Cystadleuaeth arddio i denantiaid a lesddeiliaid
Cystadleuaeth arddio flynyddol i denantiaid a lesddeiliaid y cyngor gael arddangos eu mannau awyr agored lliwgar ac ennill gwobrau.
Eleni, rydym yn parhau gyda'r gystadleuaeth ffotograffiaeth ac mae digonedd o gategorïau i chi gystadlu ynddynt.
Er ein bod bob amser yn hapus i dderbyn ceisiadau gan ein garddwyr mwy profiadol, nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr i gystadlu. Os ydych wedi sylweddoli'n ddiweddar eich bod yn caru garddio neu os ydych wedi gwneud rhai gwelliannau i'ch gardd ac yr hoffech eu dangos, yna dyma'r gystadleuaeth i chi... Yr hyn rydym ni wir eisiau ei weld yw sut rydych chi'n gwneud yr ymdrech i wella'ch amgylchedd a'ch lle yn yr awyr agored. Does dim rhaid iddi fod yn berffaith!
Gallwch anfon cyn lleied neu gynifer o ffotograffau ag y dymunwch ond gwnewch yn siŵr eich bod yn adlewyrchu faint o waith caled ac ymdrech rydych wedi'i wneud. Ceisiwch ddangos eich gardd ar ei gorau.
Mae'r gystadleuaeth ar agor i holl denantiaid a lesddeiliaid Abertawe, felly p'un a ydych wedi cymryd rhan yn y gorffennol neu'n newydd i'r gystadleuaeth, beth am roi cynnig arni? Efallai y byddwch yn ennill gwobr ariannol hyd yn oed!
Dyma'r categorïau ar gyfer y gystadleuaeth:
- Yr ardd orau (rhoddir gwobr ar gyfer y safle 1af, yr 2il a'r 3ydd safle)
- Yr ardd gymunedol neu gyfadeilad lloches gorau
- Y defnydd gorau o le bach (e.e. gardd gynhwysyddion, basgedi etc.)
- Yr ardd ffordd o fyw orau
- Yr ardd fwytadwy orau
- Yr ardd blodau gwyllt orau
- Y garddwr newydd gorau
- Y blodyn haul gorau
- Yr ardd eco orau (deunyddiau wedi'u hailgylchu, planhigion ecogyfeillgar etc.)
- Yr ardd a drawsnewidiwyd orau
Mae'r categori yr ardd a drawsnewidiwyd orau yn gategori delfrydol i gymryd rhan ynddo os ydych wedi bod yn gweithio'n galed i geisio gwella eich lle yn yr awyr agored. I fod yn gymwys i gymryd rhan, mae'n RHAID i chi anfon llun o'ch gardd atom pan ddechreuoch chi ar y gwaith a llun ohoni fel y mae nawr. Nid oes rhaid i'r trawsnewidiad fod wedi'i gwblhau - gall fod yn waith sydd ar y gweill ond mae angen i ni allu gweld y gwahaniaeth rydych chi wedi'i wneud i'r ardd.
Sut i gyflwyno cais
Neu e-bostio ffotograff o'ch gardd i tai@abertawe.gov.uk
Dylech gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad, y categori rydych yn cymryd rhan ynddo a'ch rhif ffôn.
Fel arall, gallwch bostio'ch ffotograff i: Cystadleuaeth Arddio i Denantiaid a Lesddeiliaid, Cyngor Abertawe, Gwasanaethau Tai, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE.
Os na allwch dynnu llun o'ch gardd, e-bostiwch ni neu rhowch wybod i'ch swyddog tai a byddwn yn trefnu i rywun ymweld â'ch gardd i dynnu llun ar eich rhan.
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw dydd Gwener 30 Awst 2024.
Edrychwn ymlaen at weld eich gerddi!
Amodau a thelerau
- Mae'r gystadleuaeth yn agored i denantiaid a lesddeiliaid Cyngor Abertawe'n unig.
- Dylai pob ffotograff a dynnir fod yn ddiweddar (o fewn y 6 mis diwethaf) ac yn adlewyrchiad cywir o'ch gardd.
- Dyfernir safle 1af, 2il a 3ydd safle i enillwyr categori'r Ardd Orau. Gall hyn gynnwys naill ai gardd flaen neu ardd gefn.
- Gall ceisiadau ar gyfer Yr Ardd Fwytadwy fod mewn cynwysyddion neu fel rhan o ardd (dan do neu yn yr awyr agored).
- Mae'n rhaid i 'Ardd Ffordd o Fyw' ddangos ôl gofal da ond efallai na fydd yn cael ei hystyried yn ardd 'draddodiadol' neu 'ffurfiol' ag amrywiaeth mawr o flodau a phlanhigion. Mae angen i'r ardd wneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar gael i fod yn addas ar gyfer ffordd o fyw'r teulu.
- Mae categori 'Y defnydd gorau o le bach' yn cyfeirio at ardal na ellir ei hystyried yn ardd, h.y. balconi neu le bach y tu allan i fflat.
- Does dim rhaid i chi fod yn denant newydd neu'n lesddeiliad i gymryd rhan yn y categori 'Garddwr Newydd Gorau' ond mae'n rhaid eich bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf.
- Ar gyfer yr 'Ardd a Drawsnewidiwyd Orau', hoffem weld sut roedd eich gardd yn edrych o'r blaen a beth rydych wedi'i wneud i'w thrawsnewid. Does dim rhaid bod yr ardd sydd wedi'i hen sefydlu neu wedi'i gorffen - mae gennym ddiddordeb mewn gweld y gwaith rydych chi wedi'i wneud. Bydd angen i chi ddarparu lluniau 'cyn' ac 'ar ôl'.
- Gallwch anfon cynifer o luniau ag y mynnwch, fodd bynnag caiff y gystadleuaeth ei barnu yn ôl eich sgiliau garddio, nid eich sgiliau tynnu llun.
- Dylai'r lluniau ddangos lluniau o'ch gardd yn unig ac ni ddylent ddangos gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch cyfeiriad neu ddangos pwy ydych chi neu aelodau o'ch teulu.
- Os na allwch gyflwyno llun eich hun, gallwch ofyn i berson arall wneud hynny ar eich rhan. Mae'n rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r llun ddarparu manylion y person sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
- Nodwch yn glir y categori rydych yn cymryd rhan ynddo. Gallwch gymryd rhan mewn mwy nag un os dymunwch.
- Ni allwn ddychwelyd unrhyw luniau a dderbyniwn drwy'r post.
- Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac anfon eich lluniau atom, rydych yn rhoi eich caniatâd i ni ddefnyddio'r llun ar ein gwefan, ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol. Byddwn yn cadw'r llun am gyfnod o 2 flynedd ar ôl i'r gystadleuaeth gau.
- Caiff pob cynnig ei wirio a'i ddilysu pan fydd y gystadleuaeth yn cau.