnyddir adnoddau i ymateb iddynt.  Mewn amgylchiadau eithafol, gall hyn gynnwys clirio tirlithriadau neu atgyweirio rhannau o'r ffyrdd a erydwyd gan lifddyfroedd a llyncdyllau. Gall y fath ddigwyddiadau, os ydynt yn digwydd, gael effaith ar y gallu i gyrraedd targedau'r cynllun hwn oni bai y sicrheir bod adnoddau (a chyllid) ychwanegol ar gael. Mae nifer y llyncdyllau sydd wedi ymddangos wedi mwy na dyblu dros y blynyddoedd diweddar. 

  • Cyflwyno'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer pob prosiect dros 100m2. Mae hyn yn cyflwyno cynnydd mewn asedau y mae angen eu cynnal a chadw'n rheolaidd a chostau cynyddol ar gyfer cynlluniau oherwydd gofynion y Ddeddf. 

2.6 Cyllideb

Mae pwysau cynyddol ar gyllidebau pob awdurdod yn y DU ac mae her sylweddol o ran penderfynu sut i reoli asedau'n effeithiol. Yr amcangyfrif presennol ar gyfer yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw priffyrdd yw mwy na £75m ar gyfer ffyrdd cerbydau'n unig (2025). Felly, wrth i gyflwr holl asedau'r cyngor ddirywio bydd mwy o alw am atgyweirio ymatebol sy'n llai cost effeithiol na chynnal a chadw ataliol neu arferol. Adroddir am y ffigur ôl-groniad yn yr Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol.

2.7 Rhaglenni gwaith cyhoeddedig

Defnyddir y strategaethau i greu rhaglenni gwaith ar gyfer y prif grwpiau o asedau.  Cynhelir rhestrau o waith posib ar gyfer pob ased ac fe'i defnyddir i lunio rhaglenni gwaith sy'n cael eu cyhoeddi drwy'r wefan gorfforaethol ac sy'n cwmpasu cyfnod o dair blynedd. Mae'r rhaglenni hyn yn seiliedig ar y gwariant isaf a ragwelir dros y cyfnod.

Byddai newidiadau sylweddol yn y lefelau ariannu hyn yn arwain at angen i ddiwygio'r safonau yn y cynllun.

2.8 Safonau

Mae'r safonau sydd wedi'u mabwysiadu ar gyfer rheoli asedau priffyrdd yn cynnwys y canlynol:

  • "Well-managed Highway Infrastructure 2016 - A Code of Practice"
  • Deddf Priffyrdd 1980
  • "Management of Highway Structures 2005 (Revised 2013) - A Code of Practice"
  • Deddf Gorllewin Morgannwg 1987
  • Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) Cyffredinol 2003
  • "Design Manual for Roads and Bridges (DMRB)" 

3. Disgwyliadau cwsmeriaid a galwadau allanol

3.1 Cysylltiadau ymgynghori â chwsmeriaid

Cofnodir cysylltiadau cwsmeriaid mewn perthynas ag asedau priffyrdd yn system rheoli priffyrdd y cyngor.  Cofnodir y galwadau hyn drwy ganolfan alwadau ganolog sy'n derbyn tua 10,000 o alwadau'r flwyddyn. Nid yw hyn yn cynnwys ceisiadau am wasanaeth a galwadau uniongyrchol i swyddogion. 

Dengys y canlyniadau fod cysylltiadau cwsmeriaid â'r cyngor yn ymwneud yn bennaf â "diffygion i'r ffordd gerbydau' (tyllau yn y ffordd yn bennaf) sy'n adlewyrchu cyflwr presennol y ffordd gerbydau a'r difrod sydd wedi'i achosi gan dywydd garw'r gaeafau a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf; a 'diffygion goleuadau stryd' yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn lampau tywyll a atgyweiriwyd o fewn yr amser ymateb a nodwyd.

Mae nifer y cysylltiadau'n amrywio gyda'r tymhorau, ac mae nifer y galwadau'n tueddu i godi yn ystod misoedd yr hydref/gaeaf pan fydd y tywydd yn achosi mwy o ddifrod i ffyrdd, a gall arwain at broblemau gyda llifogydd ac iâ.

