Toglo gwelededd dewislen symudol

Data lles lleol

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) wedi gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i ddatblygu porth data lles ar gyfer partneriaethau a defnyddwyr eraill ar draws y rhanbarth.

Rhaid i bob BGC yng Nghymru gynnal asesiad o les lleol bob pum mlynedd, sy'n darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ei gynllun lles. Fodd bynnag, mae hefyd angen i ni olrhain newid yn Abertawe yn y cyfnodau rhwng asesiadau a chynlluniau, i fesur cynnydd ac i lywio ein hadroddiadau blynyddol a'n cynlluniau gweithredu.

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Chwm Taf Morgannwg wedi cydweithio â Data Cymru i ddatblygu dangosfwrdd data i gefnogi monitro lles ar lefel y boblogaeth a'n hasesiadau lles lleol yn y dyfodol.

Mae'r dangosfwrdd byw yn sicrhau bod data perthnasol ac amserol ar gael rhwng asesiadau a bydd yn helpu'r BGC a'i bartneriaid wrth ddadansoddi, adrodd, datblygu polisi a chynnal gwaith gwerthuso. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i grant cymorth rhanbarthol blynyddol ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Trefnir dangosyddion y dangosfwrdd yn ôl wyth thema lefel uchel, sef:

  • plant a phobl ifanc
  • yr amgylchedd
  • iechyd a lles
  • diogelwch a chadernid cymunedol
  • cyflogaeth ac incwm
  • diwylliant a threftadaeth
  • tai
  • demograffeg

Mae rhagor o wybodaeth am y porth a sut i'w ddefnyddio wedi'i chynnwys ar y wefan, sy'n cael ei chynnal gan ein partneriaid yn Data Cymru.

Dangosfwrdd data Lles Lleol Abertawe (dolen Data Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Hydref 2025