Cofrestru ar gyfer hawlenni parcio i breswylwyr tai amlfeddiannaeth
Os ydych chi'n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth ac ni allwch gael Cyfeirnod Treth y Cyngor gan eich landlord, bydd angen i chi roi gwybod i ni fel y gallwn eich cofrestru ar ein system cyn y gallwch gyflwyno cais am hawlen.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen isod ac wedi derbyn cadarnhad gennym drwy e-bost, gallwch gyflwyno cais am hawlen barcio i breswylwyr.
Dyma'r dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno unwaith y byddwch wedi cofrestru, er mwyn cyflwyno cais am hawlen:
- eich llyfr cofrestru V5 ar gyfer eich cyfeiriad yn Abertawe
- eich trwydded yrru ar gyfer eich cyfeiriad yn Abertawe
- eich dogfen/tystysgrif yswiriant ar gyfer eich cyfeiriad yn Abertawe
Os nad oes gennych y dystiolaeth hon, peidiwch â pharhau i lenwi'r ffurflen hon.