Nodwyd cynnydd sylweddol yn nisgwyliadau'r cyhoedd, y gellir ei briodoli i'r canlynol:

  •  Mae modd cysylltu/cwyno'n haws
  • Ymwybyddiaeth gynyddol o "hawliau" ac anogaeth i hawlio
  • Mwy o graffu ar weithgarwch a'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol
  • Yr angen i fod yn fwy tryloyw
  • Ymgynghori'n fwy â rhanddeiliaid o ran bodloni eu disgwyliadau
  • Yr angen i ddarparu mwy am lai
  • Cwestiynu arferion a'r defnydd gorau
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth/Ceisiadau am wybodaeth am yr amgylchedd

4. Safonau Gwasanaeth

Gosodir safonau gwasanaeth drwy rwymedigaethau statudol, codau ymarfer, polisi'r cyngor a dogfennau canllaw priffyrdd. Eir ati i fonitro'r safonau hyn drwy reoli perfformiad a meincnodi.

Caiff safonau eu monitro yn erbyn yr hyn sy'n cael ei gyflawni blwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn erbyn eraill.

Eir ati i fesur perfformiad yn y meysydd canlynol a rhoddir adroddiadau i'r fforymau canlynol.

Rheoli perfformiad
MaesFforwm meincnodi
Priffyrdd CyffredinolDangosyddion Cenedlaethol
Cynnal a Chadw PriffyrddY Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasaneth Cyhoeddus (APSE)
Gwasanaethau Peirianyddol - Dylunio
Rheoli Traffig a Diogelwch Ffyrdd
Cludiant
Uned Ddata Cymru

Dangosir y prif safonau gwasanaeth y gall rhanddeiliaid eu disgwyl isod.

4.1 Archwiliadau diogelwch

Archwilir pob ffordd a throedffordd am risgiau yn erbyn lefelau ymchwiliadau diogelwch yn unol â chanllawiau'r côd ymarfer fel mater o drefn. Mae amlder hyn yn ddibynnol ar hierarchaeth y ffordd, a gall amrywio o archwiliadau misol ar gyfer llwybrau strategol i rai blynyddol ar gyfer strydoedd lleol neu breswyl.

4.2 Diffygion diogelwch

Mae diffygion y nodir eu bod yn peri risg ddi-oed i fywyd yn cael eu hatgyweirio o fewn 24 awr. Mae'r targed ar gyfer diffygion diogelwch eraill yn dechrau ar 21 diwrnod gan ddibynnu ar arwyddocâd y llwybr a natur y diffyg. Cofnodir yr amserau ymateb hyn yn y Polisi Archwilio Diogelwch Priffyrdd.

4.3 Atgyweiriadau ffyrdd nad ydynt yn ymwneud â diogelwch

Nid oes amserau ymateb pendant ar gyfer gwaith nad yw'n ymwneud â diogelwch neu sy'n ymwneud ag enw da. Mae'r rhain yn ddibynnol ar raglenni gwaith ac ar adnoddau a blaenoriaethau mwy brys.

4.4 Atgyweiriadau ymatebol

Yn ychwanegol at unrhyw ofyniad statudol, mae addewid wedi'i wneud mewn cysylltiad â thyllau yn y ffordd. Y targed ar gyfer atgyweirio'r holl dyllau yn y ffordd yr adroddir wrth y cyngor amdanynt yw 48 awr, ar yr amod ei bod yn ffordd a gynhelir yn gyhoeddus ac yn broblem twll yn y ffordd, nid yn broblem sy'n ymwneud â  chyflwr cyffredinol y ffordd lle mae angen ailwynebu, neu atgyweiriadau i ardaloedd mawr o'r ffordd - os yw hyn yn wir, caiff unrhyw beth peryglus ei atgyweirio. Fel arfer ymatebir i 95% o'r adroddiadau o fewn y cyfnod amser a nodwyd. Adroddir am y ffigurau hyn ar-lein.

4.5 Blaenoriaethau

Rhoddir y blaenoriaethau ar gyfer pob grŵp o asedau yn yr adrannau isod.  Mae'r strategaethau'n cynnwys rhagfynegiadau o'r math o waith sydd ei angen, a faint o waith sydd ei angen i fodloni safonau gwasanaeth.  Mae'r strategaethau'n cynnwys blaenoriaethu atgyweiriadau i asedau neu osod elfennau newydd mewn modd y bwriedir iddo fodloni'r safon am y gost tymor byr neu hir orau bosib.

5. Ased Priffyrdd - Ffyrdd Cerbydau

Mae'r strategaeth ar gyfer ffyrdd cerbydau'n cynnwys buddsoddi mewn ailwynebu a thrin arwynebau ar y cyd â pharhau i atgyweirio mân ddiffygion.

