Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Dadfeilio mewn tai a rentir yn breifat

Os nad yw tai'n cael eu cynnal a'u cadw a'u hatgyweirio'n rheolaidd, gallant ddadfeilio a bod yn anniogel.

Rydym yn defnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) i asesu dadfeilio a pheryglon eraill yn yr holl dai a rentir yn breifat. Dylai unrhyw eiddo preswyl ddarparu amgylchedd diogel ac iach i unrhyw breswylydd neu ymwelydd. 

Mae arolygiadau'n asesu'r tebygolrwydd y gall rhywbeth peryglus ddigwydd yn yr eiddo.  Mae hefyd yn edrych ar yr effeithiau iechyd os bydd rhywbeth yn digwydd.  

Er enghraifft, os yw grisiau'n arbennig o serth heb ganllaw, pa mor debygol y mae person hŷn neu blentyn ifanc o gwympo i lawr y grisiau o fewn y flwyddyn nesaf? Os yw'r grisiau'n arbennig o fawr neu serth ac mae'r llawr ar waelod y grisiau'n arwyneb cadarn, fel llawr pren, mae siawns anaf difrifol yn uwch na chwympo i lawr grisiau bach iawn ar garped.  Felly, gall niwed amrywio o gleisiau cymharol fach i anaf angheuol. 

Ar ôl yr arolygiad, rhoddir sgôr a allai arwain at gamau gweithredu gan y cyngor.  Os yw'r sgôr yn berygl categori 1, bydd rwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i gymryd camau gorfodi, hyd yn oed os nad yw'r preswylydd eisiau hyn.  Ar gyfer perygl categori 2, caiff y cyngor ddewis cymryd camau gorfodi ai peidio.  

Gallai camau gorfodi gynnwys gwasanaethu hysbysiad ar y landlord gan y cyngor. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddo wneud gwaith gwella neu beidio â defnyddio rhan neu'r cyfan o'r eiddo. 

Mewn rhai achosion, caiff y cyngor ei hun gymryd camau ar unwaith i gael gwared ar berygl.  Byddwn yn adennill costau gan y landlord.  Er enghraifft, pe bai boeler nwy'n cynhyrchu carbon monocsid.

Gallwch ofyn am arolygiad o'ch eiddo trwy gysylltu â tai a rentir yn breifat.

Os ydych yn denant ac mae gennych broblem gyda'ch eiddo, cysylltwch â'ch landlord neu'ch asiant yn gyntaf i roi cyfle iddo ddatrys y broblem. Os ydych yn cysylltu â ni, bydd yn rhaid i ni gysylltu â nhw o hyd cyn i ni benderfynu pa gamau gweithredu fydd eu hangen.

Gwybodaeth bwysig i cenantiaid y cyngor

Os ydych yn rhentu tŷ cyngor a hoffech adrodd am waith atgyweirio, cysylltwch ag Atgyweiriadau Tai.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mai 2022