Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgwâr y Castell

Bwriedir cyflwyno cynllun adfywio newydd ar gyfer Sgwâr y Castell er mwyn gwella'i ansawdd a'i wneud yn fwy deniadol, gwahanol a bywiog.

Bydd lle cyhoeddus adfywiedig â defnyddiau newydd yn golygu y bydd Sgwâr y Castell yn rhan o'r rhaglen adfywio ehangach sy'n digwydd yn barod yn Abertawe, gan atgyfnerthu'r nod o'i gwneud yn ddinas ddeniadol i fyw, gweithio ac ymweld â hi.  Mae angen lle cyhoeddus modern, ymarferol sydd wedi'i gynnal yn dda lle bydd pobl am dreulio amser o safon ac ymlacio, a lle y gellir cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrofiadau diwylliannol o hyd.

Mae cynllun cysyniad cychwynnol wedi'i baratoi ar gyfer y Sgwâr, sy'n ystyried yr holl ofynion hyn. Mae'r cynlluniau ar gyfer y Sgwâr ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Lle croesawgar gyda man gwyrdd mwy defnyddiadwy, a chynyddu'r tirlunio o 25% o'r ardal bresennol i fwy na 40% er mwyn cyflwyno mwy o gymeriad, lliw a bioamrywiaeth.
  • Mwy o goed - gyda'r rhan fwyaf o'r coed sydd yno eisoes yn aros. 
  • Unedau bwyd a diod newydd - caffis neu fwytai mewn lle deniadol sy'n addas i deuluoedd, gyda chanopïau i ddarparu cysgod a lloches er mwyn i bobl eistedd y tu allan ac ymlacio. 
  • Caiff y ffynnon ddŵr bresennol ei symud, a gosodir nodwedd jetiau dŵr difyr yn ei lle, gyda ffynhonnau bach yn codi o'r ardal balmantog.
  • Bydd ardal balmantog well sy'n hygyrch i bawb ac yn addas i gerddwyr.
  • Gwneir gwelliannau i Caer Street a Castle Bailey Street er mwyn eu gwneud yn fwy addas i gerddwyr a gwella cysylltedd â chastell y ddinas, a chaiff Wind Street ei gwella.
  • Byddai'r lle sydd ar gael i bobl ymgasglu, eistedd allan ac ymlacio yn aros yr un peth. Byddai'n aros yn ganolbwynt pwysig ar gyfer digwyddiadau a chynulliadau fel y rheini a gynhaliwyd yno cyn y pandemig.

Gallai Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd agor mor gynnar â diwedd y flwyddyn nesaf.

Golwg arfaethedig o Sgwâr y Castell o gylchfan Princess Way

Castle Square vision (view from Princess Way roundabout).

Cynllun Sgwâr y Castell

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch sgwarcastell@abertawe.gov.uk.

Cwestiynau cyffredin am Sgwâr y Castell

Cwestiynau cyffredin am y prosiect i ailddatblygu Sgwâr y Castell.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2021