Atgyweiriadau ymatebol

Mae hyn yn cynnwys yr holl waith ymatebol a nodwyd gan archwiliadau ac adroddiadau gan drydydd partïon. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y rhan fwyaf o ddiffygion diogelwch ac atgyweiriadau brys:

  • Atgyweirio twll yn y ffordd (darn parhaol lle y bo modd)
  • Gwaith haearn/ar gyrbiau - atgyweirio/amnewid
  • Clytio
  • Chwistrelli deunydd i lenwi tyllau
  • Atgyweirio llyncdyllau. 

Caiff diffygion fel tyllau yn y ffordd a'u tebyg eu nodi gan archwiliadau neu rhoddir gwybod i'r cyngor amdanynt gan ddefnyddwyr y briffordd.  Asesir diffygion yn seiliedig ar y risg i ddefnyddwyr a blaenoriaethir eu hatgyweirio o ran diogelwch.

  • Disgwylir i atgyweiriadau statudol ac ymatebol barhau ar lefelau presennol a bydd angen buddsoddiad ac adolygiadau parhaus ar eu cyfer.

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn atgyweirio rhyw 5,000 i 6,000 o ddiffygion diogelwch a 3,000 o ddiffygion cynnal a chadw bob blwyddyn.

Atgyweiriadau cynlluniedig

Ymgymerir â'r rhain yn ôl rhaglen sy'n seiliedig ar ganlyniadau arolygon ac archwiliadau cyflwr mecanyddol a gweledol.  Disgwylir i raglen waith dair blynedd gael ei chyhoeddi yn 2025. Blaenoriaethir y gwaith ar sail risg ac yn ogystal â chyflwr, caiff ffactorau amrywiol eu hystyried gan gynnwys:

  • A yw'r cyflwr yn galw am atgyweiriadau adeileddol neu fesurau ataliol?
  • A fydd e'n dirywio, faint o'i oes sydd ar ôl?
  • A ellir ei atgyweirio i estyn ei oes cyn gorfod ei amnewid yn llawn? 
  • Sawl un yr effeithir arnynt gan y ffordd, ac a oes arwyddocâd arbennig iddo.
  • Oes angen triniaeth arbenigol arno neu oes angen iddo fod yn rhan o raglen?  

Mae'r mathau o atgyweiriadau'n cynnwys:

  • Rhaglen paratoi arwynebau flynyddol (cynnal a chadw ataliol)
  • Ailwynebu haen uchaf yr arwyneb
  • Gosod haen newydd ar ran uchaf ac isaf yr arwyneb 
  • Gorchuddio'r arwyneb presennol
  • Gosod cwrbyn newydd neu ei adnewyddu, gan gynnwys rhaglen gosod cyrbau ar eu hochrau
  • Ailseilio
  • Gosod adeiledd newydd (ailadeiladu'n llawn)
  • Ailadeiladu
  • Marcio llinellau
  • Ffensys diogelwch

Mae'r holl raglenni'n seiliedig ar y cyllid sydd ar gael a chânt eu cymharu yn erbyn cyfrifiad cyflwr sefydlog damcaniaethol (faint sydd ei angen i stopio'r rhwydwaith rhag dirywio).

Gofynion y gyllideb

  • Bydd y gyllideb sy'n angenrheidiol i gynnal y ffordd gerbydau mewn cyflwr sefydlog yn cael ei hasesu bob blwyddyn yn yr Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol.
  • Y ffigur ar gyfer 2025 yn fras yw £5m.
    • Mae cyfrifiadau'n tybio rhaniad o 60% ataliol a 40% ymatebol ar gyfer yr effeithlonrwydd mwyaf.
  • Yn 2025, y ffigur ôl-groniad ar gyfer gwaith cynnal a chadw yw £75m yn fras.
    • Sylwer y bydd y ffigur hwn yn cynyddu gyda chwyddiant a chostau deunyddiau sydd wedi codi'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar oherwydd cyfyngiadau ar y cyflenwad o gynnyrch bitwmen. 

Bydd yr adroddiad blynyddol hefyd yn mapio'r lefelau ariannu amrywiol yn erbyn cyflwr rhagweledig y ffordd gerbydau gan ddefnyddio model ystadegol a ddefnyddir ar draws Cymru.

Gall gofynion y gyllideb gynyddu gydag angen cynyddol am ddeunyddiau/brosesau sy'n cynnwys llai o garbon.

6. Ased Priffyrdd - Troedffyrdd

Mae'r strategaeth ar gyfer troedffyrdd yn cynnwys buddsoddiad parhaus mewn ailwynebu wedi'i gyfuno â mesurau ataliol, gan barhau i atgyweirio mân ddiffygion.

