Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - darparu gwybodaeth a chefnogaeth

Yn ol y gyfraith, nid oes gorfodaeth gyfreithiol ar yr ALI i ddarparu unrhyw adnoddau i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.

Fodd bynnag, bydd yn:

  • darparu cyngor a chefnogaeth ynghylch materion cwricwlaidd
  • darparu gwybodaeth am sefydliadau sy'n cefnogi addysgwyr cartref
  • darparu gwybodaeth er mwyn cael mynediad at wasanaeth Gyrfa Cymru
  • darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau cefnogi.

Awtistiaeth

Elusen yn y DU yw cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru ac mae'n cynnig cefnogaeth i bobl ag awtistiaeth (gan gynnwys syndrom Asperger) a'u teuluoedd. Mae gwefan CGA Cymru'n cynnwys popeth sydd ar gael ar wefan y dU am awtistiaeth, ac mae'n darparu gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau yng Nghymru.

SNAP Cymru

Elusen Cymru gyfan i blant yw SNAP Cymru ac mae ar gael i bawb sy'n gweithio gyda theuluoedd, pobl ifanc a phobl broffesiynol ar faterion sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Mae SNAP am ddim i deuluoedd ac mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd a chywir am Gynllun Cefnogi Teuluoedd annibynnol.

Diben

Diben y canllawiau hyn yw cefnogi rhieni a Chyngor Abertawe wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau statudol ac i annog arfer da trwy nodi'n glir y safle deddfwriaethol, rolau a chyfrifoldebau'r awdurdod lleol a rhieni mewn perthynas a phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.

Mae'r ALI yn cydnabod bod llawer o ymagweddau at ddarpariaeth addysgol, nid model 'ysgol gartref' yn unig. Efallai nad yw'r hyn sy'n addas i un plentyn yn addas i blentyn arall, ond dylai pob plentyn gymryd rhan yn y broses ddysgu.

Mae'n bwysig bod yr holl bartion sy'n rhan o addysg ddewisol yn y cartref yn ymwybodol o'u rolau, eu hawliau a'y cyfrifoldebau. Ein polisi yw sicrhau bod yr holl ganllawiau'n glir, yn dryloyw ac yn hygyrch i rieni. Mae pob un o'n gweithdrefnau ar gyfer ymdrin a rhieni sy'n addysgwyr cartref a phlant yn deg, yn glir, yn gyson ac nid ydynt yn ymwthiol, ac mae hyn yn darparu sylfaen dda er mwyn datblygu perthnasoedd ymddiriedus.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2021