Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethu, atgyweiriadau a chynnal a chadw cynlluniedig ar gyfer tai cyngor

Rydym yn ymgymryd ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar dai cyngor, gan gynnwys gwasanaethu nwy.

Bob blwyddyn

  • gwasanaethu nwy
  • gwasanaethu pob system gwres canolog ddomestig
  • gwasanaethu lifftiau cymunedol yn llawn

Tymor hwy

  • bob 5 mlynedd - profi pob gosodiad trydanol domestig
  • bob 12 mlynedd - addurno'r tu allan i bob cartref a'r ardaloedd cymunedol mewnol

 

Gwasanaethu nwy

Fel landlord, mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i ymgymryd â gwasanaethu nwy blynyddol yn eich eiddo.

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae'n hynod bwysig i chi, am ei fod yn sicrhau bod gwresogi yn eich cartref yn ddiogel i chi, i'ch teulu, i'ch ymwelwyr ac i'ch cymdogion.

Fel tenant y cyngor mae'n rhaid i chi ganiatáu mynediad er mwyn i'r profion hanfodol cael eu cynnal.

Caiff pob tenant gerdyn apwyntiad drwy'r post o leiaf 2 wythnos cyn cynnal y gwasanaeth. Bydd yn rhoi gwybod i chi am y dyddiad a'r amser (rhwng 9.00am a 4.00pm) y gwasanaeth.

Os nad yw'r dyddiad neu'r amser yn gyfleus neu rydych wedi colli apwyntiad ar gyfer eich gwasanaeth nwy, ffoniwch yr Is-adran Gwresogi ar 01792 511011 i aildrefnu. Gellir trefnu apwyntiadau  ar gyfer y bore neu'r prynhawn ond mae'n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd.

Sicrhewch fod credyd ar y mesurydd a bod y tân nwy wedi'i ddiffodd cyn i'r gwasanaethu nwy gael ei gynnal.

Pryd bynnag y bydd rhywun yn ymweld, dylech bob amser wirio'i gerdyn adnabod. Bydd gan HOLL weithwyr y cyngor gerdyn adnabod a llun arno y gallwch ofyn i'w weld. Os oes gennych unrhyw amheuon, ffoniwch eich swyddfa dai ardal i wirio.

Os nad ydych chi'n caniatáu i ni ddod i mewn

Er bod y mwyafrif o denantiaid yn cydymffurfio â'n ceisiadau am fynediad, mae rhai yn methu ymateb hyd yn oed ar ôl i ni wneud sawl cais i gysylltu â nhw. 

Am fod gwasanaethu eich offer nwy yn ofyniad cyfreithiol, byddwn yn cyflwyno rhybuddion cyfreithiol i denantiaid nad ydynt yn cydymffurfio ar ôl i ni wneud 3 cais i gael mynediad. Os ydych yn parhau i wrthod mynediad o fewn 21 diwrnod i'r gofyniad gael ei gyflwyno, byddwn yn gwneud cais i Lys yr Ynadon am warant i gael mynediad (dan orfodaeth os bydd angen) i'ch cartref i gynnal y gwasanaeth. Gellir codi tâl arnoch am gost hyn. Nid yw'r cam hwn yn ddelfrydol ond mae'n hanfodol bwysig ar gyfer diogelwch pob tenant, ei gymdogion a'n heiddo ni.

Os oes eisiau unrhyw gyngor arnoch neu unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â'r Is-adran Gwresogi ar 01792 511011 neu e-bostiwch CanolfanAlwadau.AtgyweirioTai@abertawe.gov.uk

 

Cynnal a chadw cynlluniedig

Atgyweiriadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw gan yr Adran Tai yw rhaglenni cynnal a chadw cynlluniedig, drwy ddefnyddio'r dyraniad blynyddol o adnoddau. Mae'r rhaglenni cynnal a chadw cynlluniedig yn cynnwys gosod ffenestri a drysau allanol uPVC newydd, a gosod systemau gwres canolog, ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern.

 

Gwaith sylweddol

Gwaith sylweddol yw cynllun lle defnyddir sawl elfen pwysig o waith adeiladu i adnewyddu eiddo/adeilad. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar gyfer cytundeb gwaith sylweddol.

Dogfen rwymol yw cytundeb gwaith sylweddol sydd â'r nod o roi llais i denantiaid y mae gwaith sylweddol wedi effeithio arnynt. Ar gynlluniau lle bydd tenantiaid yn byw yn eu cartrefi eu hunain yn ystod y gwaith, gallent gael eu cynrychioli, ar gais, gan Grŵp Cynghori ar Adeiladu (GCA). Bydd y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol y gwaith.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Chwefror 2023