Atgyweiriadau ymatebol

Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o atgyweiriadau diogelwch a gwaith brys er enghraifft:

  • Atgyweiriadau bitwmen
  • Atgyweirio slabiau/palmentydd
  • Atgyweirio cerrig naturiol

Asesir diffygion yn seiliedig ar y risg i ddefnyddwyr a blaenoriaethir y gwaith o'u hatgyweirio'n unol â pholisi a llawlyfr cynnal a chadw'r cyngor.

  • Disgwylir i atgyweiriadau statudol ac ymatebol barhau ar lefelau presennol a bydd angen buddsoddiad ac adolygiadau parhaus ar eu cyfer.

Atgyweiriadau cynlluniedig

Gwneir y rhain gan ddilyn rhaglen yn seiliedig ar farn beirianyddol ac archwiliadau gweledol. Disgwylir i raglen waith dair blynedd gael ei chyhoeddi yn 2025.

Mae atgyweiriadau'n cynnwys:

  • Seilio rhag slwtsh (cynnal a chadw ataliol)
  • Ailwynebu haen uchaf yr arwyneb
  • Ailadeiladu'r droedffordd
  • Ailbalmantu

Gofynion y gyllideb

  • Bydd y gyllideb sydd ei hangen i gynnal y droedffordd mewn cyflwr sefydlog yn cael ei hasesu bob blwyddyn yn yr Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol.
  • Yn 2025, amcangyfrifir y bydd angen £700,000. 
    • Mae'r ffigur yn amcangyfrif sy'n seiliedig ar brofiad yn hytrach na'n ofyniad wedi'i gyfrifo.  
    • Nid oes ffigur ôl-groniad wedi'i gyfrifo ar gyfer gwaith ar droedffyrdd.
    • Mae'r wybodaeth am y cyflwr presennol yn dangos bod yr ardaloedd o lwybrau troed fflagiog sydd ar ôl mewn cyflwr da yn gyffredinol a dim ond ychydig bach o waith atgyweirio sydd ei angen.

7. Ased Priffyrdd - Goleuadau Stryd

Mae'r strategaeth ar gyfer goleuadau stryd yn cynnwys amnewid colofnau goleuo y mae eu hamser wedi dod i ben, gosod llusernau newydd a gosod rhwydwaith o geblau tanddaearol newydd yn lle'r hen un. Nod y strategaeth cynnal a chadw yw sicrhau bod yr holl oleuadau stryd yn gweithio 99% o'r amser a bod pob colofn mewn cyflwr diogel.

Mae'r cyngor wedi ymrwymo i Gynllun Lleihau Ynni ac mae wrthi'n gosod unedau LED ynni isel yn yr holl lusernau ynghyd â llusernau SON y gellir eu pylu. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o 43% yn y defnydd o ynni blynyddol, a disgwylir iddo arwain at ostyngiad o 60% yn nifer y diffygion mewn llusernau. Mae'r rhaglen hon bron â dod i ben.

Cynnal a chadw colofnau goleuo

Mae hyn yn cynnwys yr holl waith ymatebol a nodwyd gan brofion adeileddol, archwiliadau ac adroddiadau gan drydydd partïon. Mae'n cynnwys y canlynol:

  • Mae'r rhaglen profion adeileddol colofnau goleuo yn ein galluogi i nodi colofnau sydd mewn cyflwr gwael a gosod rhai newydd yn eu lle cyn iddynt fethu.
  • Bydd colofnau newydd yn cael eu gosod fel blaenoriaeth yn lle'r rheini y nodwyd bod angen eu hailbrofi mewn 2 flynedd neu cânt eu torri i lawr, gan ddibynnu ar y gyllideb. Yn ddelfrydol, byddai'r colofnau i'w hailbrofi bob tair blynedd yn cael eu hamnewid neu byddant yn cael eu torri i lawr, gan ddibynnu ar y gyllideb.
  • Bydd colofnau y nodwyd bod angen eu hailbrofi bob 6 blynedd yn cael eu hailbrofi, a bydd y canlyniadau'n pennu'r camau gweithredu.

Disgwylir i raglen waith dair blynedd gael ei chyhoeddi yn 2025. Blaenoriaethir atgyweiriadau o ran diogelwch goleuadau a lleoliad y rhwydwaith yn unol â'r argymhellion a geir yn y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.

Mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn atgyweirio tua 350 i 400 colofn y flwyddyn ac oddeutu 5,000 i 6,000 o lusernau.

