Cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol
Er mwyn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am y tro cyntaf bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gysylltu ag un o'r timau a rhestrir isod.
Manylion cyswllt ar gyfer oriau gwaith
Mae'r manylion cyswllt hyn ar gyfer oriau gwaith rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30am a 4.30pm ar ddydd Gwener.
Ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Gall teuluoedd sy'n byw yn Abertawe gysylltu â'r Pwynt Cysylltu Unigol eu hunain er mwyn gofyn am gymorth neu gyngor. E-bostiwch singlepointofcontact@abertawe.gov.uk neu ewch i dudalen Un pwynt cyswllt (UPC).
Os yw'ch achos yn agored i weithiwr cymdeithasol, ffoniwch 01792 635180
Mewn argyfwng lle gall oedolyn neu blentyn fod mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999.
Ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion
Dewiswch un o'r manylion cyswllt mwyaf addas isod:
I gael Cyngor a Gwybodaeth, Cymorth Cynnar a Chefnogaeth Synhwyraidd, ffoniwch 01792 635519 neu ewch i'r dudalen Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).
Os ydych yn aros am asesiad ac nid oes gennych Gynllun Gofal a Chymorth gweithredol neu os ydych yn ofalwr heb Gynllun Cymorth i Ofalwyr gweithredol, ffoniwch Dîm Asesu'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar 01792 636316.
Os oes gennych ymarferydd/weithiwr cymdeithasol sy'n gweithio gyda chi ar hyn o bryd, rydych yn derbyn gwasanaeth ac mae gennych gynllun gofal a chymorth ar waith, neu rydych yn ofalwr â Chynllun Cymorth i Ofalwyr, ffoniwch:
Dîm Gwaith Cymdeithasol Cymunedau'r Dwyrain - 01792 637494
Tîm Gwaith Cymdeithasol Cymunedau'r Gorllewin - 01792 637494
Gwiriwch a yw eich gweithiwr a enwir hefyd wedi darparu rhif ffôn symudol i chi ei ffonio'n uniongyrchol.
Os nad oes gennych ymarferydd/weithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda chi ar hyn o bryd, ond mae gennych wasanaeth wedi'i gomisiynu, Cynllun Gofal a Chymorth ar waith, neu mae gan y gofalwr Gynllun Cymorth i Ofalwyr gweithredol, cysylltwch â'r Tîm Adolygu ac Ailasesu drwy e-bostio reviewandreassessmentteam@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 637494.
Os oes angen i chi gysylltu â'r Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol ac mae gennych Gynllun Gofal a Chymorth gweithredol, Cynllun Gofal a Thriniaeth, neu rydych yn ofalwr sydd â Chynllun Cymorth i Ofalwyr gweithredol, e-bostiwch y Tîm Anabledd Dysgu yn CLDTDutyDesk@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 614100. Gweler Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol.
Os oes angen i chi gysylltu â'r Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol ond nid oes gennych Gynllun Gofal a Chymorth gweithredol, Cynllun Gofal a Thriniaeth, neu rydych yn ofalwr heb Gynllun Cymorth i Ofalwyr, ffoniwch y Pwynt Mynediad Cyffredin ar 01792 635519 neu ewch i'r 01792 635519 neu ewch i'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).
Mewn argyfwng lle gall oedolyn neu blentyn fod mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999.
Gwybodaeth gyswllt gyffredinol
Os nad ydych yn siŵr o ran pwy i gysylltu â nhw, gallwch gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC) ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion neu Un pwynt cyswllt (UPC) ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a byddant yn eich cyfeirio.
Ar adegau prysur, efallai bydd angen i chi aros mewn ciw.
Gwybodaeth y tu allan i oriau gwaith
Bydd Yr Tîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael ar gyfer argyfyngau'n unig y tu allan i'r amserau hyn. Peidiwch â chysylltu â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng oni bai fod sefyllfa frys na all aros tan i'r gwasanaethau dydd ailagor.
Mewn argyfwng lle gall oedolyn neu blentyn fod mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999.