Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol
Mae'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn gweithio ochr yn ochr â phobl ag anableddau dysgu a'u rhwydweithiau cefnogi i asesu anghenion, cytuno ar ganlyniadau a datblygu cynlluniau gofal.
Mae'r tîm yn darparu mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio ystod eang o gymorth gan gynnwys:
- Cyfleusterau cymunedol integredig
- Cyfleoedd dydd
- Gofal cartref
- Gofal seibiant
- Byw â chymorth
- Gofal preswyl
- Taliadau uniongyrchol
- Gwirfoddoli, cyflogaeth
- Pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
Mae'r tîm ar gael:
9.00am - 5.00pm dydd Llun - dydd Iau.
9.00am - 4.30pm dydd Gwener.
- Enw
- Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol
- E-bost
- CLDTDutyDesk@swansea.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 614100
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 04 Hydref 2023