Cynnal a chadw ceblau

Mae gan yr awdurdod rwydwaith ceblau preifat mawr ac mae atgyweiriadau ar hyn o bryd ar sail ad hoc ac nid oes rhaglen ffurfiol i'w hamnewid. Mae hyn yn fater y bydd angen mynd i'r afael ag ef dros amser.

Gofynion y gyllideb

  • Bydd y gyllideb sydd ei hangen i gynnal yr ased goleuo'n cael ei hasesu bob blwyddyn yn yr Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol. 
  • Yn 2024 y ffigur ar gyfer cyllid craidd oedd £1,196,000
  • Yn 2024 y ffigur ar gyfer cyllid ynni oedd £2,035,400
    Y gost fesul uned ynni yw £37.05
  • Yn 2025 mae angen amnewid 231 o golofnau goleuo
  • Yn 2025 amcangyfrifir bod angen uwchraddio tua 57,155m o geblau.  

Mae ffactorau sy'n effeithio ar ofyniad y gyllideb yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Gosod goleuadau LED newydd, mae goleuadau LED cynnar yn agosáu at ddiwedd eu hoes, ac mae rhaglen gosod bylbiau newydd a chostau cyflwr sefydlog yn cael ei datblygu.
  • Mae'r defnydd o ynni a chost yn is yn dilyn gosod bylbiau LED newydd, fodd bynnag mae prisiau unedau wedi cynyddu'n sylweddol gan olygu bod yr angen i leihau traul yn fwy pwysig.
  • Mae costau cynnal a chadw'n dal yn sylweddol oherwydd rhwydwaith ceblau sy'n heneiddio, y mae'r rhan fwyaf ohono'n eiddo i'r awdurdod yn hytrach na Gweithredwr y Rhwydwaith Dosbarthu.
  • Cynhelir profion adeileddol i nodi colofnau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes y mae angen eu hamnewid. 
  • Nid oes rhaglen gosod ceblau newydd ar waith ar hyn o bryd gan eu bod yn cael eu hamnewid ar sail ad hoc wrth atgyweirio diffygion/newid colofnau. 

8. Ased Priffyrdd - Adeileddau

Mae'r strategaeth rheoli asedau ar gyfer adeileddau'r briffordd yn cynnwys ailwampio adeileddau sydd mewn cyflwr gwael neu wael iawn, wedi'i gyfuno â threfn o gynnal a chadw arferol y bwriedir iddi atal adeileddau eraill rhag dirywio i gyflwr gwael.

Mae rhwymedigaeth statudol ar yr awdurdod i gynnal y briffordd gyhoeddus o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae'r rhwymedigaeth yn croesawu dwy swyddogaeth hanfodol:

  • Mae "Diogel i'w defnyddio" yn gofyn am reoli adeiledd priffordd mewn ffordd nad yw'n peri risg annerbyniol i ddiogelwch y cyhoedd.
  • Mae "Addas i'r diben" yn gofyn bod adeiledd priffordd yn cael ei reoli mewn ffordd sy'n golygu ei fod yn parhau i fod ar gael i'w ddefnyddio gan draffig a ganiateir ar gyfer y llwybr hwnnw.

Bydd cyflwr adeileddau'r briffordd yn cael ei fonitro ac adroddir wrth APSE amdano bob blwyddyn.

Cynnal a chadw cyfalaf

  • Yn 2025, mae:
    • 9 adeiledd y mae angen eu cryfhau,
    • 9 adeiledd mewn cyflwr gwael iawn y mae angen gwath ailwampio sylweddol arnynt,
    • 35 adeiledd mewn cyflwr gwael y mae angen eu hailwampio.

Disgwylir i raglen waith dair blynedd gael ei chyhoeddi yn 2025. Caiff gwaith ar yr adeileddau a nodwyd uchod ei wneud ar sail blaenoriaeth fel a nodir isod:

  • Adeileddau â gwerthoedd Dangosydd Cyflwr Pont isel
  • Adeileddau â diffygion sy'n ymwneud â diogelwch
  • Adeileddau â diffygion sy'n debygol o arwain at broblem fwy difrifol os nad eir i'r afael â'r diffygion. Er enghraifft, systemau diddosi sydd wedi methu a fydd yn caniatáu i ddŵr fynd i mewn i ddeciau, gan arwain at gyrydu'r deunydd atgyfnerthu
  • Hierarchaeth ffyrdd

Atgyweirio arferol ac ymatebol

Gyda'r strategaeth hon mae angen defnyddio gangiau gwaith/asiantaethau eraill i wneud atgyweiriadau ymatebol ac ymateb ar frys i sicrhau bod asedau'n ddiogel ynghyd â gwaith cynnal a chadw cylchol arferol. Rhestrir enghreifftiau o atgyweiriadau arferol/ymatebol isod:

  • Cynnal a chadw arferol/cylchol
    Cael gwared ar lystyfiant, ailbwyntio gwaith brics ac ailbeintio gwaith metel
  • Rheoli adeileddau sydd dan y safon
    Rhoi cyfyngiadau pwysau ar waith yn lle cryfhau
  • Cynnal a chadw ymatebol
    Gwaith brys a chynnal a chadw hanfodol nad ydyw wedi'i raglennu

Gofynion y gyllideb

  • Adroddir yn flynyddol am y gyllideb sydd ei hangen i gynnal pontydd ac adeileddau a'r pwysau ar y gyllideb yn yr Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol
  • Yn 2025, mae £600,000 o gyllid craidd yn fras (£200,000 Refeniw a £400,000 Cyfalaf)

Amcangyfrifir bod ôl-groniad o £11.2m yn 2025 ar gyfer pontydd priffyrdd.

9. Ased Priffyrdd - Goleuadau Traffig

Y strategaeth ar gyfer goleuadau traffig yw gwneud yr atgyweiriadau ymatebol ac arferol y mae eu hangen i sicrhau bod goleuadau'n parhau i weithredu'n effeithlon a'u hamnewid pan fyddant yn ddarfodedig neu'n annibynadwy.

Cynnal a chadw goleuadau traffig

Mae hyn yn cynnwys yr holl waith ymatebol a nodwyd gan brofion adeileddol, archwiliadau ac adroddiadau gan drydydd partïon. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Nod y strategaeth cynnal a chadw goleuadau traffig yw sicrhau bod yr holl oleuadau traffig yn gweithredu 99% o'r amser, a bod yr holl gyfarpar yn aros mewn cyflwr diogel.
  • Rhoddir goleuadau newydd dim ond os yw'r hen rai'n ddarfodedig oherwydd bod eu hoes wedi dod i ben neu oherwydd difrod allanol, neu lle mae diffygion yn digwydd dro ar ôl tro mewn safleoedd sy'n achosi effaith ddiangen ar y cyhoedd sy'n teithio.

Rhaglen waith

Mae cyllid presennol yn caniatáu ar gyfer ailwampio 1 gyffordd a 2 groesfan y flwyddyn yn fras.

Gofynion y gyllideb

Adroddir yn flynyddol am ofynion y gyllideb i gynnal pontydd ac adeileddau a phwysau cyllidebol yn yr Adroddiad Statws ac Opsiynau Blynyddol. Mae tua £25,000 o gyllid craidd ar gael yn 2025.

  • Cynhelir lefel o fuddsoddiad ar lefelau tebyg ar gyfer gwaith cynnal a chadw arferol ac ymatebol yn unig.

10. Strategaethau buddsoddi mewn asedau

Mae prosiect rheoli asedau Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru wedi darparu offer sy'n caniatáu i gyflwr ffyrdd cerbydau'r briffordd gael ei ragfynegi'n ystadegol dros gyfnod o 20 mlynedd. Bob blwyddyn mae'r adroddiad blynyddol yn cyflwyno o leiaf ddau opsiwn ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol. Bydd y model cyntaf yn seiliedig ar gyllid disgwyliedig presennol a diben yr ail fydd dangos cyllid cyflwr sefydlog. Mae defnyddio rhagfynegiadau tymor hir yn golygu y gellir penderfynu ar lefelau cyllid gan roi ystyriaeth briodol i'r dyledion sy'n cael eu creu o ran cyllid cynnal a chadw yn y dyfodol. Caiff strategaethau buddsoddi ar gyfer y mathau pwysicaf o asedau eu crynhoi isod.

11. Risgiau i'r cynllun

Dyma'r risgiau a allai atal y cyngor rhag bodloni'r safonau a nodir yn y cynllun hwn:

Tywydd eithafol

Mae posibilrwydd y bydd nifer cynyddol o ddigwyddiadau tywydd gwael yn creu mwy o alw a mwy o ddirywiad.

Llifogydd

Mae tebygolrwydd y bydd nifer cynyddol o ddigwyddiadau tywydd gwael yn galw uwch oherwydd llifogydd a mwy o angen am gynnal a chadw asedau draenio a mwy o ddirywiad.

Cyllidebau

Mae'r cynllun yn tybio y bydd cyllideb cymharol sefydlog. Os bydd y lefelau hyn yn lleihau yna bydd mwy o ddirywiad a chynnydd yn nifer y diffygion diogelwch ac enw da.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella

Roedd y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd blaenorol yn cynnwys adran a oedd yn ymwneud â gwelliant parhaus ac roedd yr adran yn amlinellu'r gwelliannau a nodwyd ar gyfer y dyfodol.

Mae rheoli asedau priffyrdd yn ymarfer a ddylai arwain at newidiadau ar lefel weithredol a fydd yn eu tro'n arwain at welliannau i'r gwasanaeth priffyrdd a ddarperir i'r cwsmer.

Roedd y rhestr wella flaenorol yn cynnwys nodau tymor byr a thymor hir y gellid eu monitro a'u mesur. Mae hon yn broses barhaus, a bydd y camau gweithredu'n cael eu cofnodi yn y Cynllun Gwella Priffyrdd sy'n cael ei ddatblygu yn 2025.

12. Crynodeb

Mae'r dewisiadau gwario a wynebir gan bob awdurdod lleol ar draws y DU yn rhai anodd. Rhaid mabwysiadu egwyddorion rheoli asedau i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau prin er mwyn cael y budd pennaf.

  • Mae rhaglenni gwaith datblygedig, gan ddefnyddio cynnal a chadw ataliol, yn angenrheidiol.
  • Bydd cyllido sy'n is na lefelau cyflwr sefydlog yn arwain at ddirywiad i'r ased a chostau chynnal a chadw refeniw uwch.
  • Mae angen Adroddiadau Statws Blynyddol i fonitro prif asedau.  

Atodiad 1 - Crynodeb o'r Ddogfen Gysylltiedig

Llawlyfr Cynnal Ffyrdd

Mae'r llawlyfr yn cofnodi sut mae Cyngor Abertawe'n rheoli ac yn cynnal asedau ffyrdd y cyngor. Darperir adrannau ar wahân ar gyfer ffyrdd cerbydau, troedffyrdd, goleuadau stryd, adeileddau a systemau rheoli traffig. Mae'r grwpio'r cyd-fynd â'r rheini sy'n ofynnol ar gyfer adrodd ariannol dan Gôd Isadeiledd Trafnidiaeth CIPFA. Disgwylir i'r llawlyfr hwn gael ei ddefnyddio fel cyfeirnod gan y rheini sy'n gyfrifol am reoli'r ased ffyrdd.  

Blaenraglen waith

Datblygodd Cyngor Abertawe raglen bum mlynedd 15 mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn offeryn effeithiol. Mae'n cwmpasu gwaith ar ffyrdd cerbydau, troedffyrdd, systemau draenio, pontydd, ceuffosydd, waliau cynnal a goleuadau cyhoeddus. O 2025, caiff ei leihau i raglen tair blynedd fel y gellir ymateb yn well i gyflyrau sy'n gwaethygu.

Adroddiad Statws Opsiynau Blynyddol

Mae'r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o asedau'r cyngor bob blwyddyn. Mae'n dangos:

  • Cyflwr presennol yr ased
  • Y gwasanaeth y mae'r ased a'r cyllidebau cyfredol yn gallu'i gynnig
  • Mae'n cyflwyno'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol a'r cyllidebau sy'n ofynnol
  • Yr allbwn a ddarperir. 

Datganiad Polisi Rheoli Asedau

Y Datganiad Polisi Rheoli Asedau Priffyrdd yw'r ddogfen ffurfiol sy'n awdurdodi'r broses rheoli asedau priffyrdd ac yn rhoi pwerau dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaeth wneud penderfyniadau o ran cynnal a chadw.

Adroddiad Gwerthuso Asedau

Mae'r Adroddiad Gwerthuso Asedau yn cyflwyno prisiad cost amnewid ddibrisiedig ar gyfer asedau ffyrdd y cyngor ar gyfer y flwyddyn y caiff ei lunio.  Mae'n darparu dealltwriaeth o'r broses, y tybiaethau a chyfyngiadau'r data a ddefnyddiwyd a bydd yn galluogi'r cyngor i gynllunio gwelliannau i ddata a systemau a fydd yn gwneud prisiadau'r dyfodol yn fwy cywir.

Datganiadau Dangosyddion Perfformiad

Er mwyn rheoli ein perfformiad, gallwn nodi ardaloedd lle mae angen rhoi camau gweithredu ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r meysydd hynny y nodwyd eu bod yn wael. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'r mesurau perfformiad sydd ar waith.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella

Cynlluniau bwriad blaenorol sy'n cynnwys camau gweithredu ar gyfer gwella sy'n cael eu rhestru a'u monitro'n unol â hyn.

Cynllun Rheoli Data

Mae'r Cynllun Rheoli Data'n cofnodi'r data a gedwir am bob un o grwpiau asedau'r awdurdod sy'n rhan o'r ased priffyrdd. Mae'n manylu ar ble caiff data ei storio a'r systemau a ddefnyddir ar gyfer storio data. Mae hefyd yn nodi sut a phryd y caiff y data hwn ei ddiweddaru, ei wirio a'i ddilysu.  Lle ceir diffygion data neu ddiffygion yn y system, cydnabyddir y rhain a chynhwysir cynllun ar gyfer sut a phryd y caiff gwelliannau eu gwneud i'r data neu'r systemau.

Cynllun/Polisi Gwasanaeth y Gaeaf

Cynllun gweithredol yw hwn a gaiff ei lunio bob blwyddyn. Mae'n manylu ar rolau, cyfrifoldebau a phrosesau sydd ynghlwm wrth reoli Gwasanaeth y Gaeaf.

  • Canllawiau ar drin llwybrau/gwasgaru halen ar lwybrau 

Polisi Archwiliadau Diogelwch

Mae hwn yn nodi sut mae'r cyngor yn cydymffurfio â'i ddyletswydd i gynnal ei briffyrdd fel a amlinellir yn Adran 41 Deddf Priffyrdd 1980. Ei brif nod yw darparu manylion yr hierarchaeth diogelwch ffyrdd, pa mor aml y cânt eu harchwilio, dulliau archwilio, diffiniadau o ddiffygion diogelwch ac amserau ymateb.

Polisi Gwrthsefyll Sgidio ar y Briffordd

Mae'r ddogfen hon yn nodi ymagwedd Cyngor Abertawe at fonitro sut mae ffyrdd cerbydau'n gwrthsefyll sgidio i sicrhau cynnal a chadw a dargedir effeithiol mewn safleoedd y penderfynwyd eu bod ar neu islaw lefelau ymchwilio yn dilyn archwiliad safle.

Polisi Asesu Priffyrdd

Ei nod yw dangos yr asesiadau a argymhellir ar gyfer cyflwr y briffordd a sut y ceir y rhain  Mae'n manylu'n gryno ar yr hyn a wneir â'r data o ran ei berthynas â rheoli asedau a chreu rhaglen gwaith cynnal a chadw.

Trwyddedu Priffyrdd

Ceir arweiniad mewn dogfen strydlun yn y Gwasanaethau Gweithio mewn Cymdogaethau fel y gellir cyflwyno ystod eang o wasanaethau i ddarparu amgylchedd glân a diogel ar gyfer cymunedau Abertawe.

Mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod mesurau gorfodi a thrwyddedu'n cael eu defnyddio'n briodol i reoli amgylchedd y briffordd.

Nodyn cyfarwyddyd am ffyrdd heb eu mabwysiadu

Bwriedir i'r nodyn briffio diweddaraf egluro sefyllfa'r cyngor o ran y ffyrdd hynny y'u hystyrir yn breifat ac nad ydynt wedi'u mabwysiadu.  Mae'n argymell opsiynau ar gynnal a chadw cyffredinol a chynnal a chadw goleuadau i'r Cabinet eu cymeradwyo. Mae hefyd yn darparu cadarnhad nad oes gan yr awdurdod gyfrifoldeb i gynnal unrhyw ffordd nad yw wedi'i mabwysiadu oni bai ei fod yn berchen ar dir sy'n wynebu'r briffordd nad yw wedi'i mabwysiadu, ac yna, drwy ddiffyg dewis arall, yn ysgwyddo cyfrifoldeb amdani oherwydd rheolau tiroedd blaen mewn modd tebyg i unrhyw dir blaen arall.

Polisi Palmentydd i Bobl

Diben y polisi yw pennu safonau cyffredinol i sicrhau bod holl ddefnyddwyr palmentydd yn gallu eu defnyddio'n ddiogel (lle y bo'n ymarferol) yn ogystal â darparu fframwaith o egwyddorion, arfer gorau a safonau a fydd yn llywio'r ffordd y caiff palmentydd eu dylunio, eu rheoli a'u cynnal a chadw.

Nod y polisi hwn yw:

  • Annog pobl i adael eu ceir gartref a cherdded gan fynd i'r afael yn arbennig â'r broblem a geir ger ysgolion
  • Rhoi'r un mynediad i bobl anabl â'r hyn sydd gan bobl nad ydynt yn anabl.
  • Gwella diwydiant twristiaeth ac adfywiad Abertawe.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mawrth 2025